Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny 636292 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

  • Y Cyng. Paxton Hood-Williams - Cynghorydd Cymuned, Cyngor Cymuned y Crwys a Chilâ Uchaf a Chymdeithas Chwaraeon y Crwys a'r Cylch
  • Y Cyng. Brigitte Rowlands - Cynghorydd Cymuned, Cyfeillion CCP a Chyfeillion Felindre a Neuadd Garnswllt
  • Y Cyng. Jeff Jones - Cyfeillion Parc Dynfant
  • Y Cyng. Peter Jones - Cyfeillion yr Ardd Fotaneg

 

2.

Cofnodion. pdf eicon PDF 111 KB

Cymeradwyo a llofnodifel cofnod cywirgofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Cymeradwywyd

 

3.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

·         Rhaid i gwestiynau ymwneud â materion yn rhan agored agenda'r cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

·         Dim

4.

Adolygiad o Grwpiau Cymunedol - Cyfeillion Parciau/Canolfannau Cymunedol pdf eicon PDF 145 KB

·         Sue Reed - Rheolwr Datblygu Cymunedau, Partneriaethau a Chyrchfannau

·         Tracey McNulty - Pennaeth y Gwasanaethau Diwylliannol

·         Y Cyng. June Burtonshaw - Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwell (Lleoedd)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

  • Estynnodd y Cyng. Burtonshaw ddiolch diffuant i'r holl wirfoddolwyr sy’n ymwneud â gweithgareddau cymunedol - "byddai cymunedau'n chwalu hebddyn nhw"
  • Mae grwpiau cymunedol yn bwysig i gymunedau, mae'r tîm yn gweithio gyda nhw i gael gwybod am yr hyn sy'n ofynnol ganddynt a'r hyn sydd ei angen arnynt
  • Gall ganolfannau a lleoliadau a gynhelir gan wirfoddolwyr gael fynediad at grantiau nad ydynt ar gael i’r cyngor
  • Mae gan leoliad Penderi gynllun gwobrwyo gwirfoddolwyr
  • Mae sicrhau cynaladwyedd tymor hir adnoddau’n rhan o’r strategaeth gorfforaethol
  • Ers 2016 mae llywodraethu wedi newid i fodel datblygu cymunedol
  • Mae cynnwys y Pafiliynau Dinasyddion Hŷn wedi bod yn llwyddiant ysgubol
  • Mae gan Abertawe 38 o ganolfannau cymunedol ffyniannus
  • Mae’r neuadd yn y Glais yn enghraifft wych o weithio llwyddiannus mewn partneriaeth
  • Mae nifer y staff yn y tîm cefnogi datblygiad cymunedol wedi lleihau’n sylweddol oherwydd toriadau’r cyngor.
  • Mae arbedion wedi deillio o ganlyniad i’r model newydd
  • Mae adeiladau’n parhau i fod yn ased y cyngor. Y cyngor yw’r landlord ac nid yw’r berthynas wedi’i thynnu’n ôl
  • Mae gan y tîm ffolder o ddogfennau safonol ynglŷn â pholisïau a gweithdrefnau a sut i ymsefydlu grwpiau etc.
  • Mae’r costau'r adeiladau/ardaloedd hyn yn berthnasol i’r cyngor ynghylch cynnal a chadw ac iechyd a diogelwch yn unig
  • Mae perthynas barhaus â phrosiect Y Tu Hwnt i Frics a Mortar
  • Bu llawer o fuddsoddiadau sylweddol – cymysgedd o grantiau a chyllido grwpiau
  • Derbyniwyd buddsoddiad allanol gwerth £300k ar gyfer parciau
  • Mae cefnogaeth ar gael i wirfoddolwyr wneud ceisiadau ar gyfer cyllid allanol ac mae’r tîm yn cefnogi hyn.
  • Cydnabyddir Abertawe fel enghraifft o arfer da ynghylch datblygu cymunedol
  • Cymeradwywyd y gefnogaeth a roddwyd ym Mhontarddulais – ‘heb ei hail’
  • Mae adeiladau cymunedol yn amhrisiadwy ond mae angen pobl newydd ar bwyllgorau i helpu i barhau â dyletswyddau
  • Mae materion parhaus yn bodoli ynghylch recriwtio gwirfoddolwyr a cholli gwirfoddolwyr oherwydd gorweithio ond mae pobl iau yn dechrau cymryd rhan
  • Ni roddir digon o gydnabyddiaeth i wirfoddolwyr
  • Dylai’r adroddiad nodi cysylltiadau â’r Cynghorau Cymuned a CGGA
  • Trafodwyd syniadau i gydnabod gwaith y gwirfoddolwyr
  • Dylai’r drwydded nodi’n glir y gwahaniaeth rhwng trosglwyddo asedau cymunedol a’r trefniant presennol.
  • Trafodwyd a ddylid cynnwys swyddogaethau cymunedol o fewn un gwasanaeth

 

5.

Adroddiad Blynyddol Cwynion Corfforaethol 2017/18 pdf eicon PDF 114 KB

·         Julie Nicholas Humphreys - Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid

·         Y Cyng. Clive Lloyd – Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Mae’r duedd yn debyg i’r blynyddoedd cynharach - mae nifer y cwynion wedi cynyddu

·         Mae rhywfaint o hyn oherwydd mynediad gwell at y weithdrefn cwyno

·         Mae canmoliaeth yr un mor bwysig a dylid ei chydnabod

·         Mae’r tîm yn edrych ar wraidd cwynion ac yn gweithio gyda thimau perthnasol i wella prosesau

·         Ni noda’r adroddiad unrhyw bryderon na thueddiadau sylweddol

·         Cadarnhawyd llai na 50% o gwynion cam 1

·         Symudwyd 100 o gwynion i gam 2 ac o’r rheini, cadarnhawyd 24 ohonynt yn unig

·         Dylai’r newidiadau i gerbydau cerbydlu’r adran wastraff fynd i’r afael â rhai o’r materion a oedd yn bodoli ynghylch cwynion am wastraff e.e. cerbydau wedi torri i lawr.

·         Aeth 62 o bobl at yr Ombwdsman a chadarnhawyd 1 o’r cwynion hynny. Er hynny, roedd rhai o’r cwynion yn gynamserol a chyfeiriwyd hwy yn ôl i’r cyngor.

·         Daw ceisiadau am wasanaeth cyn cwyn cam 1

·         Gellir lleihau cynnwys Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio i un paragraff gan nas defnyddir yn aml oherwydd yr Heddlu sy’n ei defnyddio gan amlaf gyda chefnogaeth y cyngor

·         Awgrymwyd ystyried ceisiadau rhyddid gwybodaeth mewn adroddiad ar wahân i’r tîm craffu yn hytrach nag eu cynnwys yn yr adroddiad cwynion.

 

6.

Cynllun Gwaith 2018 - 2019. pdf eicon PDF 68 KB

Cofnodion:

  • Amlygwyd yr eitemau archwilio newydd yn y cynllun gwaith
  • Amlygwyd cyfarfod ychwanegol ym mis Mai
  • Bwletin Perfformiad Llywodraeth Leol - cytunwyd i anfon dolen i’r wefan yn hytrach na’i gynnwys fel eitem cyfarfod

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 182 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet (2) pdf eicon PDF 188 KB

Ymateb gan Aelod y Cabinet (2) pdf eicon PDF 299 KB