Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny 636292 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

·         Dim

2.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

·         Rhaid i gwestiynau ymwneud â materion yn rhan agored agenda'r cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

·         Dim

3.

Craffu ar y Gyllideb Flynyddol

·         Dolen i Bapurau’r Cabinet ar gyfer 14 Chwefror 2019, sy’n cynnwys y cynigion cyllidebol (dylai’r papurau fod ar gael o 7 Chwefror 2019.)

 

·         Rob Stewart - Aelod y Cabinet - Economi a Strategaeth (yr Arweinydd)

·         Ben Smith - Pennaeth Gwasanaethau Ariannol a’r Ganolfan Wasanaeth

Cofnodion:

  • Gorwariant disgwyliedig o £8 miliwn gyda rhywfaint o welliant a ddisgwylir yn Chwarter 4
  • Pwysau parhaus ym maes gofal cymdeithasol
  • Nid yw Llywodraeth Leol yn cael ei hariannu'n ddigon da - nid yw cyni wedi dod i ben
  • Mae plant sy'n derbyn gofal yn dal i fod yn faes sydd dan bwysau mewn termau ariannol
  • Trafodaethau parhaus am gostau gofal rhwng y bwrdd iechyd lleol a Chyngor Abertawe
  • Wrth i gyllid Llywodraeth Ganolog gael ei leihau, mae'r baich yn cael ei drosglwyddo i'r trethdalwr lleol
  • Ansicrwydd ynghylch cyllid ar gyfer y blynyddoedd nesaf
  • Hoffem weld grantiau yn cael eu symud i'r Grant Cynnal Refeniw
  • Mae pob awdurdod arall yn yr un sefyllfa
  • Y risg fwyaf yw'r gallu i gyflawni'r arbedion yn gyflym ac yn ddigonol
  • Mae codiad cyflog athrawon, pensiynau, chwyddiant cyffredinol a'r cyflog byw yn fentrau heb eu hariannu'n ganolog
  • Mae rhai o'r 161 o swyddi sydd mewn perygl eisoes yn wag
  • Mae'r gronfa wrth gefn ar y lefel isaf a fyddai’n ddoeth
  • Rhywfaint o arian cyfalaf ychwanegol gan Lywodraeth Cymru
  • Mae cael hyblygrwydd mewn grantiau refeniw wedi bod o gymorth mawr
  • Mae gostyngiad mewn costau ariannu cyfalaf eleni yn sgîl adolygiad Darparu Lleiafswm Refeniw
  • Mae'r costau'n aros yr un peth dros gyfnod oes - ond effeithir ar yr amseru - ad-daliadau is i ddechrau, yna'n cynyddu, yna'n gorffen ynghynt
  • Ni chaniateir eto ar gyfer incwm ar gynlluniau adfywio'r ddinas - o ganlyniad cymerir yn ganiataol y ceir yr uchafswm o gymhorthdal gan y sector cyhoeddus
  • Cyfyngu dyled i 40 mlynedd yn hytrach na chaniatáu iddi barhau'n ddiderfyn.
  • Mae proses ar gyfer llenwi swyddi o fewn gwasanaethau rheng flaen hanfodol
  • Edrychir ar newidiadau ar gyfer salwch a sut y caiff ei reoli
  • Y Cyfrif Refeniw Tai - mae buddsoddiad refeniw a chyfalaf yn cael ei gynnal gan lefelau rhent
  • Mae angen cynnydd rhesymol yn lefelau rhent i gynnal y stoc tai
  • Mae agenda adeiladu a thrawsnewid ysgolion ar gyfer y ddinas ac mae angen addasu'r swm i gyfrif am y grant ychwanegol o £20m gan Lywodraeth Cymru
  • Bydd cyfnod ymgynghori ar gyfer cynyddu Treth y Cyngor ar gartrefi gwag a chartrefi gwyliau/ail gartrefi
  • Trafodwyd ar drethi annomestig ynghylch: HMO 

 

4.

Crynhoi Barn a Chyflwyno Argymhellion

·         Yna bydd Chris Holley, Cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid, yn mynd i gyfarfod y Cabinet ar 14 Chwefror i gyflwyno barn gyfunol y paneli perfformiad craffu.

Cofnodion:

·         Trafododd y panel gynnwys y llythyr yn seiliedig ar y drafodaeth o'r eitem flaenorol

·         Mae'r pwyntiau gan bob panel fel a ganlyn:

 

Cyllideb Datblygu ac Adfywio

 

  1. Mae risg yn gysylltiedig â'r adolygiad llywodraethu - os nad yw'r adolygiad llywodraethu'n ffafriol, gallai hyn gael effaith ar yr arian sydd i ddod i Gyngor Abertawe i wrthbwyso'r hyn a wariwyd eisoes.
  2. Mae risg yn gysylltiedig â’r ffaith nad yw’r achos busnes wedi'i gymeradwyo eto. Hyd nes i hyn gael ei wneud, ni all unrhyw arian ddod i Gyngor Abertawe - golyga hyn bod yr arian sydd eisoes wedi'i wario mewn perygl. Byddai hyn yn broblem sylweddol.
  3. Mae angen digon o gymorth busnes i gyflwyno prosiectau adfywio - byddai eglurhad am sut mae top slicing (sef cymryd canran o brosiectau a ariennir yn allanol i ariannu rolau cefnogi busnes) yn ddefnyddiol.

 

Cyllideb Gwasanaethau i Oedolion

 

  1. Cyflawnwyd 80% o'r arbedion arfaethedig yn y flwyddyn ariannol hon. Mae'r targed arbedion ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf felly yn ymddangos yn uchelgeisiol, yn enwedig gan fod llawer o'r gwariant yn cael eu arwain gan alw.
  2. Gan ein bod ni wedi gorwario £1 filiwn eleni o ganlyniad i 'wrthwynebiad gan y BILl i drafod cyfraniadau cyfiawn ac addas tuag at becynnau gofal a nodwyd' roedd pryder ymysg y panel y bydd hon yn broblem barhaus yn y flwyddyn ariannol nesaf. Roedd y panel yn teimlo bod angen datrys hyn cyn gynted â phosib os ydym am lynu wrth y gyllideb ar gyfer 2019-20.
  3. Nid yw'n glir pryd bydd arbedion o bob un o'r adolygiadau comisiynu gwasanaeth yn dechrau neu ba arbedion sy'n berthnasol i ba adolygiad. Mae'r broses yn ymddangos yn eithaf aneglur o safbwynt y panel a byddem yn croesawu dadansoddiad mwy manwl.
  4. Byddwn yn trafod y gyllideb eto ym mis Hydref fel y gallwn ni fonitro canlyniadau'r arbedion effeithlonrwydd arfaethedig yn fwy gofalus.

 

Cyllideb - Addysg

 

  1. Roedd y panel yn falch o weld bod gan addysg 'flaenoriaeth gymharol' yn y gyllideb eto eleni.
  2. Roedd gan y panel bryderon am effaith cost y cynnydd ym mhensiynau athrawon nad oedd Llywodraeth y DU yn talu amdano ar hyn o bryd. Mae'r panel am sicrhau bod y Cabinet yn gwneud popeth posibl i sicrhau nad yw ysgolion dan anfantais oherwydd y swm sylweddol hwn.
  3. Roedd aelodau’r panel yn falch o glywed y bydd y gwasanaeth cerdd ysgolion yn derbyn cyllid ychwanegol eleni gan Lywodraeth Cymru ac roeddent yn awyddus i bwysleisio mor bwysig oedd hi fod disgyblion yn gallu cael mynediad at gerddoriaeth ac yn cael ymddiddori ynddi.
  4. Roedd aelodau’r panel yn falch o glywed am eglurder a thryloywder gwell arfaethedig y cyllid grant a ddosberthir trwy ERW ond maent yn awyddus i fonitro'r gwelliannau hyn yn y dyfodol.

 

 

 

Cyllideb - Plant a Theuluoedd

 

  1. Nid oes pryderon gwirioneddol o ran y gyllideb. Atebwyd y cwestiynau i gyd yn y cyfarfod.
  2. Er yn falch o weld y gyllideb ar gyfer y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn cynyddu'r flwyddyn nesaf, deallwn nad yw'n cynyddu mewn gwirionedd gan y bydd cynnydd yn talu am gynnydd mewn costau cyflog a llety.
  3. Mae'r panel yn cydnabod ei bod hi'n anodd rhagweld beth fydd yn digwydd yn ystod y flwyddyn gan fod y gwasanaeth yn cael ei yrru gan alw.
  4. Bydd Panel y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn parhau i graffu ar y gwasanaeth yn y dyfodol a gwneud awgrymiadau ac argymhellion ar gyfer gwella.

 

 

 

 

Llythyr at Aelod y Cabinet

Ymateb gan Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 310 KB