Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny - 01792 637732 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

·         Mae'r Cynghorydd Lynda James yn llywodraethwr yn Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt

·         Mae'r Cynghorydd Des Thomas yn aelod o Activa Leisure

 

2.

Adolygiad comisiynu-gwasanaethau diwylliannol. pdf eicon PDF 312 KB

·         Martin Nicholls - CyfarwyddwrLleoedd

·         Robert Francis-Davies - Aelod y Cabinet - Diwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr

·         Tracey McNulty - Pennaeth Gwasanaethau Diwylliannol

·         Jamie Rewbridge - Rheolwr Strategol Hamdden, Partneriaethau, Iechyd a Lles

Cofnodion:

  • Pwysleisiodd y Pennaeth Gwasanaeth natur gyfrinachol yr adolygiad comisiynu hwn
  • Mae'r cyngor wedi rhoi strategaeth arbedion tymor hir ar waith ac mae'n ystyried modelau amgen o gyflwyno a chostau
  • Roedd yr adolygiad comisiynu hwn yn fanwl ac yn gymhleth a chymerodd dair blynedd i'w gwblhau
  • Adolygwyd yr holl wasanaethau diwylliant
  • Nid trosglwyddo cyfrifoldeb oedd y bwriad byth, ond chwilio am ateb gwell i'r cyhoedd a'r staff
  • Roedd yn rhaid penderfynu ar fforddadwyedd ar gyfer y cyngor a phenderfynu ar sut gallai parti arall wella hyn
  • Ystyriwyd modelau a strwythurau gwahanol
  • Y casgliad yw bod safbwynt cryf o blaid contractio a chyflwyno gwasanaethau ar ran y cyngor ar brydles tymor hir.
  • Cedwir y gallu a'r lle i weithio gyda chontractwr i sicrhau ei fod yn gwneud popeth y dylai fod yn ei wneud
  • Ni ellir newid strwythurau prisio, oriau a mynediad
  • Roedd y cymhelliant yn un ariannol ac nid oherwydd diffyg sgiliau o fewn y cyngor
  • Roedd y broses yn gangen o'r adolygiad comisiynu gwreiddiol
  • Amddiffynnir defnydd ar gyfer yr holl ysgolion ac ymdrinnir â materion diogelu a'u gwella
  • Mae undebau wedi cael eu cynnwys drwy gydol y broses a bydd amodau a thelerau staff yn cael eu hamddiffyn ni waeth os newidir swyddi. Ni all amodau a thelerau ar gyfer staff newydd fod yn llai ffafriol
  • Y cyngor fydd yn pennu'r strwythurau prisio
  • Erys yr adeiladau dan berchnogaeth y cyngor
  • Mae'n rhaid dychwelyd yr adeiladau i'r un cyflwr ag oeddent pan gawsant eu rhoi
  • Cynhaliwyd arolygon cyflwr ar gyfer yr holl asedau a gwnaethpwyd y rhain gan gwmni allanol annibynnol.
  • Awgrymwyd y dylai'r arolygon cyflwr gael eu cynnal gan sefydliad annibynnol ac nid yn fewnol
  • Os darganfyddir nad yw'r adeiladau wedi cael eu cynnal pan gânt eu harchwilio, rhoddir gorchymyn adfeiliad

 

3.

Gwahardd y cyhoedd pdf eicon PDF 114 KB

4.

Adolygiad comisiynu-gwasanaethau diwylliannol.

Cofnodion:

·         Trafodwyd yr eitemau eithriedig

 

Llythyr at Aelod y Cabinet 19/6/ 18 pdf eicon PDF 181 KB