Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny - 637732 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim

2.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

·         Rhaid i gwestiynau ymwneud â materion yn rhan agored agenda'r cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Dim

3.

Adolygiad Comisiynu Priffyrdd a Chludiant pdf eicon PDF 75 KB

·         Phil John - Rheolwr Prosiect, Priffyrdd a Chludiant

·         Stuart Davies – Pennaeth Gwasanaeth, Priffyrdd a Chludiant

·         Mark Thomas – Aelod y Cabinet dros Wasanaethau’r Amgylchedd

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Canslwyd y cyfarfod oherwydd problemau gyda phapurau'r Cabinet.

Trefnir cyfarfod arall.

 

Cynhaliwyd cyfarfod ar 14 Chwefror i gynnwys adroddiad ychwanegol na chafodd ei gynnwys yn y gwaith papur gwreiddiol.

Nodiadau fel a ganlyn:

 

(Sylwer: Gohiriwyd y cyfarfod hwn tan 14 Chwefror)

 

  • Mae'r adroddiad hwn wedi bod yn yr arfaeth am gryn dipyn o amser ond oherwydd adolygiadau a newidiadau sy'n gorgyffwrdd, bu'n rhaid ei ohirio.
  • Y bwriad oedd dadansoddi'r holl wasanaeth yn drylwyr, gan ystyried y sefyllfa bresennol a meincnodi lle bo'n briodol.
  • Mae ymgais i symleiddio'r holl wasanaethau.
  • Ystyriwyd cynigion anffafriol am gyllid, gan wrthod y rheiny nad oeddent yn briodol.
  • Ceisio cael staff i weithio ar sawl tasg cymaint â phosib lle bo hynny'n briodol.
  • Mae cyfyngiad i'r toriadau y gellir eu gwneud cyn niweidio gwasanaeth.
  • Mae ffyrdd yn dioddef o ddiffyg cyllido mawr ond mae'r adran yn ceisio bod yn flaengar.
  • Cwblhau archwiliadau diogelwch ffyrdd i awdurdodau lleol eraill er mwyn mwyafu incwm
  • Bodlonrwydd mawr bod rheolaeth yr orsaf fysus yn effeithlon ac yn gost-effeithiol
  • Cydnabuwyd llwyddiant y Marina
  • Cydnabuwyd bod ffurfio Uned Gludiant Integredig yn rhywbeth cadarnhaol
  • Trafodwyd materion gorfodi parcio ar y stryd ac anawsterau wrth roi cynlluniau parcio i breswylwyr ar waith
  • Archwiliwyd a oes uchafswm o arian y gellir ei wario yn mhob ward etholiadol y flwyddyn ar waith atgyweirio tîm PATCH
  • Caiff rhai ffyrdd eu harchwilio'n fisol a rhai'n flynyddol. Ceir amserlenni atgyweirio gyda phroblemau ffyrdd difrifol. Rydym mewn sefyllfa well na llawer o awdurdodau lleol eraill ond nid yw trwsio tyllau yn y ffyrdd yn gwella rhwydwaith y ffyrdd.
  • Nid oes digon o arian yn cael ei wario ar gynnal a chadw ffyrdd a chynnal a chadw ardaloedd ger y ffyrdd.
  • Ystyriwyd a oes terfyn arian o ran yr hyn y gellir ei wario ym mhob ward etholiadol bob blwyddyn.
  • Mae goleuadau LED wedi bod yn llwyddiannus; nid yn unig y mae wedi arbed arian ond mae wedi arwain at leihau defnydd ynni a lleihau allyriadau carbon. Ystyriwyd pa ardaloedd yn Abertawe sy'n aros am oleuadau LED i gael eu gosod o hyd.
  • Mae'r adolygiad yn gynhwysfawr ac yn fanwl iawn.
  • Canmoliaeth i'r tîm am ei lunio

 

4.

Gwahardd y Cyhoedd. pdf eicon PDF 122 KB

Cofnodion:

Dim

5.

Adolygiad Comisiynu Priffyrdd a Chludiant

Cofnodion:

Trafodwyd yr eitemau eithriedig