Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny 637732 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim

2.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

·         Rhaid i gwestiynau ymwneud â materion yn rhan agored agenda'r cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Dim

3.

Craffu ar y Gyllideb Flynyddol pdf eicon PDF 101 KB

·         Councillor Rob Stewart - Economi a Strategaeth (yr Arweinydd)

·         Ben Smith - Pennaeth Gwasanaethau Ariannol a’r Ganolfan Wasanaeth

 

Isod ceir dolen i bapurau’r Cabinet ar gyfer 15 Chwefror 2018, sy’n cynnwys cynigion y gyllideb.

 

https://democracy.swansea.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=124&MId=7520&Ver=4&LLL=0

 

Cofnodion:

Panel Gwella Gwasanaethau a Chraffu Cyllid - Pwyntiau Trafod ar y Gyllideb

 

Amlygwyd y pwyntiau allweddol canlynol:

 

  • Yn gyffredinol, ysgrifennodd Ben Smith yr adroddiad yn dda - mae'n hygyrch a dyma'r gorau rydym wedi'i weld ers amser hir. Canmoliaeth i Ben.
  • Roedd yr ymarfer ymgynghori yn anfoddhaol. Roedd yn generig ac nid oedd yn geirio cwestiynau'n gywir er mwyn manteisio i'r eithaf ar rannu gwybodaeth. Mae'r ffordd yr ydych yn gofyn cwestiynau ac i bwy yr ydych yn gofyn yn bwysig. Dylid gwella hyn wrth symud ymlaen.
  • Mae'r Costau Ariannu Cyfalaf yn destun pryder gan nad oes cynnydd yn yr arian gan Lywodraeth Cymru.
  • Mae'n bwysig ystyried manylion rhai buddsoddiadau, er enghraifft, faint o rent ddaw allan o eiddo y bydd y cyngor yn eu prydlesu.
  • Mae cyllideb wrth gefn/gadw o £3m ar gyfer y flwyddyn nesaf yn ymddangos yn isel

 

Panel Perfformiad Ysgolion

 

Amlygwyd y pwyntiau allweddol canlynol:

 

  • Mae'r panel yn cefnogi'r cynigion cyllidebol sy'n ymwneud ag addysg a sut y dyrannwyd arian, o ystyried y sefyllfa gyllidebol bresennol.
  • Codwyd y mater o dderbyn cyllideb flwyddyn ar ôl blwyddyn gan Lywodraeth Cymru, yn enwedig wrth ystyried yr angen i gynllunio gwasanaethau dros y tymor hwy (fel y cyfeiriwyd ato yn Neddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol). Mae'r panel yn cydnabod bod yr awdurdod yn datblygu cynllun tymor canolig 3 blynedd dangosol ond bydd hwn yn newid o flwyddyn i flwyddyn gan ddibynnu ar ddyraniad yr awdurdod lleol gan Lywodraeth Cymru. Byddai'r panel yn annog cynghorau i weithio gyda'i gilydd i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru o ran datblygu cynllun ariannu tymor hwy. Roedd y panel hefyd yn awyddus i weld newidiadau'n cael eu gweithredu a fyddai'n lleihau oedi rhwng dyrannu grantiau gan Lywodraeth Cymru a derbyn yr arian hwnnw.
  • Roedd gan y panel bryderon am yr effaith y bydd y gostyngiad 11% yn y grant gwella addysg yn ei chael ar wasanaethau cefnogi, yn enwedig y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig, ond roedd yn falch o glywed bod yr awdurdod yn bwriadu llenwi'r bwlch ar gyfer rhai gwasanaethau gan ddefnyddio arian wrth gefn am flwyddyn.
  • Clywodd y panel fod rhai ysgolion yn rheoli'r sefyllfa gyllidebol anodd yn well nag eraill: teimlodd y panel y byddai rhannu arfer da ar draws ysgolion mewn perthynas â'r agwedd hon yn fuddiol iawn.
  • Gellid ystyried lleihau cost cludiant ysgol drwy ddefnyddio adnoddau cludiant y mae'r cyngor eisoes yn berchen arnynt. Gweithio ar draws adrannau, er enghraifft, defnyddio bysus mini'r gwasanaethau cymdeithasol.

 

 

 

 

 

Panel Gwasanaethau i Oedolion

 

Amlygwyd y pwyntiau allweddol canlynol:

 

  • Y llynedd, gwariwyd £3m dros y gyllideb yn adran y Gwasanaethau i Oedolion.  Mae'r panel o'r farn na reolwyd y gorwariant y llynedd.
  • Mae anghysondeb yn y ffigurau - dywedwyd wrth y panel fod y gyllideb ar gyfer y Gwasanaethau i Oedolion y flwyddyn nesaf wedi cynyddu £3.5 miliwn. Fodd bynnag, ar dudalen 118 y cynigion cyllidebol, nodir £2.7 miliwn ac ar dudalen 182, nodir bod y swm yn cyfateb i £4.5 miliwn. Mae angen eglurhad o ran y ffigur cywir.
  • Mae'r panel yn bryderus na chyflwynir arbedion eleni, er y dywedwyd wrtho y gellid gwneud hynny.
  • Roedd y panel yn bryderus y bwriedir parhau â'r argymhelliad i osod taliadau newydd ar gyfer canolfannau dydd er bod 70% o'r ymgyngoreion wedi gwrthwynebu iddynt.

 

 

Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

 

Amlygwyd y pwyntiau allweddol canlynol:

 

  • Mae'r panel yn weddol fodlon ar y gyllideb arfaethedig ar gyfer y GPTh yn ystod 2018/19, gan gynyddu a mwyafu'r gwelliannau.
  • Nodwyd bod y gyllideb gynyddol ar gyfer y GPTh yn bennaf er mwyn talu am gynnydd chwyddiannol cyflogau.
  • Mae'r panel yn meddwl bod angen monitro Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (GIMPPhI) yn agos.
  • Mae'r panel yn meddwl bod ymyrryd yn gynnar yn bwysig iawn.  Mae'n croesawu'r ffordd flaengar o feddwl ond bydd am fonitro hyn wrth symud ymlaen.

 

 

 

Llythyr at Aelod y Cabinet -Economi a Strategaeth pdf eicon PDF 205 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Economi a Strategaeth pdf eicon PDF 288 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Gwasanaethau’r Amgylchedd pdf eicon PDF 182 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Gwasanaethau’r Amgylchedd pdf eicon PDF 338 KB