Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Craffu 637732
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim |
|
Adolygiad Comisiynu Diogelu'r Cyhoedd PDF 74 KB · Lee Morgan - Pennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd ·
Mark Wade – Rheolwr Busnes Tai · Y Cynghorydd Mark Thomas – Aelod y Cabinet dros Wasanaethau’r Amgylchedd Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: ·
Daeth
Lee Morgan gyda Mark Wade ac Aelod y Cabinet Mark Thomas ac fe amlinellodd y
gwasanaethau yn eu cyfanrwydd ·
Eglurodd
mai gwasanaethau rheng flaen oedd y rhan fwyaf ohonynt ac felly roedd ganddynt
effaith uniongyrchol ar breswylwyr ·
Gwasanaethau
statudol yw'r rhan fwyaf ohonynt a derbynnir 61% o'r gyllideb drwy incwm ·
Mae
cymharu â chynghorau eraill yn anodd gan fod pob un ohonynt yn cynnal y
gwasanaethau hyn mewn ffyrdd gwahanol ·
Gellid
codi tâl am wasanaethau rheoli plâu ond bydd codi tâl ar breswylwyr yn golygu y
bydd llai o alw ar y gwasanaeth, sy'n andwyol i iechyd y cyhoedd ·
Mae
Abertawe'n codi tâl canolig ar gyfer gwasanaethau megis priodasau wrth eu
cymharu â chynghorau eraill
·
Yn ôl
pob golwg, nid yw’r ymdrech a ddarperir o ran y cyfleoedd masnachol yn cael
effaith fawr. Mae angen ystyried hyn yn ofalus gan na ddylid effeithio ar
rwymedigaethau statudol.
|
|
Trafodaeth a Chwestiynau a) Ystyried Adroddiad
y Cabinet a Chwestiynau b) Barn y Panel ar gyfer y Cabinet |
|