Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Hopkins - 636292
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.
Cofnodion:
|
2. |
Cofnodion. PDF 118 KB
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y
cyfarfod blaenorol.
Cofnodion:
|
3. |
Cwestiynau gan y Cyhoedd
Rhaid i gwestiynau ymwneud â materion yn rhan agored
agenda'r cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.
Cofnodion:
|
4. |
Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 3 2017/18 PDF 146 KB
Richard Rowlands – Rheolwr Perfformiad Corfforaethol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
- Daeth Richard Rowlands i gyflwyno'r wybodaeth
ddiweddaraf am Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 2017/18
- Cyflawnwyd 58% o'r targedau yn y Perfformiad
Corfforaethol yn erbyn y targed
- Mae tudalen 13 o'r adroddiad yn dangos bod y
flaenoriaeth Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol yn dangos dirywiad mewn
perfformiad.
Blaenoriaeth
1 - Diogelu
- Mae AS8/AS9/Mesur 19 i gyd yn dangos
canlyniadau gostyngol
- Mae gan CFS18/CFS19/Mesur 24 dueddiadau
gostyngol o ganlyniad i lefel galw uchel – dywedodd y Cyng. Paxton
Hood-Williams, cynullydd y Panel Craffu Perfformiad Gwasanaethau Plant, er
bod y mesurau'n dangos tueddiadau gostyngol, mae'n bwysig bod y materion
diogelu'n cael eu nodi a bod y panel perfformiad yn monitro hyn.
Blaenoriaeth
2 – Addysg a Sgiliau
- Mae EDU016a a thuedd ychydig am i lawr ers y
llynedd
Blaenoriaeth
3 – Yr Economi ac Isadeiledd
- EC4 - cafwyd oedi wrth adeiladu tai newydd
Blaenoriaeth
4 – Trechu Tlodi
- SUSC1/SUSC3 - Dengys y ddau ostyngiad graddol
mewn perfformiad ond mae'r panel yn ansicr pa mor effeithiol yw barn
canfyddiad wrth fesur perfformiad
Blaenoriaeth
5 – Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol
- CUST6/SUSC2 - Dirywiad mewn tueddiadau, eto
oherwydd barn gyhoeddus
- CHR002 - Sefydlwyd grŵp tasg a gorffen i
adolygu'r amodau a'r telerau gan gynnwys rheoli'r polisi absenoldeb
- FINA6 – mae'r mesur hwn dal yn gyraeddadwy
ond mae wedi'i oedi
- Gan fod targedau'n newid bob blwyddyn, mae'n
anodd iawn mesur cysondeb
- Ceir ymdrechion i gael cysondeb yn y mesurau
eu hunain fel y gellir datblygu tueddiadau
- Gall Rheolwr Perfformiad Corfforaethol ddod â
data tueddiadau ar gyfer rhai DP os yw'n gwybod pa rai yr hoffai'r panel
eu gweld ymlaen llaw
|
5. |
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. PDF 91 KB
Cofnodion:
·
Trafodwyd
gweddill y cynllun gwaith - eitem ar daliadau wedi'i threfnu ar gyfer y
cyfarfod nesaf
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet PDF 181 KB
|