Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Hopkins - 636292
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.
Cofnodion:
|
2. |
Cofnodion. PDF 111 KB
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
|
3. |
Cwestiynau gan y Cyhoedd
Cofnodion:
|
4. |
Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2016/17 PDF 102 KB
Richard Rowlands - Rheolwr Perfformiad Corfforaethol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
- Dyma gofnod Cyngor Abertawe o gynnydd o ran
bodloni blaenoriaethau'r llynedd a osodwyd yn y Nodau Corfforaethol.
- Caiff adroddiad tebyg iawn ei lunio flwyddyn
nesaf ond bydd o ganlyniad i'r gofyniad o dan Ddeddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol, felly bydd rhai gwahaniaethau.
- Mae gwasanaethau yn cyflwyno
hunanwerthusiadau wedi'u sgorio ar fatrics. Mae'r hunanwerthusiadau yn
berthnasol i weithgareddau dan y Nodau Corfforaethol a chaiff y sgorau hyn
eu hadolygu gan y Tîm Perfformiad ar gyfer cywirdeb a thegwch.
- Sefydlwyd y matrics i greu ymagwedd gyson at
sgorio ar draws yr holl wasanaethau.
- Amlygodd y panel faterion megis diogelu,
gwella cyrhaeddiad disgyblion, creu dinas lewyrchus llawn addewid, trechu
tlodi ac adeiladu cymunedau cynaliadwy ar gyfer gwneud sylwadau.
- Dywedodd Richard Rowlands fod yr hunanasesiad
yn berthnasol i'r gweithgareddau a nodwyd yn y Nodau Corfforaethol yn
unig; nid yw'n asesiad o'r darlun cyffredinol neu'r sefyllfa economaidd
ehangach.
- Yn gyffredinol, roedd y sylwadau'n gadarnhaol
mewn perthynas â pherfformiad, ond mae sawl cwestiwn a sylw y gellir dod o
hyd iddynt yn y llythyr.
|
5. |
Monitro Cyllideb yr Ail Chwarter PDF 94 KB
Ben Smith - Pennaeth Gwasanaethau Ariannol a’r Ganolfan Wasanaeth
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
- Daeth Ben Smith i
drafod monitro cyllideb yr ail chwarter.
- Mae £12m wrth gefn
gydag oddeutu £8m o orwariant wedi'i ragweld.
- Mae angen
cydbwyso'r gyllideb o flwyddyn i flwyddyn, ac nid dros gyfnod o
flynyddoedd.
- Mae gan rai meysydd
(gofal cymdeithasol) elfen o gynyddu'r gyllideb ar y dechrau, ond, yn
gyffredinol, nid yw hyn yn digwydd.
- Trafodwyd
crynodebau gorwario. Mae hyn oherwydd na wnaed arbedion mor gyflym ac ar
yr un raddfa â'r hyn a oedd ei angen.
- Mae £500k o arian
grant ar gael i fynd i'r afael â pheth o'r gorwariant, ond bydd y grantiau
yn lleihau dros y blynyddoedd nesaf felly ni fydd hyn ar gael.
- Mae'r gronfa wrth
gefn wedi'i hymrwymo'n llwyr ar gyfer 2017/18 ac mae hyn ar gyfer
ymddeoliad cynnar/colli swydd yn wirfoddol yn bennaf.
- Yn gyffredinol, mae
tanwariant ar arian cyfalaf, ond rhoddir hwn yn llawn yn y cronfeydd wrth
gefn a glustnodwyd. Caiff yr arian hwn ei ddefnyddio i helpu i liniaru
effaith gwario ar ddatblygu.
- Nid oes
argymhelliad i roi unrhyw arian yn y Gwasanaethau Corfforaethol flwyddyn
nesaf.
- Mae'n rhaid i'r Tîm
Rheoli Corfforaethol roi caniatâd i recriwtio ar gyfer pob swydd.
|
6. |
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. PDF 90 KB
Cofnodion:
·
Trefnir
Adolygiad Comisiynu Priffyrdd a Chludiant ar gyfer mis Mawrth 2018.
- Ychwanegir eitem ar
gynigion cyllidebol i'r cyfarfod ar 10 Ionawr a symudir yr eitem arolwg
canfyddiad i fis Mawrth.
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet PDF 111 KB
|
|
Ymateb Aelod y Cabinet PDF 155 KB
|