Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Hopkins - 636292 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 116 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Cymeradwywyd

3.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Cofnodion:

Dim

4.

Ailgylchu a Thirlenwi - Monitro Perfformiad Blynyddol pdf eicon PDF 86 KB

Keith Coxon - Rheolwr Perfformiad a Phrosiectau

Cofnodion:

·          Daeth Keith Coxon, Rheolwr Prosiectau a Pherfformiad, i roi'r diweddaraf i'r panel ar Adroddiad Blynyddol Monitro Perfformiad Ailgylchu a Thirlenwi

 

·         Mae'r gwasanaeth wedi bodloni ei dargedau gwastraff statudol dros y 12 mis diwethaf ac wedi gwella arnynt a gweld cynnydd o 4.17% ar dargedau'r llynedd

 

·         Mae Data Llywodraeth Leol ynglŷn â pherfformiad gwastraff dinesig braidd yn gamarweiniol. Gan nad yw Cyngor Abertawe'n llosgi gwastraff (mae'n rhy ddrud ac mae ardaloedd tirlenwi ganddo), ni all elwa o ddefnyddio llwch tuag at ei darged ailgylchu. Er gwaethaf hynny mae Cyngor Abertawe yn parhau i fodloni ei dargedau ailgylchu

 

·         Mae dangosydd perfformiad tirlenwi yn y Bwletin Perfformiad Awdurdod Lleol yn gosod Abertawe yn 22/22 allan o bob awdurdod lleol Cymru achos nad yw Abertawe'n llosgi ei wastraff, felly mae 100% ohono'n mynd i safleoedd dirlenwi

 

·         Ar hyn o bryd mae problemau sy’n gysylltiedig ag ailgylchu pren. Gall paent, cyffieithiwr etc ar bren effeithio ar sut y caiff ei ailgylchu

 

·         Nid oes unrhyw weithfeydd llosgi yn ne-orllewin Cymru. Mae un yng Nghaerdydd ond ni all Abertawe ei defnyddio. Mae Sir Benfro a Sir Ceredigion yn anfon eu gwastraff i Sweden i'w losgi

 

·         Mae Llywodraeth Cymru’n awyddus i gael gweithfa llosgi yn ne-orllewin Cymru ac mae Keith Coxon yn asesu’r galw am losgi ac yn cynnal ymchwil i hwn

 

·         Mae trafodaeth ar waith ynglŷn â dynodi sachau penodol (porffor a melyn) ar gyfer cewynnau a gwastraff ymataliaeth fel nad yw'r gwastraff hwn yn cael ei gynnwys yn y sachau du

 

·         Gwelwyd cynnydd bach yn tipio anghyfreithlon ers symud y sgipiau ar gyfer gwastraff gweddilliol ond yn llawer llai na swm y sbwriel oedd yn cael ei waredu yn y sgipiau'n wreiddiol 

 

·         Mae'r cyngor yn ceisio annog pobl nad ydynt yn ailgylchu llawer neu o gwbl i wneud hynny ond nid yw hyn yn hawdd

 

·         Gall annog ailgylchu mewn ardaloedd lle mae myfyrwyr fod yn ddyrys ond mae'r awdurdod yn gweithio gyda'r brifysgol a landlordiaid i wella'r sefyllfa. Serch hynny mae natur dros dro myfyrwyr yn gwneud hyn yn anodd

 

·         Y broblem gyda phlastigion caled a meddal yw bod plastigion meddal yn atal y peiriannau rhag didoli deunydd effeithiol. Roedd angen i'r plastigion meddal gael eu didoli’n fwy manwl (e.e. fesul polymer) ac roedd y gost o gael staff i wneud hyn â llaw yn rhy ddrud i'w roi ar waith. Mae opsiynau eraill yn cael eu hystyried ar hyn o bryd

 

·         Mae'r adran yn gweithio gyda'r Adran Cynllunio i geisio sicrhau bod cyfleusterau ailgylchu yn cael eu gosod yn nhai amlfeddiannaeth yn y cam cynllunio

 

·         Dylid yn edrych ar wraidd y problemau hyn (gorddefnydd o blastigion meddal a chynhyrchwyr/landlordiaid sy’n methu cymryd cyfrifoldeb)

 

 

5.

Datganiad Cyllideb Canol Blwyddyn 2017/18

Ben Smith - Pennaeth Gwasanaethau Ariannol a’r Ganolfan Wasanaeth

Cofnodion:

·         Daeth Sarah Willis ac Amanda Thomas ar ran Ben Smith

 

·         Ni fanylwyd ar y datganiad gan ei fod wedi'i gyflwyno i'r cyngor yr wythnos gynt

 

·         Archwiliwyd pam roedd angen datganiad cyllideb canol flwyddyn ynghyd ag adroddiad yn chwarter 2

 

·         Mae adroddiad chwarter 2 yn edrych i'r gorffennol ond mae'r datganiad cyllideb canol blwyddyn hefyd yn edrych i'r dyfodol ac mae'n fanylach

 

6.

Y Diweddaraf am y Gronfa wrth Gefn pdf eicon PDF 140 KB

Ben Smith - Pennaeth Gwasanaethau Ariannol a’r Ganolfan Wasanaeth

Cofnodion:

·         Cyflwynwyd yr adroddiad i'r cyngor yr wythnos gynt felly roedd y panel wedi cael amser i ddarllen y materion

 

·         Codwyd rhai cwestiynau ynglŷn â'r adroddiad a gaiff eu cynnwys yn y llythyr

 

 

7.

Cynllun Gwaith 2017/2018 pdf eicon PDF 91 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 163 KB

Ymateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 183 KB