Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Scrutiny - 637732
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. www.abertawe.gov.uk/DatgeliadauBuddiannau Cofnodion: Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau |
|
Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod y panel a gynhaliwyd ar 2 Awst 2017 fel cofnod cywir |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Cofnodion: Dim |
|
Adroddiad Monitro Perfformiad Diwedd Blwyddyn 2016/17 PDF 108 KB Richard Rowlands (Rheolwr Perfformiad Corfforaethol) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Daeth Richard Rowlands, Rheolwr Perfformiad Corfforaethol, i’r cyfarfod er mwyn
diweddaru'r panel ar berfformiad y llynedd. Rhoddodd gyngor ar sut y datblygir yr Adroddiad Monitro
Perfformiad a'i berthnasedd. Esboniodd i'r panel sut i ddarllen a dadansoddi'r
wybodaeth. Pwyntiau allweddol
a godwyd: • Ar gyfer
pob blaenoriaeth y cyngor, dangoswyd perfformiad yn gwella • Er ei fod yn ymddangos
bod rhai o'r dangosyddion perfformiad wedi eu hailenwi,
gall fod yna wahaniaethau o ran sut y diffinnir y dangosydd ac felly maent yn wahanol
yn gynhenid • Nid yw
data penodol iawn ar bwynt allweddol
(boed yn dda neu'n ddrwg)
o reidrwydd yn adlewyrchu perfformiad cyffredinol adran • Mae sylwadau yn
yr adroddiad yn cynrychioli darlun eang o'r
materion – os oes angen mwy
o fanylder, yna mae'n rhaid i'r
panel ymchwilio'n ddyfnach i'r manylyn Roedd cwestiynau'r
aelodau'n canolbwyntio ar y canlynol: • Dadansoddiad o ffigurau dan Flaenoriaeth
1: Diogelu Pobl Ddiamddiffyn – mae'r term 'oedolyn' yn cyfeirio
at bawb dros 18 oed. Mae angen adnoddau gwahanol ar oedrannau gwahanol,
e.e. mae
gwasanaethau i bobl hŷn yn
wahanol iawn i wasanaethau ar
gyfer pobl rhwng 18 a 24 oed. Gall perfformiad da neu ddrwg yn y grwpiau
hyn gael
ei guddio gan ffigur cyfartalog • Soniwyd am
fân fanylion rhai prosiectau • Mae rhai DPA bellach
wedi eu cynnwys
dan deitlau eraill ac mae
pryder posib dros golli'r rhain.
Er enghraifft, mae canlyniad 'Pobl sy'n byw
gartref neu yn y gymuned yn
hytrach na mewn gofal preswyl'
a'r dangosydd 'nifer y plant sy'n dechrau derbyn gofal yn ystod
y cyfnod' bellach dan Flaenoriaeth 5 'Adeiladu Cymunedau Cynaliadwy' yn hytrach na Blaenoriaeth
1 'Diogelu Pobl Ddiamddiffyn' Cytunwyd y dylid
cyfeirio'r ymholiadau canlynol i'r swyddogion
perthnasol am ymateb: 1. Nodir ym
Mlaenoriaeth 3 EC3 y cynyddwyd
yr arwynebedd llawr masnachol a grëwyd yng nghanol
y ddinas i gefnogi creu swyddi
o ganlyniad i 'gyllid ar y gweill'
ychwanegol. Gofynnwyd am eglurhad
o'r hyn a
elwir yn 'gyllid ar y gweill' 2. Cyfeiria Blaenoriaeth
3 EC4 at nifer yr unedau o dai
newydd yng nghanol dinas Abertawe
o ganlyniad i gyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. Gofynnwyd am eglurhad
o ran a yw'r unedau o dai yn
newydd sbon neu'n disodli anheddau
blaenorol safle Dewi Sant 3. Nodir ym
Mlaenoriaeth 3 BBMA3 y cafwyd
cynnydd yn nifer yr wythnosau
hyfforddiant a chyflogaeth
a gynhaliwyd gan Y Tu Hwnt i
Frics a Morter ar gyfer y sawl
sy'n ddi-waith ac yn anweithgar yn
economaidd. Gofynnwyd am eglurhad
o ran lle cynhaliwyd yr hyfforddiant hwn 4. Nodwyd yn
yr Adroddiad Monitro Perfformiad Diwedd Blwyddyn 2016/17, dan Flaenoriaeth 5 PI SUSC10, y cynhaliwyd 41 o wasanaethau yn y gymuned a gynhaliwyd yn ffurfiol
gan y cyngor yn flaenorol, sy'n
is na'r targed o 50. Gofynnwyd am eglurhad
o ran pa fath o wasanaethau
roedd y 50 yn eu cynnwys 5. Nodwyd yn
yr Adroddiad Monitro Perfformiad Diwedd Blwyddyn 2016/17 dan Gefnogaeth Gorfforaethol – Y Gweithlu PI
CHR002 (t. 37) fod nifer y dyddiau/shifftiau gwaith a gollwyd fesul cyflogai CALl awdurdod lleol
oherwydd salwch wedi gostwng. Gofynnwyd i'r
ffigur hwn gael ei rannu'n salwch tymor hir a salwch
achlysurol. |
|
Cynllun Corfforaethol 2017/22 PDF 93 KB Richard Rowlands (Rheolwr Perfformiad Corfforaethol) Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd trosolwg o'r Cynllun Corfforaethol gan Richard Rowlands, Rheolwr Perfformiad Corfforaethol.
Dywedodd wrth y panel ei fod yn adlewyrchu
ymrwymiadau polisi newydd y cytunwyd arnynt yn ddiweddar
gan y cyngor. Pwyntiau allweddol
a godwyd: • Dylanwadwyd ar
y Cynllun gan ddeddfwriaeth megis Deddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol 2015 • Mae ffocws blaenoriaethau'r
Cynllun Corfforaethol yn ehangach na'r
rhai blaenorol • Caiff perfformiad
corfforaethol ei fesur a'i adrodd
yn chwarterol ac yn flynyddol yn
yr adroddiad diwedd y flwyddyn Roedd cwestiynau'r
aelodau'n canolbwyntio ar y canlynol: • Diffyg blaenoriaeth
benodol sy'n ymroddedig i fioamrywiaeth
a newid yn yr hinsawdd yn
y Cynllun Corfforaethol, er mae'r materion
hyn wedi'u cynnwys mewn blaenoriaethau
eraill. • Diffyg cyfeirio at weithgareddau craffu yn y Cynllun Corfforaethol |
|
Alldro Cyfalaf ac Ariannu 2016/17 PDF 21 KB Ben Smith (Pennaeth Gwasanaethau Ariannol a’r Ganolfan Wasanaeth Cofnodion: Rhoddwyd diweddariad
ar alldro ac ariannu cyfalaf gan Ben Smith, Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol a'r Ganolfan Gwasanaethau
Pwyntiau allweddol
a godwyd: • Sut y cyllidir
cyfalaf • Benthyca nas
cefnogir a'r ffaith y bydd hyn
yn cynyddu • Sut y cyfrifir
llog ar fenthyca'n
gyffredinol Roedd cwestiynau'r
aelodau'n canolbwyntio ar y canlynol: • Polisi benthyca'r
cyngor a sut y penderfynir arno Cytunwyd y dylid
cyfeirio'r ymholiadau canlynol i'r swyddogion
perthnasol am ymateb: 1. Rhoddwyd cyflwyniad
i'r panel ar Adroddiad Alldro ac Ariannu Cyfalaf 2016/17. Nododd y panel y prosiectau a'r costau canlynol
ar y daenlen Gwariant Prosiectau Cyfalaf yn Atodiad
B (gyda gwariant yn fwy na £0.5 miliwn): Canol y Ddinas – cynlluniau Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid (gan gynnwys
Oceana, cydosodiad tir, adfywio'r Stryd Fawr, cynlluniau
grant, system gylchu Westways).
Roedd gan hyn wariant
cysylltiedig o £9,304 (miliwn). Gofynnodd y panel am ddadansoddiad o'r gwariant hwn. 2. Nododd y panel y prosiectau a'r costau canlynol ar y daenlen Gwariant
Prosiectau Cyfalaf (t. 5): Cost ARhC tai
newydd ar Ffordd Milford a Pharc yr Helyg, sef
£1,297 (miliwn) Gofynnwyd am ddadansoddiad
o'r ffigur hwn gan y panel. |
|
Monitro Cyllideb Refeniw a Chyfalaf Chwarter 1 2017/18 PDF 157 KB Ben Smith (Pennaeth Gwasanaethau Ariannol a’r Ganolfan Wasanaeth Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd diweddariad ar
adroddiad monitro cyllideb refeniw a chyfalaf chwarter 1 gan Ben Smith, Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol a'r Ganolfan Gwasanaethau.
Pwyntiau allweddol
a godwyd: • Prif feysydd
gorwario • Sut y cynllunnir
y gronfa wrth gefn Roedd cwestiynau'r
aelodau'n canolbwyntio ar: • Sut yr
ymdriniwyd â diffygion mewn chwarteri eraill • Sut yr
ymdrinnir ag arian nas gwariwyd • Dyrannu tâl
cyhoeddus ac effeithiau posib cynnydd Cytunwyd y dylid
cyfeirio'r ymholiadau canlynol i'r swyddogion
perthnasol am ymateb: 1. Yn Adroddiad Monitro
Cyllideb Chwarter Cyntaf 2017/18 (t. 3), sylwodd y
panel fod swm gwerth £136k o'r gronfa wrth gefn
wedi'i ddyrannu i batholegwyr. Gofynnwyd am eglurder
ar y gwariant ynghyd â dadansoddiad ohono 2. Nododd y panel yn Adroddiad Monitro Cyllideb a Chyfalaf Chwarter Cyntaf 2017/18 (t. 4) y dyrannwyd £500k o'r gronfa wrth gefn
i Wasanaethau Adeiladu Corfforaethol - ôl-daliadau ychwanegol. Gofynnwyd am ragor o wybodaeth ar y ffigur a dadansoddiad |
|
Cynllun Gwaith 2017/2018 PDF 89 KB Cofnodion: Cydnabu'r panel fod angen cyfarfod ychwanegol ar gyfer craffu cyn penderfynu Adolygiad Comisiynu Diogelu'r Cyhoedd. Caiff yr Adroddiad Data Llywodraeth Leol blynyddol ei gynnwys yn y cyfarfod ar 4 Hydref 2017. Caiff eitem ar ffïoedd a benthyca ei amserlenni ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol. |
|