Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams

Cyswllt: Michelle Roberts, Craffu 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

None

2.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

None

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 308 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Cofnodion:

The minutes of the 14 February 2022 where accepted by the Panel.

4.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eite mau ar yr agenda.

Cofnodion:

No public questions were received.

5.

Briffio ar geiswyr lloches a disgyblion sy'n ffoaduriaid

Y Cynghorydd Robert Smith, Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, a Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg)

Cofnodion:

Diolchodd y Panel i Pam Cole, Uwch-arweinydd ar gyfer Dysgwyr Lleiafrifoedd Ethnig a Chydraddoldebau am friffio'r Panel ar lafar ac ateb cwestiynau. Nodwyd y canlynol:

 

·       Clywodd y Panel fod y gwasanaeth hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i fod yn rhan o'r gwasanaeth ehangach ar gyfer disgyblion sydd â iaith gyntaf heblaw Cymraeg/Saesneg, a bod Saesneg yn iaith ychwanegol (dysgwyr SIY). Bod dysgwyr SIY yn grŵp amrywiol iawn ac yn cynnwys teuluoedd sefydlog, ymfudwyr economaidd, teithwyr, ceiswyr lloches a ffoaduriaid.  Mae Abertawe hefyd yn ddinas amrywiol iawn gyda thros 140 o ieithoedd a thafodieithoedd yn cael eu siarad ymhlith poblogaeth ein hysgolion. Dywedwyd wrth y Panel fod y cymorth allweddol ar gael mewn ysgolion unigol a rôl y gwasanaeth canolog oedd arwain a chynghori ysgolion.

·       Gofynnodd y Panel am y ddarpariaeth a oedd yn cael ei wneud ar gyfer dyfodiad teuluoedd o Wcráin. Dywedwyd wrthynt am yr hyn sydd gennym ar waith ar hyn o bryd ac ystyriwyd y ffordd orau o baratoi ymlaen llaw ar gyfer unrhyw bobl sy'n cyrraedd. Hefyd, nodwyd ei bod yn anodd gwybod ar hyn o bryd faint o blant fydd yn dod i mewn i'r ddinas, sy'n wahanol i gynlluniau eraill y mae'r cyngor wedi'u rheoli, gan ein bod fel arfer yn cael gwybod am y niferoedd ymlaen llaw. Cydnabuwyd y bydd hyn yn heriol oherwydd ei bod yn anodd rhagweld ble y gallai teuluoedd gael eu cynnal yn y ddinas. Gallai hyn effeithio ar rai ysgolion nad ydynt yn cael eu defnyddio'n draddodiadol gan ddisgyblion SIY. Cytunodd y Panel y bydd yn bwysig rhannu arfer da ar draws ysgolion.

·       Mae Abertawe wedi bod yn ardal wasgaru ar gyfer Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches ers dros 20 mlynedd ac mae'n Ddinas Noddfa. Mae gan Gyngor Abertawe ddigon o brofiad a llawer o systemau ar waith i gefnogi teuluoedd a'u plant, a ddylai fod yn sylfaen dda yn y cyfnod heriol hwn. Roedd y Panel yn falch o glywed am y gwaith a wneir ar hyn o bryd ar draws y ddinas.

 

 

6.

Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol a'u gweithredu pdf eicon PDF 268 KB

Y Cynghorydd Robert Smith, Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, a Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diolchodd y Panel i Alison Lane, Pennaeth y Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad am ddod i'r cyfarfod a rhoi adroddiad ysgrifenedig i'r Panel. Nodwyd y canlynol:

 

·       Clywodd y Panel fod hwn yn ddiwygiad eang a'r ad-drefniant mwyaf ers blynyddoedd lawer ym maes ADY. Hefyd, bod y cyngor wedi bod yn pryderu am oblygiadau'r pandemig o ran gwneud cynnydd ond bod angen llongyfarch staff ar y llwyth gwaith sydd wedi'i gwblhau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf i gadw hyn ar y trywydd iawn drwy gyfnod mor anodd. Dywedwyd wrthynt mai'r her fwyaf fydd rheoli disgwyliadau a chydweithio ar weledigaeth a rennir i gael y model gorau ar gyfer ein disgyblion ADY.

·       Croesawodd y Panel y cynnydd cyffredinol a wnaed mewn perthynas â diwygio ADY. Maent yn fwy hyderus, er ein bod yng nghamau cynnar y diwygiad deddfwriaethol hwn, ein bod mewn sefyllfa dda i wynebu'r heriau sydd o'n blaenau.

 

7.

Y Diweddaraf am Gynnydd Addysg Heblaw yn yr Ysgol pdf eicon PDF 254 KB

Y Cynghorydd Robert Smith, Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, a Amanda Taylor (Pennaeth Uned Atgyfeirio Disgyblion Abertawe)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diolchodd y Panel i Kate Phillips, Pennaeth y Gwasanaeth Dysgwyr Diamddiffyn, am ddod i'r cyfarfod a rhoi adroddiad manwl i'r panel. Nodwyd y canlynol:

 

·       Clywodd y Panel fod y gwasanaeth yn cael ei adolygu ar hyn o bryd ac mae hyn wedi cynnwys edrych ar y meysydd allweddol canlynol:

­   Polisi EOTAS newydd - mae hwn yn cael ei gwblhau ac yn cynnwys gwaith i fireinio argymhellion a wnaed i'r Cabinet yn 2016 sy’n angenrheidiol gan fod pum mlynedd bellach wedi mynd heibio. Yn ystod y blynyddoedd ers hynny, cydnabuwyd efallai nad yw atgyfeirio'r plant a’r bobl ifanc sydd â'r Anawsterau Emosiynol ac Ymddygiadol Cymdeithasol mwyaf difrifol yn unig i ddarpariaeth EOTAS yn ddigonol i ddiwallu anghenion Abertawe. Mae effeithiolrwydd atal ac ymyrryd yn gynnar gan ysgolion Abertawe a gwasanaethau canolog yn golygu bod llai o blant a phobl ifanc y mae angen darpariaeth Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) arnynt. Fodd bynnag, mae mwy o blant a phobl ifanc ag anghenion ACEY hirdymor a chynnydd yn nifer y disgyblion ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig (ASD) sy'n cyflwyno ymddygiad heriol.  Mae'r grŵp tasg a gorffen EOTAS newydd wedi nodi'r angen i ddatblygu darpariaeth i ddiwallu anghenion y garfan gymhleth hon uwchlaw a thu hwnt i'r cynnig cwricwlwm presennol sydd wedi'i deilwra i fodel ailintegreiddio.

­   Sicrhau canlyniadau gwell ym Maes Derw - mae hyn yn cynnwys presenoldeb, gwaharddiadau a'r ddarpariaeth ran-amser ym Maes Derw.  Nodwyd y gellir gwella pob un o'r meysydd hyn. Tynnwyd sylw hefyd at yr angen i sicrhau bod yr holl leoliadau i ddisgyblion ym Maes Derw yn briodol er mwyn diwallu anghenion dysgwyr. Gan fod blwyddyn gyfan wedi mynd heibio ers agor Maes Derw, mae'n briodol ystyried pa mor dda yw'r newidiadau o ran diwallu anghenion plant a phobl ifanc Abertawe.

­   Cyllid EOTAS - mae angen parhaus i sicrhau bod y cyllid sydd ar gael ar gyfer darpariaeth EOTAS yn Abertawe yn cael ei dargedu at anghenion. Ar hyn o bryd, mae'r rhan fwyaf o'r cyllid ar gyfer darpariaeth EOTAS yn cael ei roi i Uned Cyfeirio Disgyblion Maes Derw, fodd bynnag, wrth i anghenion newid a'r dysgwyr hynny sy'n bodloni cylch gwaith Maes Derw leihau, mae angen edrych ar becynnau cymorth pwrpasol, amlasiantaethol, nad oes ganddynt gyllid penodol ar hyn o bryd. Byddai hefyd yn fuddiol targedu adnoddau at ymyrryd ac atal yn gynharach. Mae effeithiolrwydd yr arian datganoledig i ysgolion uwchradd yn awgrymu bod targedu adnoddau'n gynnar yn effeithiol o ran lleihau nifer y dysgwyr y mae angen darpariaeth EOTAS arnynt.

·       Dywedodd yr Aelod Cabinet wrth y Panel fod adroddiad 2016 wedi darparu sylfaen gadarn ar gyfer y gwasanaeth hwn ac rydym bellach yn dechrau adeiladu ar hynny. Roedd y Panel yn cydnabod y bydd anghenion disgyblion yn Abertawe yn newid ac yn esblygu, felly roeddent yn falch o weld y gallu i addasu ac adolygu’n model darparu.

 

8.

Y diweddaraf am y cwricwlwm newydd gan gynnwys cynnydd o ran ei weithredu pdf eicon PDF 156 KB

Y Cynghorydd Robert Smith, Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, a Damian Beech, Pennaeth yr Tîm Gwella Ysgolion

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diolchodd y Panel i Damien Beech, Pennaeth y Tîm Gwella Ysgolion am ddod i gyfarfod y Panel, ac am ddarparu adroddiad a thrafod cynnydd. Nodwyd y canlynol:

 

·       Mae'r Panel yn croesawu'r cynnydd cyffredinol a wnaed mewn perthynas â chyflwyno'r cwricwlwm newydd i Gymru ond roeddent yn dal i bryderu ynghylch parodrwydd pob ysgol i gyflwyno'r cwricwlwm newydd. Dywedwyd wrth y Panel fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod dylunio'r cwricwlwm yn broses barhaus a chylchol o ymgysylltu, dylunio, cynllunio, treialu a gwerthuso. Cydnabuwyd hefyd ei fod yn broses ailadroddol gan fod cwricwlwm pob ysgol yn parhau i esblygu i ddiwallu anghenion ei dysgwyr. Cytunodd y Panel a phwysleisiodd bwysigrwydd rôl Cynghorwyr Gwella Ysgolion a Chynghorwyr Cwricwlwm wrth gynghori a helpu'r ysgolion hynny a allai fod yn ei chael hi’n fwy heriol i gadw ar y blaen â datblygiad eu cwricwlwm. Roeddent hefyd yn cytuno â swyddogion pan ddywedasant y bydd cydweithio rhwng ysgolion yn arbennig o fuddiol o ran datblygu'r cwricwlwm.

 

9.

Adroddiad diwedd y flwyddyn - Craffu ar Addysg

Cofnodion:

Gan mai hwn fydd cyfarfod olaf y flwyddyn ddinesig hon, gwahoddwyd y Panel i fyfyrio ar waith craffu, profiadau ac effeithiolrwydd y flwyddyn hon. Roedd hyn yn cynnwys croesawu unrhyw syniadau a fyddai'n gwella effeithiolrwydd y gwaith craffu ar addysg.

 

Cytunodd y Panel nad oeddent wedi cael cyfle i weld gwaith yn digwydd ar lawr gwlad eleni oherwydd y pandemig ac roeddent yn awyddus i ymweld ag ysgolion a chwrdd â Phrifathrawon, staff a disgyblion unwaith eto cyn gynted ag y bo modd.

 

Talodd y Panel deyrnged i ysgolion a'r adran addysg mewn perthynas â'r ffordd y maent wedi delio ag addysg drwy'r pandemig gan gytuno eu bod wedi gwneud gwaith gwych.

 

Diolchodd Cynullydd y Panel i'r Swyddog a chyd-aelodau'r Panel am eu hymrwymiad i'r Panel, gan ei fod yn teimlo bod hyn wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol eleni.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 3.45pm

 

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 183 KB