Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams

Cyswllt: Michelle Roberts, Craffu 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim

2.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 218 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y Panel ar gofnodion 21 Hydref 2021.  Derbyniwyd llythyrau o gyfarfodydd a gynhaliwyd ar 30 Medi 2021 a 21 Hydref 2021.

 

4.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda.

 

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

 

5.

Sesiwn Craffu ar Ysgolion 1 - Ysgol Gyfun Treforys pdf eicon PDF 116 KB

Cyfarfod â Phennaeth a Chadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gyfun Treforys

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddodd y Panel Bennaeth a Chadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gyfun Treforys i gyfarfod y Panel i drafod perfformiad a rhagolygon presennol yr ysgol ar gyfer gwella.  Mae'r Panel yn gwahodd nifer o ysgolion i'r Panel bob blwyddyn.

 

Ymatebodd y Pennaeth, Mr Martin Franklyn a Chadeirydd y Llywodraethwyr, Ms Alyson Crabb i'r cwestiynau a anfonwyd atynt cyn y cyfarfod ac a drafodwyd â’r Panel, sef:

 

1.    Sut mae'r ysgol wedi ymateb i ganfyddiadau ac argymhellion diweddaraf Arolygiad Estyn ar gyfer gwella, gan gynnwys yr hyn y mae angen i'r ysgol ei wneud i wella deilliannau dysgwyr a chynyddu gallu'r ysgol i wella yn y dyfodol?

2.    Sut mae'r ysgol yn mynd i'r afael â rhoi'r Cwricwlwm Newydd ar waith ynghyd â 'Chenhadaeth ein Cenedl' ar gyfer addysg yng Nghymru?

3.    Sut ydych chi'n gwella ansawdd y profiadau dysgu ac addysgu a pha effaith y mae hynny'n ei chael ar ddeilliannau disgyblion?

4.    Beth yw'r rhwystrau sy’n wynebu’r ysgol rhag gwella deilliannau dysgwyr gan gynnwys unrhyw heriau y maent yn eu profi wrth roi'r cwricwlwm newydd ar waith?

5.    Sut mae staff addysgu'n ymwneud â’r gofynion dysgu ac addysgu gan gynnwys datblygu eu dysgu proffesiynol eu hunain?

6.    Beth mae'r ysgol yn ei wneud i wella lefelau presenoldeb disgyblion a lleihau gwaharddiadau ysgol?

7.    Beth yw blaenoriaethau'r cyrff llywodraethu a sut y maent yn cael sylw?

8.    Sut mae'r ysgol yn ceisio ac yn defnyddio arfer gorau (gan gynnwys rhannu eich arfer da ar draws ysgolion)?

9.    Pa mor dda ydych chi wedi cael eich cefnogi gan yr awdurdod lleol a'r gwasanaeth gwella ysgolion?

 

Gwnaeth y Pennaeth gyflwyniad PowerPoint i fynd i'r afael â'r pwyntiau hyn. 

 

Nodwyd y canlynol o'r drafodaeth:

 

·       Croesawodd y Panel y cynnydd cyffredinol a wnaed yn yr ysgol ers Arolygiad Estyn.  Roeddent yn arbennig o awyddus i glywed am y cynnydd mewn perthynas â phum Argymhelliad Estyn a gynhwyswyd yn yr adroddiad hwnnw.  Yn enwedig yr arwyddion cryf y gwnaed cynnydd cyson ym meysydd dysgu ac addysgu, Cwricwlwm Cymru ac ymddygiad disgyblion.

·       Er y teimlai’r Panel fod y cynnydd hwn yn galonogol, roeddent yn cydnabod ei fod yn dal yn gymharol gynnar yn y daith i wella ysgolion ac yn gobeithio yr adeiledir ar y cynnydd hwn drwy welliant parhaus, rheolaidd a chyson wrth symud ymlaen.

·       Roedd y Panel yn arbennig o falch o glywed am y canlynol:

­   Y strategaethau clir sy’n cael eu rhoi ar waith, gyda chynnydd ac effaith yn cael eu monitro

­   Y newidiadau a wnaed i'r Tîm Arweinyddiaeth fel y gall adlewyrchu blaenoriaethau'r ysgol

­   Alinio Cwricwlwm Newydd Cymru, datblygu dysgu ac addysgu a sgiliau â'r Weledigaeth Ysgol Gyfan, gan adeiladu felly ar ddyheadau'r ysgol o 'Ysbrydoli, Ymgysylltu a Chyflawni'

­   Gwreiddio strategaethau cadarnhaol i wella ymddygiad disgyblion ac agweddau at ddysgu

­   Ymgysylltu â theuluoedd a'r gymuned ehangach i wella lles disgyblion, presenoldeb, ymddygiad ac agweddau at ddysgu

­   Y defnydd o gyllid dirprwyedig Addysg Heblaw yn yr Ysgol i gefnogi disgyblion ag anawsterau ymddygiadol cymdeithasol ac emosiynol sydd mewn perygl o gael eu gwahardd

­   Corff llywodraethu newydd sy'n amlwg yn ymwybodol o'u rôl i herio ond hefyd gefnogi'r ysgol

·       Roedd y Panel yn falch o glywed gan y Pennaeth fod y gefnogaeth a gafwyd gan yr Ymgynghorydd Gwella Ysgolion neilltuedig wedi bod yn rhagorol, a’i fod wedi darparu her i'r ysgol ond mewn ffordd gadarnhaol.  Pwysleisiodd y Pennaeth bwysigrwydd lefel o gysondeb gydag Ymgynghorwyr Gwella Ysgolion, a oedd, yn ei farn ef, wedi bod yn angenrheidiol ac yn bwysig i'r ysgol.

·       Fodd bynnag, mynegwyd pryder ynghylch pam na thynnwyd sylw at y problemau yn yr ysgol yn gynharach, oherwydd roedd adroddiad Estyn yn gwbl glir mai dim ond 'digonol' oedd yr ysgol ym mhob un o'r pum maes a arolygwyd yn 2020. Os amlygwyd y problemau hyn, yna pam na chafwyd cefnogaeth gan yr adran addysg cyn Arolygiad Estyn ac os na thynnwyd sylw atynt, sut y collwyd y dangosyddion hyn?  Bydd y panel yn gwneud gwaith dilynol ar y mater hwn.

·       Clywodd y Panel gan y Cyfarwyddwr fod yr ysgol wedi dod yn bell ers arolygiad Estyn, a chydnabu pwysigrwydd cael Ymgynghorydd Gwella Ysgolion sy'n uwch-arweinydd ysgol â phrofiad o weithio mewn amgylchedd ysgol o'r fath i gefnogi a herio'r ysgol.  Roedd hi'n falch o gynnydd yr ysgol a sut mae wedi llwyddo i fynd ati i wella hyd yn oed drwy her enfawr COVID-19. Mae'r panel yn dymuno sicrhau bod y gwersi a ddysgwyd o Dreforys yn cael eu rhannu ag ysgolion eraill.

·       Cytunodd y panel ag Aelod y Cabinet a'r Cyfarwyddwr ei bod yn drawiadol bod yr ysgol wedi gallu parhau i wella drwy gyfnodau mor anodd.  Rydym yn llongyfarch y Pennaeth, y Corff Llywodraethu a staff yr ysgol am eu gwaith caled parhaus wrth symud yr ysgol yn ei blaen. 

·       O drafodaethau'r Panel â'r Pennaeth, Cadeirydd y Llywodraethwyr, yr Ymgynghorwyr Gwella Ysgolion, y Cyfarwyddwr, ac Aelod y Cabinet, cawsom ein sicrhau bod yr holl ddarnau ar waith i fynd i'r afael â blaenoriaethau'r ysgol ac maent yn eu tro yn sail i welliant parhaus wrth symud ymlaen.

6.

Cynllun Gwaith 2021-2022 pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Bydd y Cyfarwyddwr Addysg yn y cyfarfod nesaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r panel am gynnydd gyda'r bartneriaeth ranbarthol newydd ar gyfer addysg.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 5.25pm

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 196 KB

Llythyr a Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 424 KB