Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams
Cyswllt: Michelle Roberts, Craffu
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Datganodd y Cynghorwyr Susan Jones a David Helliwell fudd yn yr eitemau ar yr agenda. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion
y cyfarfod ar 30 Medi 2021. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Rhaid cyflwyno
cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd
ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod
fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar
yr agenda. Cofnodion: Ni ofynnwyd
unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Diweddariad Llafar - Aflonyddu mewn Ysgolion Cofnodion: Diolchodd y Panel
i'r Cynghorydd Robert Smith a Helen Morgan Rees am ddod i'w diweddaru ar y
sefyllfa bresennol o ran aflonyddu mewn ysgolion. Diweddarodd y Cynghorydd
Smith y panel ar y camau a gymerwyd a sut rydym yn bwriadu bwrw ymlaen. Nodwyd: Edrychodd
swyddogion yn benodol ar ysgolion Abertawe a enwyd ar wefan ‘Everyone's Invited’. Roeddent
wedi edrych arno ond nid oeddent yn gallu croesgyfeirio unrhyw bryderon eraill
a amlygwyd i'r ysgol neu o ysgolion atom ni ein hunain. Ond gwnaethom ddarparu cefnogaeth i ysgolion
yn uniongyrchol, gan sicrhau bod ganddynt drefniadau diogelu priodol ar waith. Mae swyddogion yn adrodd eu bod yn fodlon ar
yr hyn a ddywedwyd wrthynt gan ysgolion a bod
gweithdrefnau diogelu ar waith a bod y rheini'n
gadarn. Yn y cyfamser,
mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i'r Comisiynydd gynnal adolygiad thematig o'r
materion a godwyd a bod gwaith yn mynd rhagddo. Nid oes adroddiad eto ond bydd
ganddo ddiddordeb mewn gweld hynny pan ddaw allan. Rydym yn cymryd
hyn o ddifrif fel cyngor, mae swyddog amddiffyn a
diogelu plant yr adran addysg wedi arwain ar waith yn cysylltu'r peilot ar
gyfer y cwricwlwm perthnasoedd ac addysg rhyw â'r ymagwedd addysg gyfan at
drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'r camau a
amlygwyd yn rhannol mewn ymateb i'r wefan ond hefyd ymrwymiad parhaus y cyngor
i atal unrhyw aflonyddu yn ein hysgolion. Rydym am hyrwyddo perthnasoedd
cadarnhaol. Rydym am ymateb i unrhyw faterion wrth iddynt ddod i'r amlwg. Mae'n
ymwneud â sicrhau perthnasoedd iach a sicrhau bod pob dysgwr yn teimlo'n
ddiogel ac yn gyfforddus yn yr amgylchedd y mae ynddo. Dywedodd y
Cyfarwyddwr nad oedd cadarnhad bod unrhyw un o’r datgeliadau wedi digwydd o
fewn amgylchedd yr ysgol, felly o’r hyn rydyn ni’n ei wybod, ar draws 91 o
ysgolion a enwir yn genedlaethol, roedd chwech yn Abertawe. Ond efallai eu bod
yn bethau a ddigwyddodd yn y gymuned ac nid o reidrwydd o fewn paramedrau
amgylchedd ysgol, felly rwy'n credu ei bod yn bwysig bod yr ysgolion yn cadw
cofnod o bob ymddygiad annerbyniol. Mae
atal a hyrwyddo addysg sy'n seiliedig ar werth gan gynnwys parch ac urddas i bob
disgybl yn hanfodol. Mae ein hyfforddiant
diogelu i ysgolion yn ei gwneud yn gwbl glir bod angen ystyried oedolion fel
pobl ddiogel i fynd atynt o fewn amgylchedd ysgol ac i allu datgelu a rhannu
pethau gyda nhw yn hyderus. Roedd y Panel yn pryderu bod disgyblion yn ddigon
cyfforddus wrth godi materion yn yr ysgol ond roeddent yn cydnabod bod llawer o
bethau ym mywyd disgyblion a allai eu hatal rhag gwneud hynny. Efallai na
fyddant yn barod i'w fynegi ar yr adeg benodol hon yn eu bywyd, a gall gymryd
blynyddoedd iddynt allu magu hyder i ddatgelu hyn yn nes ymlaen. Cytunodd y
Cyfarwyddwr i ddarparu rhagor o wybodaeth i'r Panel am y safle cryfder rydym ni
ynddo o ran y mater hwn yn Abertawe. Cododd aelodau’r Panel
y posibilrwydd o gael llinell ffôn y gall pobl ifanc ei ffonio os nad ydyn
nhw’n teimlo eu bod nhw eisiau mynd at athro neu weithiwr proffesiynol
arall. Clywodd y Panel fod lleoedd fel Childline yn bwysig iawn ar gyfer hyn. |
|
Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (sut mae'r cynllun 10 mlynedd newydd yn cael ei ddatblygu, trosolwg o'r gofynion a'r cynnydd a wnaed) Cofnodion: Diolchodd y Panel
i'r Cynghorydd Robert Smith a Damien Beech am ddarparu adroddiad a oedd yn
diweddariad ar y cynnydd o ran cyflwyno Cwricwlwm Newydd i Gymru yma yn
Abertawe. Roedd yr hyn a glywodd y Panel
yn cynnwys y canlynol: ·
Ar y
cyfan, mae effaith y pandemig wedi arafu paratoadau’r ALl
a’r ysgolion ar gyfer y cwricwlwm newydd. ·
Er
gwaethaf y pandemig, parhaodd elfennau o ddatblygiad y cwricwlwm ac agweddau
cysylltiedig. Er enghraifft, parhaodd ysgolion i rannu arfer da sy'n ymwneud â
dysgu ac addysgu drwy ein rhwydweithiau. Mae arfer a rennir wedi bod â ffocws
cryf ar ddatblygu dulliau dysgu ac addysgu effeithiol drwy dechnoleg ddigidol.
Mae hyn wedi arwain at ddatblygu llawer o ddulliau arloesol a fydd yn cefnogi'r
cwricwlwm newydd yn dda. ·
Yn
ogystal, moderneiddiwyd y ddarpariaeth hyfforddi a'r cynnig i lywodraethwyr yn
ystod y pandemig. ·
Ar y
lefel genedlaethol, er gwaethaf y pandemig, aeth Llywodraeth Cymru ymlaen
gyda'i hagenda i ddiwygio'r cwricwlwm ·
Yn
nhymor yr haf 2021, cysylltodd Llywodraeth Cymru â Chyngor Abertawe i ddatblygu
cyfnod prawf ar gyfer y fframwaith Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb newydd. Mae
dwy ysgol ar bymtheg yn rhan o hyn. ·
O ran
Cwricwlwm i Gymru Llywodraeth Cymru, y daith i gyflwyno'r cwricwlwm, bydd angen
i swyddogion ystyried ailsefydlu Rhwydwaith SCTAG a diweddaru'r cynllun
gweithredu lleol. ·
Mae
pryderon o hyd o ran gallu'r ysgol i ymwneud yn llawn â diwygio'r
cwricwlwm. Ar hyn o bryd, mae'r pandemig
yn effeithio'n sylweddol ar staff ysgolion, ac mae’n anodd i ysgolion ryddhau
staff ar gyfer datblygiad sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm. Mae Llywodraeth
Cymru wedi cydnabod yr her hon, i raddau, yn ei chanllawiau newydd gydag iaith
fwy sensitif ynghylch parodrwydd ysgolion. Mae'n nodi'r canlynol, er
enghraifft: "Nid ydym yn disgwyl y bydd ysgolion wedi perffeithio na
chwblhau pob agwedd ar ddiwygio prosesau cynllunio’r cwricwlwm erbyn y cam
cyflwyno". ·
Mae
cryn dipyn o ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel yn digwydd drwy raglenni
cymorth, hyfforddiant a rhwydweithiau ysgolion. Mae angen i hyn barhau mewn
ffordd sy'n sensitif i'r heriau y mae ysgolion yn parhau i'w hwynebu yn y
pandemig. ·
Bydd
angen i Ymgynghorwyr Gwella Ysgolion ac Ymgynghorwyr Cwricwlwm fonitro a
chefnogi ysgolion yn sensitif mewn meysydd sy'n gysylltiedig â datblygu'r
cwricwlwm. |
|
Y diweddaraf am y cwricwlwm newydd gan gynnwys cynnydd o ran ei weithredu PDF 229 KB Cofnodion: The Panels thanked Cllr Robert Smith and Damien Beech for providing a report giving a progress update with the introduction of the New Curriculum for Wales here in Swansea. Some of what the Panel heard included: · Overall, the impact of the pandemic has slowed the LA’s and schools’ preparations for the new curriculum. · Despite the pandemic, elements of curriculum development and related aspects continued. For example, schools continued to share good practice related to teaching and learning through our networks. Practice shared has had a strong focus on developing effective teaching and learning approaches through digital technology. This has led to many innovative approaches being developed that will support the new curriculum well. · In addition, during the pandemic, the training delivery and offer to governors has been modernised. · At the national level, despite the pandemic, the Welsh Government pressed ahead with its curriculum reform agenda. · In the summer term, 2021, the Welsh Government approached Swansea Council to develop a trial for the new RSE framework. Seventeen schools are involved. · In light of the Welsh Government’s, Curriculum for Wales: the journey to curriculum rollout, officers will need to consider re-establishing SCTAG Network and updating the local implementation plan. · Concerns remain over schools capacity to engage fully with curriculum reform. Currently, the pandemic is affecting school staff significantly, and the ability of schools to release staff for curriculum-related development is difficult. The Welsh Government has recognised this challenge, somewhat, in its new guidance with a more sensitive language around readiness, for example, it states: “We do not expect schools to have perfected or completed all aspects of curriculum design reform by roll-out”. · A significant degree of high-quality professional learning is taking place through support programmes, training and school networks. This needs to continue in a way that is sensitive to the challenges that schools still face in the pandemic. · School Improvement Advisers and Curriculum Advisers will need to sensitively monitor and support schools in areas related to curriculum development. |
|
Cynllun Gwaith 2021-2022 PDF 109 KB Cofnodion: Derbyniwyd y
rhaglen waith gan y panel. Mae'r Panel
yn dymuno cynnwys effaith y cynnydd ym mhrisiau nwy ar ysgolion yng nghyfarfod
mis Chwefror 2022 pan fydd y Panel yn edrych ar y Gyllideb Flynyddol. Daeth y cyfarfod
i ben am 5.30pm |
|