Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams
Cyswllt: Michelle Roberts, Craffu
Rhif | Eitem |
---|---|
Cadarnhau Cynullydd Cofnodion: Ail-gadarnhaodd y Panel y Cyng. Lyndon Jones fel Cynullydd y Panel Craffu Addysg ar gyfer blwyddyn ddinesig 2021/2022. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cafodd y llythyrau a'r cofnodion eu hadolygu a'u derbyn gan y Panel. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar
y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag
eitemau ar yr agenda. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw
gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Aflonyddu yn yr Ysgol - briffio ar lafar PDF 9 KB Y Cynghorydd Robert Smith, Aelod
y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, a Helen
Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg) Cofnodion: Diolchodd y Panel
i'r Aelod Cabinet, y Cynghorydd Robert Smith, y Cyfarwyddwr Addysg Helen Morgan
Rees a Lisa Collins, y Swyddog Amddiffyn a Diogelu Plant am ddod i'r cyfarfod. Dywedodd y
Cynghorydd Robert Smith wrth y Panel fod y camau priodol wedi'u cymryd a'r
ymateb priodol wedi'i roi i'r hyn sydd wedi dod i'r amlwg. Cymerwyd camau mewn dwy ran. Yn gyntaf, yn ymwneud yn benodol â'r achosion
hynny a grybwyllwyd ar y wefan, rydym wedi mynd i'r ysgolion y soniwyd amdanynt
i ddarganfod yr hyn roeddent yn ymwybodol ohono, pa gamau a gymerwyd a beth
yw'r polisïau. Fe'n
sicrhawyd yr ymdriniwyd â'r holl ddigwyddiadau sydd wedi crybwyll ysgolion yn
Abertawe. Yn ail, nid ydym am enwi'r ysgolion hynny ond rydym am fod yn glir na
ddylid esgusodi'r ymddygiad hwn yn unrhyw un o'n hysgolion. Yn ehangach, byddwn
yn defnyddio'n gofal bugeiliol mewn ysgolion a'r cwricwlwm newydd i gyfleu'r
neges nad yw hyn yn ymddygiad derbyniol yn barhaus. Byddwn hefyd yn sicrhau os oes gan ddysgwyr broblemau
y maent yn dymuno roi gwybod amdanynt, eu bod yn gwybod ble y gallant godi hyn, hynny yw ar gyfer unrhyw beth sy'n
digwydd yn yr ysgol neu'r tu allan iddi. Nid yw'r Panel
ychwaith yn esgusodi'r ymddygiad hwn, lle bynnag y mae'n digwydd, ac mae'n cydnabod
bod angen strategaeth glir ar waith.
Hoffai'r Panel archwilio hyn ymhellach ond maent yn cytuno bod angen
iddynt gymryd yr ymagwedd gywir ac mewn modd cytbwys. Felly, mae'r Panel yn cytuno i ohirio'r eitem
hon hyd nes y gall Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau gasglu a
chyflwyno rhagor o wybodaeth i'r Panel. |
|
Adferiad COVID a materion allweddol eraill sy'n effeithio ar Addysg wrth symud ymlaen PDF 9 KB Y Cynghorydd Robert Smith, Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, a Helen
Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg) Cofnodion: Rhoddodd Helen
Morgan Rees, y Cyfarwyddwr Addysg, yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Panel am
sefyllfa COVID yn ein hysgolion a'r adferiad parhaus, gan gynnwys: ·
Addysg
mewn cyflwr o adferiad cynnar ond mae llawer o ddisgyblion yn dal i hunanynysu ·
Mae
wedi bod yn anodd i ysgolion gan ein bod wedi cael mesurau rheoli ar waith ers
dros flwyddyn. Mae rheolau wedi'u llacio
mewn cymdeithas yn ehangach ond nid o reidrwydd yn ein hysgolion, gyda chadw
grwpiau blwyddyn a swigod. ·
Mae
Estyn wedi'n hysbysu bod arolygiadau ysgolion yn cael eu hatal ac y byddant yn
ailddechrau gydag arolygiad peilot ar ôl Pasg 2022. ·
Ffrwd
waith addysg glir yng nghynllun adfer y cyngor gyda lles yn uchel ar yr agenda. ·
Bydd
staff ychwanegol ar waith ar gyfer dysgu carlam. ·
Rhan
o'r adferiad yn Abertawe fydd gwrando ar blant a phobl ifanc, cael eu barn. ·
Talodd
deyrnged i'n holl ysgolion a sut maent wedi ymdopi drwy'r cyfnod hwn. |
|
i'w thrafod gan y Panel Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Trafododd a
chytunodd y Panel ar y rhaglen waith ddrafft ar gyfer y flwyddyn ddinesig i
ddod, gyda'r eitemau canlynol yn cael eu hychwanegu: ·
Wrth
gyfarfod â Chynghorwyr Gwella Ysgolion ar 30 Medi dylai hyn hefyd gynnwys: sut
rydym yn cefnogi disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim, parodrwydd mewn
Addysg ar gyfer y Fargen Ddinesig, sut mae arfer da yn cael ei rannu. ·
Y
diweddaraf am gynnydd yn y maes Addysg mewn Lleoliad Heblaw'r
Ysgol (EOTAS) ·
Y
diweddaraf am gynnydd Partneriaeth Sgiliau Abertawe ·
Cyflwyno'r
cwricwlwm newydd - y diweddaraf am
gynnydd (21 Hydref) Daeth y cyfarfod
i ben am 5.15
pm
|