Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michelle.roberts, Scrutiny Officer
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Cllr Mike Day, Personol |
|
Cefnogi Plant sy'n Derbyn Gofal - Cyflwyniad Cyhoeddus PDF 56 KB Cyflwyniad a dderbyniwyd i’w ystyried gan y
panel Cofnodion: Cyn
ein cyfarfod, derbyniom e-bost oddi wrth Lysgennad Ifanc dros y Rhwydwaith
Maethu sydd wedi gadael gofal ei hun. Gofynnodd i annerch y panel ar ran nifer
o blant sy'n derbyn gofal yn Abertawe sydd â phryderon ynghylch y toriadau
cyllid i'w cefnogaeth un-i-un, teilwredig, pwrpasol, ac roedd yn awyddus i
rannu eu profiadau unigol mewn perthynas â sut mae colli'r gwasanaeth hwn wedi
effeithio ar eu bywydau a sut gallai hyn effeithio arnynt yn y dyfodol. Clywsom
fod y newidiadau hyn o ganlyniad i ddargyfeirio elfen PDG o'r Grant Amddifadedd
Disgyblion o gefnogaeth benodol sy'n canolbwyntio ar PDG yn uniongyrchol i
ysgolion prif-ffrwd. Dywedodd fod pobl ifanc yn ei chael hi'n anodd derbyn y
newid annisgwyl hwn a'u bod yn teimlo nad ydynt wedi cael cyfle i ddweud eu
dweud am newid mor bwysig. Clywsom eu bod wedi meithrin perthnasoedd cryf,
parch ac ymddiriedaeth gyda'u gweithwyr cefnogaeth ac nid ydynt yn teimlo y
gallai ysgolion ddarparu hyn. Maent hefyd yn teimlo bod y gefnogaeth maent
wedi'i derbyn gan y gweithwyr, yn ogystal â'r gefnogaeth maent wedi'i dderbyn
gan ei gilydd, wedi creu ymdeimlad o deulu iddynt. Cydnabu
fod y penderfyniad bellach wedi'i wneud ond roedd hi am fynegi'r pryderon hyn
i'r cyngor o hyd fel ei fod yn eu deall ac yn gallu gwella penderfyniadau yn y
dyfodol. Gofynnodd am ymateb i'r
pwyntiau canlynol: 1.
Pam gwnaethpwyd
y penderfyniad? 2.
Pam gwnaethpwyd
y penderfyniad mor ddirybudd a heb roi amser digonol i bobl ifanc addasu? 3.
Pam nac ymgynghorwyd
â'r bobl ifanc berthnasol? 4.
Sut caiff pobl
ifanc PDG eu cefnogi gan ystyried bod y gwasanaeth hwn bellach wedi newid? Ymatebodd
y swyddogion a oedd yn bresennol yn y cyfarfod i'r materion a godwyd ac
ymddiheurwyd i'r bobl ifanc am unrhyw boen neu bryder a achoswyd. Roedd
esbonio'r ansicrwydd ynghylch sut y defnyddir y Grant Datblygu Disgyblion gan
Lywodraeth Cymru yn y dyfodol yn ffactor perthnasol; roeddent wedi gweithio'n
galed i ddod o hyd i ateb a chadw'r gweithwyr cymorth ond nid oedd hyn yn
bosib. Esboniodd y swyddogion fod cefnogaeth y grŵp Tribe yn llwyddiannus
ac yn werthfawr iawn ond ei bod yn cyrraedd oddeutu 20 o bobl ifanc yn unig.
Felly, mae llawer o bobl ifanc yn Abertawe'n colli'r cyfle i ddweud eu dweud
gan fod yr adnoddau'n cael eu canolbwyntio mewn un lle. Esboniodd y swyddogion
hefyd y byddai prosiect Diamond yn parhau gyda'r brifysgol a bydd Tîm
Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc y cyngor yn gyfrifol am y gweithgaredd hwn.
Cytunodd y swyddogion i ymateb i'r pedwar pwynt uchod yn ysgrifenedig a byddant
yn anfon copi o'r ymateb hwn i'r panel er gwybodaeth. |
|
Deilliannau Addysgol a Chefnogaeth ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal yn Abertawe PDF 705 KB Cofnodion: Yna,
trafodom yr adroddiad briffio ar berfformiad Plant sy'n Derbyn Gofal. Croesawyd
y syniad o ddyrannu'r Grant Datblygu Disgyblion PDG ar sail clwstwr o ysgolion,
gan gydnabod y gellir cronni a defnyddio arian yn y ffordd orau ar gyfer y
grŵp penodol o ysgolion. Hoffem weld sesiynau ymgynghori â phobl ifanc ar
sut defnyddir yr arian i'w cefnogi. Roeddem
hefyd am amlygu'r egwyddor bod Plant sy'n Derbyn Gofal a chefnogaeth ehangach i
ddisgyblion yn fusnes i bawb ac nid Cydlynwyr PDG mewn ysgolion yn unig.
Cytunom â swyddogion pan ddywedon nhw ei fod yn bwysig datblygu gallu pob ysgol
i weithio gyda disgyblion diamddiffyn. Codwyd
y gwahaniaeth rhwng canlyniadau addysg disgyblion PDG rhwng CA2 a CA4. Roeddem
am ddeall pam mae gwahaniaeth mor amlwg mewn perfformiad yn y cyfnod hwn.
Esboniodd swyddogion fod y ffigurau a ddangosir yn seiliedig ar grŵp bach
o blant bob blwyddyn ac nid yr un grŵp o blant yw'r rhain gan fod plant yn
dechrau derbyn gofal ac yn gadael gofal drwy gydol y flwyddyn. Bydd y data
felly'n amrywio o flwyddyn i flwyddyn oherwydd bydd gan bob grŵp alluoedd
gwahanol a gallai hyn effeithio'n fawr ar ein canlyniadau am fod y ffigurau mor
fach. Clywsom
hefyd ei bod yn anodd iawn i ddisgyblion diamddiffyn gyflawni'r L2i a'i bod yn
well eu profi ar sail y cynnydd maent yn ei wneud yn hytrach na chyrhaeddiad yn
unig. Cydnabyddwn bwysigrwydd y mesur gwerth ychwanegol. Roeddem yn pryderu
wrth glywed nad oedd mesurau gwerth ychwanegol ar gael yn hawdd mwyach gan
Lywodraeth Cymru ond mae'n galonogol bod gennym ein Proffil Asesu Bod yn Agored
i Niwed ein hunain. Clywsom
fod gwir awydd yn Abertawe i ddatblygu ymagwedd fwy systematig at wella
canlyniadau disgyblion diamddiffyn, gan gydnabod nad ysgolion yn unig sy'n
gyfrifol ac nid disgyblion PDG yn unig sy'n berthnasol ond hefyd y plant sydd
ar y Gofrestr Amddiffyn Plant a Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig. Cytunom â
swyddogion fod rhaid i ni allu gweld pa wahaniaeth rydym yn ei wneud i
ddisgyblion ynghyd â'u cefnogi i fod cystal ag y gallant. Roedd gennym
ddiddordeb mewn clywed am y bwriad i ddatblygu Cynllun Gweithredu i gyflwyno
ymagwedd integredig sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau. Croesawn fwy o wybodaeth
am hyn wrth iddo ddatblygu. |
|