Agenda a Chofnodion

Lleoliad: MS Teams

Cyswllt: Scrutiny Officer 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

127.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim

128.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim

129.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Questions Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

130.

Trefniadaeth ysgolion - Cynlluniau'r dyfodol ar gyfer ysgolion arbennig yn Abertawe - Cyflwyniad a thrafodaeth

Invited to Y Cynghorydd Robert Smith Aelod y Cabinet - Addysg a Dysgu a Sgiliau, a Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg)

Cofnodion:

130       Trefniadaeth ysgolion - Cynlluniau'r dyfodol ar gyfer Ysgolion Arbennig yn Abertawe - Cyflwyniad a thrafodaeth

 

Diolchodd y Panel i'r Cyfarwyddwr Addysg a'r Swyddog Cyllid a Gwybodaeth - Addysg am ddod i'r cyfarfod i drafod cynlluniau'r dyfodol ar gyfer ysgolion arbennig yn Abertawe.  Darparwyd cyflwyniad a oedd yn cynnwys y canlynol:

 

·         Y weledigaeth a'r achos dros newid

·         Beth, sut, pryd a ble, mewn perthynas â'r bwriad i uno

·         Yr ymgynghoriad sydd wedi'i gynnal a'r ymatebion a dderbyniwyd

·         Hysbysiad Statudol ac amserlen

·         Camau nesaf

 

Gofynnodd y panel nifer o gwestiynau:

 

·         Nifer yr ymatebion a gefnogodd y cynnig

·         Ble'r oedd y safleoedd eraill a ystyriwyd ar gyfer lleoli'r ysgol newydd

·         Beth yw cyflwr/categori'r ddau adeilad y symudir ohonynt

·         A fydd costau cludiant o'r cartref i'r ysgol yn cynyddu.

·         Faint o ddisgyblion ychwanegol fydd y cynnig yn darparu ar eu cyfer.  Faint rydym yn eu gwasanaethu ar hyn o bryd. Nifer y lleoliadau y tu allan i'r sir

·         Sut byddwn yn sicrhau bod anghenion y dyfodol yn cael eu cynnwys yn y cynnig hwn fel ei fod yn addas ar gyfer y dyfodol.

·         A fydd y meini prawf mynediad a'r broses a ddefnyddir yn cael eu hadolygu yng ngoleuni'r mathau gwahanol o ddisgyblion a all fod yn dod drwodd.

·         A fydd yr uniad yn cael unrhyw oblygiad ar swyddi neu a fydd e'n arwain at golli swyddi.

·         A yw'r bobl a fynegodd eu barn yn yr ymgynghoriad yn gwybod bod yn rhaid iddynt roi eu gwrthwynebiad hefyd, pe baent am wneud hynny.

·         A yw Estyn wedi rhoi unrhyw adborth ar ymateb y cyngor i'r hyn a gyflwynwyd ganddynt mewn perthynas â'r ymgynghoriad.

·         A fu'n rhaid gohirio unrhyw waith arall mewn ysgolion eraill er mwyn i'r uno a'r gwaith i godi adeilad newydd fynd rhagddynt o bosib.

 

Bydd crynodeb o'r drafodaeth gan gynnwys mewn perthynas â'r cwestiynau hyn, gan gynnwys barn y panel am y mater hwn, yn rhan o lythyr y Cynullydd at Aelod y Cabinet yn dilyn y cyfarfod hwn.

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 5.20 pm

 

 

Cadeirydd