Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Craffu 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

119.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Dim

120.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim

121.

Cofnodion pdf eicon PDF 310 KB

Cofnodion:

Cytunodd y Panel fod cofnodion y cyfarfod a  gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2024 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

122.

Llythyr pdf eicon PDF 159 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Panel y llythyr a anfonwyd at Aelod y Cabinet a oedd yn ymwneud â'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ionawr.

123.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

124.

Craffu ar y gyllideb flynyddol: am ei bod yn ymwneud â materion br addysg

Roedd y Cynghorydd Robert Smith (Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes) a Addysg Cabinet Papers 15/02/2023 (ar gael ar-lein o 09/02/2023)

Cofnodion:

Diolchodd y Panel i Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu a'r Pennaeth Cynllunio ac Adnoddau Addysg am ddod i'r cyfarfod i drafod y Gyllideb Flynyddol fel y mae'n ymwneud â materion addysg.  Darparwyd cyflwyniad a oedd yn cynnwys y canlynol:

 

·       Cyllideb ysgolion ar gyfer 2024-25

·       Cyllideb ganolog a staffio canolog

·       Anghenion Dysgu Ychwanegol

·       Adolygiad o wasanaethau

·       Ffïoedd ar gyfer ysgolion

·       Arbedion Eraill

 

Nodwyd y pwyntiau canlynol gan y Panel a byddant yn cael eu hanfon ymlaen at Banel Craffu Perfformiad Gwella Gwasanaethau, Cyllid ac Adfywio i'w trafod a byddant yn cael eu cynnwys yn eu llythyr at Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth.

·       Rydym yn cydnabod ei bod yn gyllideb heriol ond cawsom ein calonogi bod Aelod y Cabinet a’r adran addysg wedi ystyried yn ofalus yr opsiynau sydd ar gael iddynt er mwyn gwneud y gorau o’r arian sydd ar gael.

·       Rydym yn bryderus iawn am y gostyngiad parhaus yn lefel y cronfeydd wrth gefn a ddelir gan ysgolion.  Er ein bod yn cydnabod yr angen i’r arian gael ei wario’n ddoeth, mae’n bwysig bod gan ysgolion lefel dda o gronfeydd wrth gefn i'w defnyddio fel 'clustog' os bydd angen gwneud hynny.

·       Nodwyd gennym o gyfraniad Fforwm Cyllideb Ysgolion Abertawe, sef un o’r ymgyngoreion statudol, fod y setliad y mae Abertawe’n ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer addysg yn 'gymharol wael ar safle 17/18 o'r 22 awdurdod lleol Cymru.'  Fel Panel, byddem yn cefnogi rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i weithio i wella sefyllfa Abertawe.

·       Croesawyd y newyddion am y cynllun peilot bws mini ADY ac edrychwn ymlaen at glywed mwy am hyn wrth iddo ddatblygu.

·       Croesawyd y newyddion bod Llywodraeth Cymru yn debygol o dalu am y cynnydd o £5 miliwn (a dderbyniwyd fel rhan o symiau canlyniadol Barnett) yng nghostau pensiwn athrawon yn Abertawe.

·       Mynegwyd pryder ynghylch y ffaith bod y grantiau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru yn gwastatáu a’r effaith y bydd hyn yn ei chael ar ein gwariant cyffredinol ar addysg.

·       Teimlwn ei bod yn dda bod y Cyngor wedi derbyn taliad untro eleni, ond fe wnaethom fynegi pryder ynghylch yr hyn a all ddigwydd yn y dyfodol.

·       Nodwyd y gorwariant ar Gludiant o'r Cartref i'r Ysgol eto eleni.  Byddwn yn cadw llygad ar sut mae hyn yn datblygu dros y flwyddyn i ddod.

·       Rydym yn croesawu gwella darpariaeth ‘o fewn y sir’, a thrwy hynny leihau’r potensial ar gyfer cymaint o leoliadau y tu allan i’r sir.  Fodd bynnag, sylweddolom fod yna arbedion mawr wedi'u rhagamcanu ar gyfer ADY a theimlwn ei bod yn bwysig nad yw hyn yn effeithio ar y canlyniadau ADY cyffredinol yn Abertawe yn y dyfodol.

·       Yn olaf, hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’r ddwy ysgol a’r tîm addysg canolog am y gwaith y maent yn ei wneud yn y cyfnod heriol hwn.

125.

Cynllun Gwaith pdf eicon PDF 115 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Panel y rhaglen waith gan nodi bod cyfarfod ychwanegol ar 19 Chwefror wedi’i drefnu i edrych ar drefniadaeth ysgolion mewn perthynas â chyfuno ysgolion arbennig yn Abertawe.

126.

Er Gwybodaeth - Rhestr Deilliannau Arolygiadau Ysgolion Unigol Diweddar pdf eicon PDF 63 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr wybodaeth gan y panel.  Gofynnodd y Panel fod adroddiadau'r dyfodol yn cynnwys ychydig mwy o gyd-destun, gan gynnwys rhai o'r pethau cadarnhaol am yr ysgolion.