Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Craffu 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

131.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim

132.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim

133.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

134.

Sesiwn Craffu Ysgolion 2 - Ysgol Gynradd Clydach pdf eicon PDF 81 KB

Pennaeth a Chadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Clydach.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y panel y Dirprwy Bennaeth/Pennaeth Dros Dro, Mr Roe, y Pennaeth newydd, Mr Jones, a Chadeirydd y Llywodraethwyr, Mr Nicholds, i'r cyfarfod.

 

Cytunodd y panel ar ddechrau'r flwyddyn ddinesig i gyfarfod â thair ysgol i drafod eu cynlluniau gwella ysgolion a chanlyniadau eu harolygiadau Estyn. Ysgol Gynradd Clydach oedd un o'r ysgolion hynny.

 

Rhoddwyd cyflwyniad Powerpoint i'r panel gan y Pennaeth Dros Dro a Chadeirydd y Llywodraethwyr a oedd yn trafod y pedwar cwestiwn a anfonwyd i'r ysgol cyn y cyfarfod, sef:

 

1.     Allwch chi amlinellu'r cynnydd gyda'ch cynllun gwella ysgol, gan gynnwys unrhyw gynnydd gydag argymhellion Estyn ac wrth gyflwyno'r cwricwlwm newydd?

2.     Beth yw rhwystrau'r ysgol rhag gwella deilliannau ei dysgwyr ymhellach, gan gynnwys unrhyw heriau rydych chi'n eu profi?

3.     Beth yw blaenoriaethau'r cyrff llywodraethu a sut maent yn cael sylw?

4.     Pa mor dda ydych chi'n teimlo y mae'r gefnogaeth gan yr awdurdod lleol, y gwasanaeth gwella ysgolion a Partneriaeth wedi bod?

 

Cododd y panel y materion canlynol i'w trafod ymhellach

 

·       A yw lefel/nifer yr aelodau staff wedi newid a faint o aelodau staff sydd gennych sydd wedi bod yno ers cyn mis Tachwedd 2022.

·       Sut ydych chi'n sicrhau bod rhieni'n cael gwybod am gynnydd yn yr ysgol?

·       Sut y gwnaed cynnydd da a gwelliant nodedig yn yr ysgol ers arolygiad Estyn.

·       Buddsoddi cyfalaf yn yr ysgol

·       Y gefnogaeth y mae'r ysgol wedi'i derbyn oddi wrth y cyngor a Partneriaeth

·       Sicrhau bod yr ysgol yn tywys yr holl athrawon ar y daith mewn perthynas â'r cwricwlwm i Gymru.

·       Ymweliad nesaf Estyn a'r camau nesaf.

 

Bydd y Panel yn cyfleu eu teimladau llawn am y drafodaeth a gafwyd mewn llythyr i Aelod y Cabinet dros Addysg a Sgiliau.

 

135.

Cynllun Gwaith 2023/2024 pdf eicon PDF 115 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2023/2024. Caiff y cyfarfod ar 13 Mawrth 2024 ei symud i ddyddiad ym mis Gorffennaf 2024.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 5.00pm

 

 

Cadeirydd