Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Craffu 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

112.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Datganodd y Cyng. S M Jones a'r Cyng. B Hopkins gysylltiad personol.

113.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim

114.

Cofnodion pdf eicon PDF 340 KB

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2023 gan y Panel.

115.

Llythyrau pdf eicon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd y llythyr a anfonwyd at Aelod y Cabinet yn dilyn cyfarfodydd y Panel ar 23 Tachwedd 2023 ac 14 Rhagfyr 2023.

116.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

117.

Cyflwyno’r Cwricwlwm Newydd i Gymru – cwrdd ag Ysgol Tregwyr a’i Hysgolion Cynradd Clwstwr pdf eicon PDF 37 KB

Cyfarfod ag Ysgol Uwchradd Tregŵyr a'i chlwstwr o Ysgolion Cynradd.

Cofnodion:

Croesawodd y Panel Dave Bradley, sef y swyddog cyswllt Partneriaeth ar gyfer y clwstwr. Rhoddodd drosolwg o'r gefnogaeth a roddwyd i'r clwstwr ac yna amlinellodd y cynnydd.  Dywedodd fod Partneriaeth Gogledd Gŵyr yn bartneriaeth gref, a chanddi hanes hir o weithio mewn partneriaeth hyd yn oed cyn i'r Cwricwlwm i Gymru gael ei gyflwyno. Maent wedi bod yn gwneud cynnydd da iawn wrth ei gyflwyno. Mae Partneriaeth yn gweithio mewn partneriaeth â nhw fel cydraddolion oherwydd mae Partneriaeth yn elwa o'r berthynas a'r dysgu yn yr un modd â'r ysgolion.

 

Croesawodd y Panel Benaethiaid a Chadeiryddion Llywodraethwyr o Bartneriaeth Gogledd Gŵyr. Anfonodd y Panel gyfres o gwestiynau atynt cyn y cyfarfod, a oedd yn ymwneud â chyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru, a darparodd Partneriaeth gyflwyniad a oedd yn amlinellu gwaith y bartneriaeth ac yn mynd i'r afael â'r cwestiynau hynny.  Roedd hyn yn cynnwys:

 

a)    Sut mae'n mynd hyd yn hyn?

b)    Beth sydd fwyaf heriol?

c)     Sut ydych chi'n cefnogi’ch athrawon a staff eich ysgol wrth newid i'r cwricwlwm newydd?

d)    Sut ydych chi'n gweithio gyda'ch gilydd fel clwstwr i sicrhau ymagwedd gyson?

e)    Sut ydych chi'n gwybod pa mor effeithiol yr ydych yn rhoi'r Cwricwlwm i Gymru ar waith yng nghlwstwr Tre-gŵyr?

f)      Sut ydych chi'n mynd â dysgwyr gyda chi ar y daith hon?

Sut mae gwybodaeth am y cwricwlwm yn cael ei rhannu â’r dysgwyr?  Sut mae'r dysgwyr yn ymateb i'r cwricwlwm , yn enwedig y rheini sydd wedi cael profiad o'r ddwy system? 

g)    Sut rydych chi'n teimlo am y gefnogaeth rydych chi wedi’i derbyn gan yr awdurdod lleol a Partneriaeth?

 

Roedd y cyflwyniad gan y bartneriaeth yn rhoi trosolwg o gynnydd, gan gynnwys,

 

·       Sut mae'r bartneriaeth yn edrych ar gysondeb yr egwyddor yn hytrach nag arfer.

·       Cyfansoddiad y bartneriaeth gan gynnwys yr ysgolion sy'n ymgysylltu â hi, nifer y disgyblion etc.

·       Hanes y bartneriaeth

·       Edrychwyd ar y canlynol: argymhellion allweddol Dyfodol Llwyddiannus, y 12 Egwyddor Addysgeg.

·       Mae gan y clwstwr tri phennaeth diweddar sy'n arwain ar ddysgu

·       Cyflwyno agwedd gadarnhaol, brandio 'Kanga y cangarŵ' ar draws y clwstwr, gan ddangos ymagwedd gyson.

·       Gweithio gyda'r awdurdod lleol a Partneriaeth

·       Cynnydd y Siarter Iaith

·       Cynllun cynnydd a datblygiad Partneriaeth Gogledd Gŵyr, a'i chynlluniau ar gyfer y dyfodol 

·       Datblygu gwefan Partneriaeth Gogledd Gŵyr a'i chynnwys

·       Y defnydd cyson o egwyddorion a pholisïau yr ymchwiliwyd iddynt ar draws y bartneriaeth, gan gynnwys Llawlyfr Diogelu a Pholisi Presenoldeb.

·       Cefnogi staff ar draws y clwstwr gan ddefnyddio'r egwyddorion a'r polisïau hynny

 

Gofynnodd y Panel y canlynol yn ystod y cyfarfod hefyd:

·       Beth yw'r lefelau amddifadedd ar draws ardal y clwstwr?

·       Sut mae'r clwstwr yn ariannu Partneriaeth Gogledd Gŵyr ac adnoddau eraill a ddefnyddir, oes cyllideb gyffredinol neu gyllideb a rennir?

·       Beth yw'r ffactorau allweddol ar gyfer eich llwyddiant fel clwstwr yn eich barn chi, o ran bwrw ymlaen â'r Cwricwlwm i Gymru?

·       Pa gyfleoedd ar gyfer dysgu a ddefnyddir?

·       Y defnydd o gysondeb o ran 'Kanga' a pholisïau etc. - ydy hyn yn helpu disgyblion wrth iddynt bontio o ysgol gynradd i ysgol uwchradd yn y clwstwr?

·       Beth yw'r cyfraddau presenoldeb, yn enwedig ar gyfer ysgolion uwchradd?

 

Bydd crynodeb o farn y Panel am y cynnydd a wnaed a'r ymatebion i'r cwestiynau hynny a ofynnwyd yn rhan o'r llythyr at Aelod y Cabinet yn dilyn y cyfarfod.

118.

Cynllun Gwaith 2023/2024 pdf eicon PDF 115 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2023/2024.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 5.50pm