Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Craffu 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

105.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

www.abertawe.gov.uk/DatgeliadauBuddiannau

Cofnodion:

Dim

106.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim

107.

Cofnodion pdf eicon PDF 311 KB

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2023 gan y panel hwn.

108.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

109.

Perfformiad Addysg Blynyddol yn erbyn blaenoriaethau a nodwyd (CMG) gan gynnwys argymhellion Arolygiad Estyn a'r diweddaraf am gynnydd a Sesiwn Holi ac Ateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 135 KB

Y Cynghorydd Robert Smith (Aelod y Cabinet, Addysg a Dysgu), Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg) a Sarah Hughes (Pennaeth Strategaeth Addysg)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diolchodd y Panel i'r Cynghorydd Robert Smith (Aelod y Cabinet dros Ddysgu a Sgiliau), Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg), Kate Phillips (Pennaeth Dysgwyr sy'n Agored i Niwed) a Sarah Hughes (Strategaeth Addysg) am ddod i gyfarfod y Panel a chyflwyno adroddiad ysgrifenedig a oedd yn darparu manylion ynghylch perfformiad Addysg yn erbyn blaenoriaethau a nodwyd.  Roedd y drafodaeth yn cynnwys:

 

·       Cynnydd gyda'r argymhellion a wnaed gan Arolygiad Estyn o Wasanaeth Addysg Llywodraeth Leol yn Abertawe yn 2022, gan gynnwys Addysg Ôl-16  a chryfhau'r ddarpariaeth Gymraeg ym myd Addysg.  Clywodd y Panel fod cynnydd da wedi'i wneud gyda'r ddau argymhelliad.

·       Y cynnydd yn erbyn blaenoriaethau allweddol - mae rhai o'r rhain yn cynnwys, er enghraifft:

­   Strategaeth Cynhwysiad

­   Cynllun gweithredu presenoldeb

­   Gwreiddio gofynion diwygio Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

­   Adolygu darpariaeth arbenigol

­   Gwreiddio ymagwedd ysgol gyfan at iechyd a lles emosiynol

­   Cefnogaeth i Blant sy'n Derbyn Gofal

·       Clywodd y Panel fod cynnydd da wedi'i wneud ar gyfer y rhan fwyaf o amcanion a bod camau wedi'u nodi i fynd i'r afael ag agweddau penodol y mae angen sylw arnynt.

 

Codwyd y materion/cwestiynau canlynol gan y Panel.  Bydd crynodeb o farn y Panel am y cynnydd a wnaed a'r ymatebion i'w cwestiynau'n rhan o'r llythyr a gaiff ei anfon at Aelod y Cabinet yn dilyn yn cyfarfod.

 

·       Roedd y Panel yn falch o weld cynnydd da gydag argymhellion Estyn a gofynnwyd a oedd cynllun gweithredu i gefnogi'r rhain hefyd ac a fyddai hyn yn cael ei gynnwys mewn diweddariad yn y dyfodol.

·       Â phwy yr ymgynghorwyd yn y gwaith llais y dysgwr; a oedd hyn wedi cynnwys y 6ed Dosbarth neu bobl ifanc Ôl-16 er enghraifft, y rheini mewn addysg alwedigaethol.

·       Ysgol arbennig newydd posib. A fydd teithio i'r ysgol newydd yn cael effaith ar y rheini sy'n ei ddefnyddio gan y bydd ar un safle yn hytrach na dau.

·       Cymharu data. A fyddai'n fwy realistig cymharu data cyfredol â data 2019 yn hytrach na'r ychydig flynyddoedd diwethaf ar hyn o bryd. Hefyd, gallai fod yn ddefnyddiol edrych ar arwyddion cyrchfannau fel y disgyblion hynny sy'n cael eu dewis 1af neu 2il ddewis o brifysgol.

·       Pa gefnogaeth a ddarperir i benaethiaid mewn perthynas ag arolygiadau ac yn ehangach.

·       Pan fydd ysgol mewn mesurau arbennig neu'n cael ei monitro gan Estyn, sut mae'r awdurdod lleol yn monitro cynnydd.

·       Sut mae'r ALl ac ysgolion yn cefnogi plant y lluoedd arfog.

·       Canlyniadau PISA; oes gennym ganlyniadau ar gyfer ardal Abertawe.

 

Gofynnodd y panel i'r Aelod Cabinet a'r Cyfarwyddwr ddiolch i'r gyfarwyddiaeth Addysg ac ysgolion am eu gwaith rhagorol eleni.

 

110.

Adborth gan y Grwp Craffu Cynghorwyr Partneriaeth pdf eicon PDF 197 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Lyndon Jones ddiweddariad i'r panel ynghylch Craffu ar Partneriaeth a oedd yn cynnwys rhannu'r llythyr at Gadeirydd y Cyd-bwyllgor oddi wrth y grŵp cynghorwyr yn dilyn eu cyfarfod diwethaf ar 23 Hydref 2023.

 

Croesawodd y panel y diweddariad o ran Craffu ar Partneriaeth a theimlant ei bod yn ddefnyddiol cael copïau o'r llythyrau  Roedd un o'r materion a godwyd yn y llythyr yn ymwneud â'r hyfforddiant, y datblygiad a'r gefnogaeth a ddarparwyd gan Partneriaeth ac a oedd hyn ar gael i lywodraethwyr ysgol. 

111.

Cynllun Gwaith 2023/2024 pdf eicon PDF 113 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2023/2024.

 

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 5.40 pm

 

Llythyr at aelod y Cabinet pdf eicon PDF 184 KB