Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Craffu 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

96.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Cllrs Lyndon Datganodd y Cynghorydd Lyndon Jones a Mike Day gysylltiad personol ag eitem 9 ar yr agenda.

 

97.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim

98.

Cofnodion pdf eicon PDF 338 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y Panel ar gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 14 Medi 2023 a 19 Hydref 2023.

99.

Llythyrau pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd y llythyr at Aelod y Cabinet yn dilyn cyfarfod y Panel ar 14 Medi 2023.

 

Nodwyd y llythyr at Aelod y Cabinet yn dilyn cyfarfod y Panel ar 19 Hydref 2023.  Diweddarodd y Cyfarwyddwr y Panel ar fater a godwyd gan y Pennaeth, a oedd wedi teimlo nad oedd peth o'r hyfforddiant grŵp a ddarparwyd gan Partneriaeth mor fuddiol â'r gefnogaeth un-i-un. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg wrth y Panel ei fod wedi gofyn i Bennaeth Ysgol Gynradd Gorseinon nodi digwyddiadau hyfforddi nad oeddent cystal â'r disgwyl. Mae wedi cadarnhau bod yr esiampl/au yn rhag-ddyddio mis Ebrill 2022 pan ddechreuodd Partneriaeth yn gyfreithlon.

100.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

101.

Lleihau anfantais mewn ysgolion, gan gynnwys y grant datblygu disgyblion, cyflwyno prydau ysgol am ddim, cost y diwrnod ysgol a gwisg ysgol pdf eicon PDF 171 KB

Y Cynghorydd Robert Smith (Aelod y Cabinet, Addysg a Dysgu), Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg) a Kelly Small (Pennaeth y Tîm Cynllunio ac Adnoddau)

 

Cofnodion:

Diolchodd y Panel i'r Cynghorydd Robert Smith (Aelod y Cabinet dros Ddysgu a Sgiliau), Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg), Kelly Small (Pennaeth Cynllunio ac Adnoddau) am ddod i gyfarfod y Panel a chyflwyno adroddiad ysgrifenedig a oedd yn manylu ar leihau anfantais mewn ysgolion.  Roedd y drafodaeth yn cynnwys:

 

·       Gwariant y Grant Datblygu Disgyblion

·       Cyflwyno prydau ysgol am ddim

·       Cost y diwrnod ysgol

·       Cost gwisg ysgol a grant gwisg ysgol.

 

Codwyd y materion/cwestiynau canlynol gan y Panel.  Bydd crynodeb o farn y Panel am y cynnydd a wnaed a'r ymatebion i gwestiynau'n ffurfio rhan o'r llythyr at Aelod y Cabinet yn dilyn yn cyfarfod.

 

·       Sut y penderfynir ar daliadau a grantiau datblygu disgyblion yn y dyfodol pan nad yw'r mesur procsi prydau ysgol am ddim (PYDd) bellach yn gywir gan fod llai o gymhelliant bellach i rieni gofrestru yn sgil cyflwyno PYDd.

·       Gostyngiad posib mewn amser ar deithiau ysgol ar fws oherwydd y rheol 20mya.

·       A yw enghreifftiau o arfer da wrth leihau anfantais yn cael eu rhannu ar draws yr ysgol.

102.

Gwasanaeth Gwella Ysgolion - Diweddariad Blynyddol pdf eicon PDF 177 KB

Y Cynghorydd Robert Smith (Aelod y Cabinet, Addysg a Dysgu), Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg) a David Thomas (Prif Swyddog Gwella Ysgolion)

 

Cofnodion:

Diolchodd y Panel i'r Cynghorydd Robert Smith (Aelod y Cabinet dros Ddysgu a Sgiliau), Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg), David Thomas (Prif Swyddog Gwella Ysgolion) am ddod i gyfarfod y Panel a chyflwyno adroddiad ysgrifenedig a oedd yn rhoi'r wybodaeth  ddiweddaraf am y Gwasanaeth Gwella Ysgolion. Roedd y drafodaeth yn cynnwys:

 

·       Cefndir y gwasanaeth

·       Gwybodaeth am y sefyllfa bresennol

·       Casgliadau

·       Meysydd ffocws allweddol yr Ymgynghorwyr Gwella Ysgolion ar gyfer 2023/2024

 

Codwyd y materion/cwestiynau canlynol gan y Panel.  Bydd crynodeb o farn y Panel mewn perthynas â'r diweddariad ar y gwasanaeth gwella ysgolion yn ffurfio rhan o'r llythyr at Aelod y Cabinet yn dilyn y cyfarfod. Mae rhai o'r materion a godwyd gan y Panel yn cynnwys:

 

·       Sut mae rolau beunyddiol y Tîm Gwella Ysgolion a Partneriaeth yn gweithio, beth yw'r gwahanol rolau, oes unrhyw fylchau neu orgyffwrdd.

103.

Coginio mewn Ysgolion pdf eicon PDF 140 KB

Y Cynghorydd Robert Smith (Aelod y Cabinet, Addysg a Dysgu), Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg) a Rhodri Jones (Pennaeth y Gwasanaeth Cyflawniad a Phartneriaeth)

 

Cofnodion:

Diolchodd y Panel i'r Cynghorydd Robert Smith (Aelod y Cabinet dros Ddysgu a Sgiliau), Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg), Rhodri Jones (Pennaeth Cyflawniad a Gwasanaeth Partneriaeth) am ddod i gyfarfod y Panel a chyflwyno adroddiad ysgrifenedig a oedd yn manylu ar leihau anfantais mewn ysgolion.  Roedd y drafodaeth yn cynnwys:

 

·       Cyflwyniad i goginio a'r Cwricwlwm i Gymru

·       Coginio mewn ysgolion cynradd

·       Coginio mewn ysgolion uwchradd.

 

Bydd crynodeb o farn y Panel am y sesiwn friffio ar goginio mewn ysgolion yn ffurfio rhan o'r llythyr at Aelod y Cabinet yn dilyn yn cyfarfod.  Codwyd y materion/cwestiynau canlynol gan y Panel. 

 

·       Beth yw'r amcanion o ran coginio, a yw'n rhan o'r strategaeth ehangach o gwmpas, er enghraifft, tlodi.

·       A yw ysgolion etc. yn adeiladu hyn i mewn i'r cwricwlwm a pha mor aml y mae plant yn cael coginio mewn gwirionedd?

·       A yw lefel sgiliau Cymru gyfan yn rhan o'r agenda alwedigaethol ac a oes cymwysterau cysylltiedig ar draws Cymru.

·       Nodwyd bod Ysgol Gynradd Penclawdd yn enghraifft dda. A ystyriwyd cyflwyno'r hyn y mae'r ysgol hon yn ei wneud yn ehangach.

104.

Rhaglen Waith 2023/2024 pdf eicon PDF 112 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2023/2024. Bydd sesiwn friffio sy'n ymwneud ag addysg Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn cael ei hychwanegu at y rhaglen waith craffu eleni.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 5.10 pm

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 146 KB