Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: craffu
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Dim |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Cofnodion: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod ar 17 Tachwedd gan y Panel. |
|
Cofnodion: Nodwyd y llythyr at Aelod y Cabinet. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n
ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan
ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n
cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n
bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i
eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10
munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Perfformiad Addysg Blynyddol yn erbyn blaenoriaethau a nodwyd (COG) a chynnydd gydag argymhellion Arolwg Estyn (Sesiwn Holi ac Ateb Aelodau'r Cabinet) Cofnodion: Diolchodd y panel
i Sarah Hughes, Pennaeth yr Uned Gwella a Monitro am gyflwyno'r adroddiad a'r
cynnydd diweddar o ran perfformiad Addysg yn erbyn y blaenoriaethau a nodwyd ac
argymhellion Arolygiad Estyn. Trafodwyd y canlynol: ·
Cefndir
yr adroddiad ·
Cynnydd
ym mlwyddyn academaidd 2021-22 ar gyfer amcanion y Gyfarwyddiaeth Addysg ·
Cynnydd
yn ystod y flwyddyn academaidd hon gydag amcanion allweddol megis maniffesto
disgyblion, darpariaeth prydau ysgol, porth llywodraethwyr a'r
gyllideb/adnoddau ·
Cynnydd
yn erbyn y ddau argymhelliad a wnaed gan Arolygiad Estyn o Wasanaethau Addysg
Llywodraeth Leol yn 2022. Cododd y Panel y
pwyntiau/cwestiynau canlynol mewn perthynas â chynnydd Arolygiad Estyn: ·
Pwysleisiodd
y panel bwysigrwydd y cynnig dysgu galwedigaethol ac roeddent yn teimlo bod hwn
yn allweddol fel un o'r meysydd lle mae angen gwelliant. Gofynnwyd sut y mae
lleisiau ‘tawelach’ disgyblion Ôl-16 yn cael eu clywed. Hefyd, os bydd rhywbeth
sy'n wahanol i'r hyn a gynigir ar hyn o bryd yn dod o'r ymgynghoriad, a fyddant
yn gallu addasu a chaniatáu hynny. Gofynnodd y panel a allai rhestr o rai o'r
cyrsiau galwedigaethol sydd ar gael i fyfyrwyr Ôl-16 gael ei dosbarthu i'r
panel. ·
Gofynnodd
y panel beth rydym yn ei wneud yn Abertawe i wella nifer y bobl sy'n
defnyddio'r Gymraeg mewn addysg. Bydd y
drafodaeth, syniadau o'r sesiwn ac unrhyw argymhellion yn ffurfio rhan o'r
llythyr a fydd yn cael ei anfon at Aelod y Cabinet. |
|
Darpariaeth gerdd ar gyfer/yn ysgolion Abertawe PDF 190 KB Y Cynghorydd Robert Smith (Aelod y Cabinet, Addysg a Dysgu), Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg) a Karin Jenkins -
(Pennaeth Uned Gerdd Abertawe) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Diolchodd y panel
i Karin Jenkins (Pennaeth Cerdd Abertawe) am ddarparu adroddiad ac am fod yn
bresennol yng nghyfarfod y panel i roi sesiwn friffio ar Gerdd Abertawe.
Amlinellodd: ·
Cefndir
y gwasanaeth a chyfrifoldebau craidd ·
Cytundeb
Lefel Gwasanaeth Cerdd Abertawe ·
Gwasanaeth
Cerddoriaeth Cenedlaethol; ac ·
Amlinellodd
fanteision model CLG newydd y Gwasanaeth Cerddoriaeth a’r heriau posib a geir
yn sgîl y model hwn ·
Amlinellodd
fanteision y Cynllun Cerddoriaeth Cenedlaethol a'r heriau posib a geir yn sgîl hwn Derbyniodd y Cadeirydd
hefyd nifer o gwestiynau gan aelod o'r cyhoedd a bydd y rhain yn llunio rhan o
lythyr y Cynullyddion at Aelod y Cabinet fel y gellir derbyn ymateb llawn yn
dilyn y cyfarfod. Bydd y drafodaeth, syniadau o'r sesiwn ac unrhyw argymhellion yn ffurfio rhan o'r llythyr a fydd yn cael ei anfon at Aelod y Cabinet. |
|
Rhaglen Waith 2022-2023 PDF 91 KB Cofnodion: Nododd y panel y
rhaglen waith. Daeth y cyfarfod i ben am 5.30pm Cadeirydd |