Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Craffu
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Cofnodion: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod ar 27 Hydref 2022 gan y Panel. |
|
Cofnodion: Nodwyd y llythyr at yr Aelod Cabinet yn deillio o'r cyfarfod blaenorol gan y Panel. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir
cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod.
Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r
cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod
cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â
hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol - Diweddariad (eitem briff gwylio) PDF 143 KB Y Cynghorydd Robert Smith (Aelod y Cabinet, Addysg a Dysgu), Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg), Kate Phillips (Pennaeth Dysgwyr Diamddiffyn) a Alison Lane (Pennaeth y Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol) Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Diolchodd y Panel
i Kate Phillips (Pennaeth Dysgwyr Diamddiffyn) ac Alison Lane (Pennaeth y Tîm
Anghenion Dysgu Ychwanegol) am eu hadroddiad a oedd yn rhoi'r cefndir a
diweddariad o ran sefyllfa Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Abertawe.
Amlinellwyd y cynnydd hyd yma, y llwyddiannau a'r heriau, y strategaeth ddiwygiedig
a'r cymorth, darpariaeth ôl-16, y Bwrdd Iechyd Lleol a gweithgarwch y
blynyddoedd cynnar. Yna trafododd y
pwyllgor y canlynol: ·
A
oedd y syniad o weithredu mewn ffordd sy'n niwtral o ran cost yn ddisgwyliad
optimistaidd gan Lywodraeth Cymru ac a yw’r disgwyliad hwnnw’n effeithio ar y
gweithredu yma. ·
Darpariaeth
Ôl-16 a'n cysylltiadau â cholegau ·
Pa
fath o hyfforddiant sydd ar gael, sut rydym ni ac ysgolion yn rheoli hyn ac yn
sicrhau ymagwedd gyson. ·
Sut
rydym yn gwahaniaethu rhwng ADY a phlant y gall fod angen iddynt ddal i fyny,
er enghraifft ar ôl COVID. · Sut mae gofynion cymorth i ddysgwyr yn cael eu nodi a hyd yr amser i roi cymorth ar waith. |
|
Gwariant y Grant Datblygu Disgyblion ar ddisgyblion diamddiffyn Cofnodion: Cafodd y Panel
gyflwyniad PowerPoint gan Kelly Small (Pennaeth y Tîm Cynllunio ac
Adnoddau). Roedd y cyflwyniad yn edrych
ar y defnydd o’r grant datblygu disgyblion (GDD) yn ysgolion Abertawe ac yn
amlinellu cynnydd gydag argymhellion y Cabinet a gefnogwyd gan y Pwyllgor
Polisi. Yn dilyn ymweliadau ag ysgolion
yn ystod yr hydref, ystyriwyd cynlluniau GDD ysgolion fel rhan o’r broses
honno. Cododd y Panel y
pwyntiau canlynol: ·
Gostyngiad
rhagamcanol mewn incwm gwario teuluoedd a’r cynnydd
posib yn nifer y disgyblion y mae angen cymorth arnynt ac a ydym yn barod am y
cynnydd hwn. ·
Defnyddio’r
grant GDD ar gyfer disgyblion unigol nad ydynt efallai’n
dod o fewn y GDD, os oes angen, yn hytrach na chymorth cyffredinol i
ddisgyblion sy’n derbyn y grant. |
|
Gwasanaeth Gwella Ysgolion PDF 180 KB Y Cynghorydd Robert Smith (Aelod y Cabinet, Addysg a Dysgu), Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg) a David Thomas (Pennaeth yr Tîm Gwella Ysgolion) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd David
Thomas, Prif Ymgynghorydd Gwella Ysgolion, yr adroddiad gan roi gwybodaeth
gefndir ac amlinellu'r sefyllfa bresennol o ran y Gwasanaeth Gwella Ysgolion. Trafododd y Panel
y pwyntiau canlynol: ·
Trafodwyd
pwysigrwydd ysbrydoli plant gan y byd gwaith, yn benodol y cyfleoedd a fydd yn
cael eu cynnig ac sy’n cael eu cynnig ar hyn o bryd gan y Fargen Ddinesig. ·
Pwysigrwydd
creu cysylltiadau da â'r lleoliadau addysg uwch ac addysg bellach a byrddau
arholi. · Pwysigrwydd edrych ar ba gymwysterau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol h.y., Partneriaeth Sgiliau Abertawe a'u gwaith ar gymhwysedd digidol o ran dysgwyr a staff. |
|
Cwricwlwm Newydd i Gymru - Diweddariad (eitem briff gwylio) PDF 161 KB Y Cynghorydd Robert Smith (Aelod y Cabinet, Addysg a Dysgu), Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg) a David Thomas (Pennaeth yr Tîm Gwella Ysgolion) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd David
Thomas, Prif Ymgynghorydd Gwella Ysgolion, y cyntaf o ddau adroddiad a drefnwyd
eleni a fydd yn amlinellu'r cynnydd o ran cyflwyno’r Cwricwlwm Newydd i Gymru
mewn ysgolion. Gofynnodd y Panel am ansawdd a chost y rhaglen hyfforddi a ddarperir gan Partneriaeth, a yw’n fuddiol ac yn gost effeithiol. |
|
Adborth gan Grwp Cynghorwyr Craffu Partneriaeth PDF 218 KB Cynullydd y Panel Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Nododd y Panel yr adborth gan Gynullydd y Panel mewn perthynas â Grŵp Cynghorwyr Craffu Partneriaeth ar 24 Hydref 2022. |
|
Cynllun Gwaith 2022 - 2023 PDF 90 KB Cofnodion: Nodwyd y rhaglen waith. |
|