Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Craffu 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Dim

2.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 360 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod ar 15 Mawrth 2022 gan y Panel.

4.

Llythyrau pdf eicon PDF 183 KB

Cofnodion:

Nododd y Panel y llythyr at Aelod y Cabinet yn dilyn cyfarfod y Panel ar 15 Mawrth 2022.

5.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

6.

Rôl y Panel Perfformiad pdf eicon PDF 158 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Amlinellodd y Cynullydd rôl y Panel Craffu Perfformiad Addysg, gan dynnu sylw at y pwyntiau allweddol ynghylch gweithio'n effeithiol.

7.

Diweddariad ar y Gyfarwyddiaeth Addysg pdf eicon PDF 126 KB

Y Cynghorydd Robert Smith (Aelod y Cabinet, Addysg a Dysgu), Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg)

a)    Adborth/adroddiad ac argymhellion yn dilyn Arolygiad Estyn. Sarah Hughes (Pennaeth yr Uned Gwella a Monitro)

a)    Trosolwg o strwythur a blaenoriaethau allweddol addysg ar hyn o bryd.  Sarah Hughes (Pennaeth yr Uned Gwella a Monitro)

b)    Sesiwn friffio Partneriaeth Addysg Ranbarthol 'Partneriaeth' a diweddariad ar y sefyllfa gyfredol. Rhodri Jones (Pennaeth y Gwasanaeth Cyflawniad a Phartneriaeth)

c)     Maniffesto 'Llais y Disgybl', beth yw e' a'r sefyllfa bresennol. Rhodri Jones (Pennaeth y Gwasanaeth Cyflawniad a Phartneriaeth)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(a)  Amlinellodd Rheolwr Tîm y Strategaeth Addysg, Sarah Hughes, yr arolygiad Estyn diweddar o Wasanaethau Addysg yn Abertawe. Dywedodd wrth y Panel:

·       Mae Estyn yn darparu un dyfarniad ynglŷn ag a ddylid rhoi gwasanaethau addysg awdurdod lleol mewn categori sy'n 'peri pryder sylweddol'. Barnodd Estyn nad yw gwasanaethau addysg yn Abertawe yn perthyn i'r categori hwn.

·       Cyhoeddwyd yr adroddiad ar 1 Medi 2022 gan nodi llawer o gryfderau a nodweddion nodedig.

·       Gwahoddwyd yr awdurdod lleol i gyflwyno dwy astudiaeth achos ar ei waith mewn perthynas â chefnogaeth gref i wella ysgolion ac ansawdd y gefnogaeth mewn ysgolion prif ffrwd ar gyfer disgyblion sydd mewn perygl o ymddieithrio, a fydd wedyn yn cael eu cyhoeddi gan Estyn.

·       Gwnaed dau argymhelliad. Y cyntaf yw 'adolygu darpariaeth ôl-16 i sicrhau ei bod yn diwallu anghenion pob un o'r dysgwyr', a'r ail yw 'cryfhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws pob oedran ac ardal o’r awdurdod lleol'.

·       Dechreuwyd ar y gwaith o fynd i'r afael â meysydd yr argymhellion cyn yr arolygiad. Mae strategaethau newydd ar gyfer darpariaeth ôl-16 a darpariaeth alwedigaethol yn cael eu datblygu a bydd rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys plant a phobl ifanc, chweched dosbarth, sefydliadau addysg bellach a darparwyr dysgu sy’n seiliedig ar waith yn ymwneud â datblygiad parhaus y strategaethau hyn.

·       Cymeradwyodd y Cabinet Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Abertawe ym mis Gorffennaf 2022, sydd bellach wedi ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Mae gweledigaeth ddeng mlynedd ar gyfer cynyddu a gwella cynllunio ar gyfer darpariaeth addysgol cyfrwng Cymraeg yn Abertawe wedi ei chynnwys yn y cynllun hwn. Bydd cynllun cyflawni’n cael ei ddatblygu gyda rhanddeiliaid o Bartneriaeth Addysg Gymraeg Abertawe yn ystod tymor yr hydref.

·       Cytunodd Aelod y Cabinet, y Cyfarwyddwr a'r Panel ac roeddent yn falch ei fod wedi bod yn arolygiad hynod lwyddiannus ac yn adlewyrchiad da o'r gwaith sy'n cael ei wneud yn ein hysgolion. Pwysleisiodd Aelod y Cabinet er ein bod wedi cael y canlyniad gwych hwn, nad ydym yn mynd i fod yn hunanfodlon ond yn bwriadu gwella'n barhaus. Diolchodd hefyd i waith y Panel yn ei rôl fel cyfaill beirniadol.

·       Roedd y Panel am ddiolch i bawb a oedd yn gysylltiedig â chael y canlyniad rhagorol hwn.

 

(b)  Cyflwynwyd adroddiad trosolwg sy'n rhoi manylion am y strwythur a'r blaenoriaethau allweddol ar gyfer Addysg ar hyn o bryd gan Rheolwr Tîm y Strategaeth Addysg.

 

(c)   Cyflwynodd Rhodri Jones, Pennaeth y Gwasanaethau Cyflawniad a Phartneriaeth, nodyn briffio ysgrifenedig i'r Panel ar Partneriaeth, sef y bartneriaeth addysg ranbarthol, gan gynnwys diweddariad o'r sefyllfa bresennol.  Eglurodd mai

·       trefniant cydweithredol rhanbarthol yw'r bartneriaeth newydd a gynlluniwyd i hyrwyddo rhagoriaeth ym mhob un o'n hysgolion a'n lleoliadau. Mae'n endid cyfreithiol ac yn gwasanaethu tri awdurdod lleol yn ne-orllewin Cymru - Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

·       Mae'r model newydd wedi mynd i'r afael â phryderon blaenorol (mewn partneriaethau blaenorol) ynghylch cyfathrebu ac o ganlyniad, mae perthynas gref yn datblygu ar draws y rhanbarth. 

·       Prif swyddogaeth y bartneriaeth yw darparu gwasanaeth dysgu proffesiynol i ysgolion ac arweinwyr ysgolion. 

·       Mae'r gwelliant craidd mewn ysgolion yn parhau fel rhan o ddarpariaeth yr awdurdodau lleol a bydd swyddogion Partneriaeth yn ategu at y ddarpariaeth pan fo hynny'n briodol. Gan esbonio bod hyn yn osgoi dyblygu cefnogaeth ac yn ychwanegu gwerth am arian.

 

(Ch) Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaeth Cyflawniad a Phartneriaeth fanylion am Faniffesto Disgyblion Abertawe hefyd. Gan esbonio bod Cymuned Dysgu Proffesiynol Llais y Disgybl (o athrawon a disgyblion ysgolion uwchradd) wedi dod at ei gilydd i ddatblygu maniffesto disgyblion ar gyfer Abertawe a chyflwynwyd hwn i'r cyngor ar 7 Gorffennaf 2022. Amlinellodd 'yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw' ynghyd ag ystod o syniadau arloesol a chadarnhaol y dylai Cyngor Abertawe eu hystyried fel ffordd o helpu i wella cymunedau Abertawe. Y bwriad yw i’r Maniffesto Llais y Disgybl fwydo i mewn i gynllunio ac ymgynghori'n gorfforaethol, gan gynnwys ar gyfer y Cynllun Corfforaethol newydd ac i adolygu Abertawe 2023.

8.

Trafod Rhaglen Waith 2022/2023 a chytuno arni pdf eicon PDF 89 KB

Cofnodion:

Cytunodd y Panel ar eu rhaglen waith ar gyfer 2022/2023 gan ychwanegu:

·       Diweddariadau ar gynnydd gyda dau argymhelliad sydd yn adroddiad Estyn o Wasanaethau Addysg yn Abertawe.

·       Gwersi coginio mewn ysgolion.

Cytunodd y Panel hefyd i edrych ar sut y gallant gynnwys lleisiau plant a phobl ifanc yn eu gwaith.

 

9.

Er gwybodaeth - rhestr arolygiadau ysgolion unigol diweddar pdf eicon PDF 106 KB

Cofnodion:

Nododd y Panel y rhestr arolygiadau Estyn unigol ddiweddar.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 5.40pm

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 162 KB