Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams
Cyswllt: Michelle Roberts, Craffu
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. www.abertawe.gov.uk/DatgeliadauBuddiannau Cofnodion: Dywedodd y
Cynghorydd Lyndon Jones a'r Rhiant-Lywodraethwr Cyfetholedig, Alexander
Roberts, eu bod yn llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Llythyrau a'r Cofnodion PDF 340 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd y
Panel gofnodion, llythyrau ac ymateb gan aelodau'r Cabinet. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Rhaid cyflwyno
cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar
y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Cofnodion: Ni ofynnwyd
unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Dysgu cyfunol ac o bell – barn pedwar disgybl o Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt Bydd pedwar disgybl yn bresennol ynghyd â John Owen, Pennaeth, Ysgol
Gynradd Llandeilo Ferwallt Cofnodion: Croesawodd y
panel John Owen, y Pennaeth, a phedwar disgybl, sef Max, Iris, Jacob ac Esme o Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt. Roeddent yn
bresennol yn y cyfarfod i drafod eu barn ynghylch dysgu o bell a dysgu
cyfunol. Rhoddon nhw eu barn am sut i
gadw'n iach yn ystod y cyfyngiadau symud, yr heriau yr oeddent wedi'u hwynebu,
uchafbwyntiau dysgu gartref a sut y gwnaethant gynnydd, yn ogystal â dychwelyd
yn ôl i'r ysgol. Roedd y panel yn awyddus i glywed am eu profiadau a diolchodd
iddynt am eu presenoldeb. |
|
D iweddariad ar Gynllun Adfer Addysg Covid Y Cynghorydd Jen Raynor, Aelod y Cabinet
dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, a Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg) Cofnodion: Roedd y panel yn
falch o glywed am y diweddariad cadarnhaol ar ddisgyblion sy'n dychwelyd i'r
ysgol a'r adferiad parhaus ym maes Addysg. Clywsant y canlynol: ·
Roedd
disgyblion cynradd wedi dychwelyd yn llawn.
Bu rhai achosion o COVID yn ystod yr wythnosau diwethaf felly mae tua
100 o ddisgyblion wedi gorfod hunanynysu. ·
Agorodd
ysgolion uwchradd yn rhannol i ddisgyblion ac mae disgyblion blwyddyn 11 a 13
ddychwelyd eisoes a bydd mwy yn dychwelyd yr wythnos hon. Yr wythnos hon bu'n rhaid i 400 o ddisgyblion
hunanynysu oherwydd bod ambell achos wedi dod o'r
gymuned. Bydd pob disgybl yn dechrau o
12 Ebrill gyda diwrnod cynllunio posib. ·
Dywedodd
Aelod y Cabinet ei bod am dalu teyrnged i ysgolion ar ôl iddynt reoli'r
dychweliad i'r ysgol fesul cam. Dywedodd
fod angen asesiadau risg, ailgynllunio mannau a chyflwyno profion llif unffordd
yn y sector uwchradd. Dywedodd hefyd mai
lles fyddai cam cyntaf y dychweliad - mae plant hapus yn dysgu'n well. ·
Roedd
y panel yn gwerthfawrogi'r ymdrechion a wnaed i ddychwelyd i'r ysgol mewn
ffordd mor ddi-dor â phosib ac i ganolbwyntio ar les disgyblion a staff. |
|
Y Cynghorydd Jen
Raynor, Aelod y Cabinet dros
Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, a Damien Beech, Pennaeth yr Tîm Cyfnod Cynradd Cofnodion: Daeth Pennaeth y
Tîm Cynradd, Gwasanaethau Cyflawniad a Phartneriaethau i'r cyfarfod, a rhoddodd
gyflwyniad ar y Grant Datblygu Disgyblion (GDD) a thrafododd y materion
canlynol: ·
Cefndir
gwariant y GDD, gan gynnwys ymweliadau yn ystod tymor yr hydref ac argymhellion
y Pwyllgor Datblygu Polisi ·
Cyfanswm
gwariant y GDD ar gyfer ysgolion cynradd Abertawe yw £5,644,200, a'r cyfanswm
cyfartalog i ysgolion cynradd yw £73,000 (isaf: £3,450 a'r uchaf £207,000) ·
Cyfanswm
gwariant y GDD ar gyfer ysgolion uwchradd ac arbennig Abertawe yw £2,748,500,
a'r cyfanswm cyfartalog i ysgolion uwchradd yw: £196,000 (isaf: £52,000 ac
uchaf: £348,000). Y cyfanswm ar gyfer
Ysgolion Arbennig yw £70,150 a'r cyfanswm cyfartalog yw: £35,000 ·
Siart
llif o ganllawiau i ysgolion ·
Enghreifftiau
o wariant, gan gynnwys amrywiaeth eang o ddefnyddiau, gan gynnwys cefnogi
teuluoedd ·
Dangos
effaith y gwariant ·
Yr
hyn nad oedd mor llwyddiannus ·
Canllawiau
Llywodraeth Cymru ac Estyn ·
Awdurdod
Lleol yn derbyn cyllid GAD i PDG (plant sy'n derbyn gofal) o £292,756 ar gyfer
20-21 a dosbarthwyd yr arian hwn i glystyrau ·
Clywodd
y panel nad ydym wedi cael unrhyw wybodaeth am ddyraniad y flwyddyn nesaf hyd
yn hyn ·
Cynghorwyd
yr ysgolion i beidio â gorgymhlethu eu cynlluniau GAD
ac i ddefnyddio canllawiau ar wariant cymwys. Dylid defnyddio ymchwil a
thystiolaeth wrth edrych ar sut i wario arian grant. Fe'i trafodir gydag ysgolion yn ystod eu
hymweliadau gwella ysgolion yn yr hydref. ·
Mae
lles yn ganolog, ac mae lles corfforol a meddyliol yn flaenoriaeth ar hyn o
bryd. ·
Gofynnodd
y panel sut y caiff llwyddiant ei fesur gan ei bod yn anodd mesur llawer o'r
canlyniadau. Nodwyd bod manteisio i’r eithaf
ar y grant yn allweddol a bod yn rhaid iddo fod yn seiliedig ar ymchwil am yr
hyn sy'n gweithio. Mae mesur cynnydd a
chyflawniad disgyblion yn hytrach na dim ond mesur deilliannau ar y diwedd
hefyd yn allweddol. ·
Codwyd
dyraniad y grant hwn yn flynyddol, ac mae'r ffaith nad yw ysgolion a'r awdurdod
lleol yn gwybod sut y bydd hyn yn newid o flwyddyn i flwyddyn yn broblem. |
|
Diweddariad - Gwasanaeth Gwella Addysg Rhanbarthol (ERW) PDF 326 KB Y Cynghorydd Jen
Raynor, Aelod y Cabinet dros
Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, a Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Diweddarodd y
Cyfarwyddwr Addysg y panel ar y trefniadau yn Abertawe mewn perthynas â
Gwasanaeth Ein Rhanbarth ar Waith. Nodwyd y canlynol: ·
Cyflwynwyd
adroddiad i Gabinet Cyngor Abertawe yn gofyn am ohirio tynnu Abertawe'n ôl o ERW, felly mae Abertawe'n
parhau i fod yn aelod o'r corff rhanbarthol hwn tan 31 Awst 2021. Mae hyn er mwyn rhoi mwy o amser i'r
rhanbarth sefydlu'r trefniadau newydd ar gyfer corff rhanbarthol newydd a fydd
yn dechrau ar 1 Medi 2021. ·
Ar
hyn o bryd, mae Sir Gaerfyrddin, Powys, Sir Benfro ac Abertawe wedi cytuno i
aros o fewn y bartneriaeth dros dro nes 31 Awst, ac ni fydd Castell-nedd Port
Talbot a Cheredigion yn rhan o'r corff ond gallant
brynu gwasanaethau nes bod corff newydd wedi'i sefydlu. ·
Cafwyd
rhai rhwystrau a arafodd y broses o ymrwymo i gytundeb rhanbarthol newydd gan
gynnwys, COVID a disgwyliadau Llywodraeth Cymru, er enghraifft. ·
Bwriedir
gweithredu cytundeb newydd o 1 Medi ac mae trafodaethau ar sut y bydd hyn yn
edrych yn parhau. Mae angen gwneud
llawer mwy o waith ac mae angen cynnal trafodaethau gyda phawb sy'n rhan o'r
prosiect o ran yr hyn y mae pob rhanddeiliad am ei
gael o ganlyniad i'r bartneriaeth. ·
Gofynnodd
y panel beth fydd y trefniadau llywodraethu. Sut y bydd craffu'n cyd-fynd â'r
model newydd hwn? Beth fydd ei amcanion allweddol? A sut caiff llwyddiant ei
fesur? Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg y
bydd unrhyw drefniant newydd yn cael ei gyflwyno i Gabinet pob awdurdod lleol
i'w gytuno arno ac y gellir rhannu'r cynlluniau hyn a'r model llywodraethu
hefyd â'r tîm chraffu. Gellir gweld holl gyfarfodydd Cyd-bwyllgor ERW, lle
caiff yr eitemau hyn eu trafod (ar gyfer y rhanbarth) hefyd drwy wefan www.erw.cymru. ·
O'r
model newydd hwn, byddwn yn gallu dewis yr hyn y mae Abertawe ei eisiau ac y
mae angen i'r Consortiwm ei gyflawni, yn hytrach nag un ateb sy'n addas i'r
cyfan, fel a gawsom yn y gorffennol. Mae'n bwysig bod rolau a chyfrifoldebau'n
glir ac i osgoi dyblygu rhwng yr hyn y mae awdurdodau lleol yn ei wneud a'r hyn
y bydd y corff rhanbarthol yn ei wneud. ·
Diweddarodd
Cadeirydd y panel yr aelodau ar gyfarfod Grŵp Cynghorwyr Craffu ERW a
gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2021. Bydd y
llythyr at Gadeirydd Cyd-bwyllgor ERW o'r cyfarfod hwnnw’n cael ei ddosbarthu
i'r panel, er gwybodaeth yn fuan. |
|
Cynllun Gwaith 2020/2021 PDF 263 KB Cofnodion: Nodwyd y Blaenraglen Waith.
Cytunodd y panel i drefnu eitem i drafod yr hyn sy'n gweithio i
ddisgyblion diamddiffyn ar y rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn ddinesig newydd. Daeth y cyfarfod
i ben am 5.45pm |
|