Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Dim

2.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 236 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd llythyr a chofnodion y cyfarfod ar 14 Tachwedd.

 

4.

Y gyllideb flynyddol fel y mae'n berthnasol i faterion addysg pdf eicon PDF 336 KB

Cofnodion:

Darparwyd adroddiad ysgrifenedig gan y Cyng. Jennifer Raynor, Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau a Mark Sheridan, Pennaeth y Gwasanaeth Dysgwyr Diamddiffyn ac roeddent yn bresennol yn ystod cyfarfod y panel i ateb unrhyw gwestiynau. Nodwyd y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Rhoddodd yr adroddiad y diweddaraf i'r panel ynghylch y cynnydd a wnaed ar y Strategaeth ADY. Roedd yn cynnwys cynnydd dros flwyddyn academaidd 2018/19, y cyd-destun presennol gan gynnwys y pwysau arfaethedig a chynllun diwygiedig er mwyn lliniaru yn erbyn y rhain. 

·         Mae'r awdurdod lleol yn wynebu newidiadau digynsail ym maes ADY yn sgîl cyflwyno Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

·         Creodd Llywodraeth Cymru bum swydd Arweinydd Trawsnewid ADY i weithio gyda'r pedwar rhanbarth a'r sector addysg bellach i gefnogi ac i herio paratoadau'r AL ar gyfer rhoi'r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ar waith ym mis Medi 2021.

·         Mae Abertawe wedi gweithio'n dda ar lefel ranbarthol gyda'r pum awdurdod arall yn Rhanbarth y de-orllewin sy'n cynnwys yr un strwythur ag ERW a'r Arweinydd Trawsnewid. Datblygwyd Strategaeth ADY a Chynllun Rhoi ar Waith ar y cyd â Grŵp Llywio Strategaeth ADY gan gynnwys rhieni/gofalwyr er mwyn goruchwylio'r broses o'i roi ar waith.

·         Ystyriwyd cynnydd dan y saith thema sydd yn y cynllun rhoi ar waith rhanbarthol (gweler y manylion llawn yn yr adroddiad a ddosbarthwyd):

o   Gwnaed cynnydd da dan y Thema Cynyddu Ymwybyddiaeth

o   Cynnydd cymysg o ran Rheoli'r Gweithlu

o   Cynnydd cymysg dan thema Arfer sy'n Canolbwyntio ar y Person a Chynllun Datblygu Unigol (CDU). Clywsom fod angen gwneud rhagor o waith er mwyn ymgorffori'r defnydd o'r ymagwedd sy'n canolbwyntio ar y person yn niwylliant ac ethos ysgolion a darparwyr eraill (darparwyd hyfforddiant ond mae angen iddi gael ei hymgorffori ymhellach yn arferion ysgolion). Clywodd y panel fod pryderon ynghylch gallu'r tîm i reoli'r newid o Ddatganiadau o Anghenion Addysgol Arbennig a CDU a gynhelir gan yr AL (cynnal dwy system nes i'r broses drawsnewid gael ei chwblhau).

o   Gwnaed cynnydd da wrth ddeall yr amrywiaeth o leoliadau a darparwyr blynyddoedd cynnar. Rhoddwyd y broses o integreiddio'r gwasanaethau hyn ar waith fel rhan o'r rhaglen Fraenaru.

o   Mae gan yr AL bryderon sylweddol o hyd ynghylch ymestyn yr ystod oedran o 19 i 25. Heb weithio integredig rhwng y colegau, y gwasanaeth iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid, addysg, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant. Cytunwyd ei fod yn bwysig sicrhau bod cynnig da o gefnogaeth ar gael er mwyn galluogi byw'n annibynnol a chyfleoedd cyflogaeth yn hytrach na pharhau i ddibynnu ar leoliadau addysg hyd at 25 oed. Roeddem ni'n ddeall y bydd hyn yn gofyn i asiantaethau gydweithio. Beth ydyn ni'n ei wneud i ddatblygu'r ymagwedd gweithio integredig hon? Pa mor barod yw'r cyrff eraill gan gynnwys ein Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion mewnol yn benodol er enghraifft?

o   Ystyriwyd bod datrys anghydfod cynnar a phartneriaeth gyda rhieni yn allweddol er mwyn osgoi anghenion, darpariaeth ac, felly, gostau cynyddol. Rhoddwyd y contract ar gyfer datblygu'r broses hon i SNAP. Mae gwefan partneriaeth â rhieni ar gyfer Abertawe yn fyw ac mae'r Gwasanaeth Addysg yn cyfathrebu trwy'r fforwm rhieni a gofalwyr.

o   Mae Abertawe wedi creu dwy swydd Gyswllt Teulu, sydd wedi cael effaith sylweddol ar nifer y tribiwnlysoedd y caiff eu cofnodi a gwaith gyda rhieni wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, mae'r gwaith hwn yn cymryd llawer o amser ac yn codi materion sy'n ymwneud â gallu wrth symud ymlaen.

·         Mae gan yr awdurdod ddealltwriaeth well o effaith y Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 erbyn hyn a hefyd y côd drafft sy'n arwain at oblygiadau statudol tebygol yr AL. Mae staff wedi bod yn nodi'r galw am waith a maint y gwaith dros y pedair blynedd diwethaf fel bod gan Abertawe ddealltwriaeth dda o'i sefyllfa. Esboniwyd hefyd y mae'n bosib y bydd cydnerthedd a pharhad busnes yn lleihau o ganlyniad i'r rhestr o ffactorau a roddwyd. Clywodd y panel fod pryderon ynghylch y gallu gan y gwasanaeth addysg i ddarparu cynllun mor fawr. Felly, rhoddwyd cyflwyniadau i'r Tîm Rheoli Corfforaethol i bwysleisio ymagwedd gydlynol ac i roi hwb i allu'r tîm addysg i ddarparu'r holl brosiectau yn y cynllun.

·         Bydd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a'r Côd yn gosod nifer o ddyletswyddau gorfodol ar awdurdodau lleol a chyrff cyfrifol eraill megis byrddau iechyd a Gweinidogion Llywodraeth Cymru o fis Medi 2021. Amlinellodd yr adroddiad y dyletswyddau hynny a'r costau posib.

·         Clywodd y panel fod Abertawe'n awyddus i fwrw ymlaen gyda datblygu darpariaeth ysgol arbennig newydd. Mae'r panel hefyd yn ystyried adolygu nifer ac amrywiaeth y cyfleusterau addysgu arbenigol yn unol â'r newidiadau yn y galw.

·         Mae'r panel yn cydnabod y bydd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a rhoi'r côd ar waith yn her enfawr, nid yn unig ar gyfer ein tîm addysg ond ar gyfer ysgolion, iechyd, gwasanaethau cymdeithasol i oedolion ac amrywiaeth o bartneriaid eraill. Roeddent yn falch o glywed bod Abertawe wedi gwneud cynnydd da wrth ddechrau wrth gynyddu ymwybyddiaeth ac wedi dechrau gweithio gydag asiantaethau eraill i ddatblygu cynnig lleol integredig sy'n bodloni anghenion dysgwyr rhwng 0 a 25 oed. Mae'r panel yn credu mai'r cyllid angenrheidiol er mwyn galluogi'r prosiectau hyn a gweithio partneriaeth/integredig da fydd y ddau beth a fydd yn ganolog wrth wneud cynnydd llwyddiannus. Er, roeddent yn bryderus bod Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod hi'n disgwyl i'r ymarfer fod yn niwtral o ran cost. Mae'r panel yn cynllunio i ddilyn y cynnydd yn ofalus a bydd yn gofyn am ddiweddariadau rheolaidd, wrth i'r broses o gynllunio a rhoi'r ddeddf hon ar waith fynd rhagddo.

 

5.

Cynllun Gwaith 2019 - 2020 pdf eicon PDF 214 KB

Cofnodion:

Hysbyswyd y Panel am gyfarfod ychwanegol ar 18 Chwefror 2020 i edrych ar Gynigion y Gyllideb Flynyddol gan eu bod yn effeithio ar faterion addysgol.

 

6.

Er gwybodaeth - Adroddiad Archwiliad Blynyddol pdf eicon PDF 198 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd Adroddiad Archwiliad Ysgolion Blynyddol ar gyfer 2018/19.

 

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 225 KB

Ymateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 582 KB