Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim

2.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim

3.

Nodiadau a llythyrau cynullyddion pdf eicon PDF 342 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mewn perthynas â chofnodion 11 Gorffennaf 2019, gofynnodd y Panel i'r Pennaeth Cyrhaeddiad a Phartneriaeth Addysg am yr anawsterau y mae Ysgol Gymunedol Dylan Thomas yn eu cael ynghylch maint y dalgylch. Esboniodd nad oes unrhyw gynllunio i adolygu'r dalgylch ar hyn o bryd ond sylweddolodd y gall broblemau codi i ysgolion uwchradd sy'n cael trafferthion wrth weithio gydag ysgolion cynradd oherwydd problemau dalgylch.

 

Derbyniwyd y llythyrau a'r cofnodion.

 

4.

Addysg ddewisol yn y cartref pdf eicon PDF 102 KB

Cofnodion:

Diolchodd y panel i Judy Marks a Julie Rees o'r Tîm Lles Addysg a Helen Morgan Rees am fod yn bresennol a thrafod y materion â'r panel.

 

Clywodd y Panel mai nod Cyngor Abertawe ynghylch EHE yw darparu arweiniad i rieni sy'n ystyried neu sydd wedi penderfynu ar Addysg Ddewisol yn y Cartref ar gyfer eu plant. Mae Cyngor Abertawe'n parchu ac yn derbyn hawliau rhieni i addysgu eu plant yn y cartref ac rydym yn ceisio meithrin perthnasoedd da gyda'r addysgwyr cartref. Ar hyn o bryd, mae 167 o deuluoedd yr ydym yn ymwybodol ohonynt yn derbyn EHE ond mae'r ffigyrau hyn yn newid yn gyson.

 

Sicrhawyd y Cynghorwyr bod gweithdrefnau EHE Abertawe yn unol ag arweiniad Anstatudol Llywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol. Clywsant fod yr arweiniad yn nodi bod rhaid i riant pob plentyn o oed ysgol gorfodol ddarparu addysg llawn amser effeithlon sy'n addas (a) i'w oedran, ei allu a'i ddawn, a (b) i unrhyw anghenion addysgol arbennig y gall fod ganddynt, naill ai trwy bresenoldeb rheolaidd yn yr ysgol neu fel arall.

 

Mae'r arweiniad hefyd yn dweud bod angen i'r Awdurdod Lleol fod yn fodlon bod pob plentyn yn ei ardal yn derbyn addysg addas (fel a nodwyd yn Adran 437 o Ddeddf Addysg 1996). Mae'n rhaid i rieni ddarparu addysg 'effeithlon' ac 'addas' i'w plentyn. Gall rhieni addysgu eu plant yn y cartref ar yr amod eu bod yn cyflawni gofynion Adran 7 o Ddeddf Addysg 1996. Roedd y panel yn hapus i glywed bod Llywodraeth Cymru yn y broses o ddiweddaru hwn er mwyn ei wneud yn Arweiniad Statudol.

 

Cydnabu'r Cynghorwyr nad yw'r ALl yn gyfrifol am ddarparu EHE neu dan unrhyw ymrwymiad statudol i'w chefnogi. Fodd bynnag, roedd y Cynghorwyr yn falch o glywed fod gan yr ALl ddyletswydd o dan Adran 436A Deddf Addysg 1996, i wneud trefniadau i nodi plant nad ydynt yn derbyn addysg addas. Clywodd y Cynghorwyr er nad oes fframwaith cyfreithiol ar gael i'r ALl fonitro darpariaeth addysg yn y cartref yn rheolaidd, rydym ni yn Abertawe'n ymwybodol o'n dyletswyddau gofal ehangach a byddwn yn cysylltu â rhieni i drafod eu darpariaeth addysg yn y cartref barhaus. Mae'r Cynghorwyr hefyd yn deall fod darpariaeth ar gael i ddilyn camau gweithredu cyfreithiol os nad yw plentyn o oedran ysgol gorfodol yn derbyn addysg addas neu'n bresennol yn yr ysgol yn rheolaidd. Nid yw Abertawe wedi gorfod gwneud hyn ar gyfer EHE eto.

 

Gofynnodd y Cynghorwyr os oedd unrhyw batrwm yn y rhesymau pam y gallai rhieni wneud y penderfyniad i addysgu yn y cartref. Roedd y Panel yn hapus i glywed na nodwyd unrhyw batrwm croes ac mae ein data'n debyg i'r darlun ehangach ledled Cymru.

 

Roedd y Panel yn bryderus i glywed os nad yw plentyn wedi mynychu'r ysgol erioed ac nid yw'n rhan o'r system felly, mae'n bosib na fyddwn ni erioed yn ymwybodol ohonynt, nac unrhyw broblemau diogelu a allai godi o ganlyniad i hyn. Er hynny, nododd y Cynghorwyr y dylai fod plant EHE yn gweld gweithwyr proffesiynol eraill, er enghraifft meddygon ac ymwelwyr iechyd sy'n gallu rhoi gwybod i'r awdurdod am unrhyw bryderon.

 

Trafodwyd gallu plant sy'n derbyn addysg yn y cartref i eistedd arholiadau. Roedd y panel yn bryderus i glywed ni all ysgolion na cholegau lleol ymdopi â phlant EHE yn aml, ac felly mae'n rhaid i rieni drefnu i'w plant eistedd arholiadau mewn lleoliadau gwahanol. Mae hyn yn llawer drytach a gall fod yn rhwystr i blant sy'n ceisio eistedd yr arholiad. Hoffai'r panel weld colegau lleol yn gweithio gydag addysgwyr cartref er mwyn darparu lle i'r plant hynny allu eistedd arholiadau am gost resymol.

 

Clywodd y Panel nad oedd y berthynas â'r gwasanaeth iechyd ynghylch plant sy'n derbyn addysg yn y cartref yn wych. Mae Gwasanaethau Ieuenctid a Gofalwyr yn cysylltu â Lles Addysg ond mae'r gwasanaeth Iechyd yn gwneud hyn pan fydd pryder yn unig. Cytunodd y Cynghorwyr ei fod yn bwysig i'r holl asiantaethau gydweithio'n effeithiol gyda'r gwasanaeth lles addysg ac y byddent yn gofyn i waith pellach gael ei wneud er mwyn ceisio cynnwys y gwasanaeth Iechyd yn fwy.

 

5.

Perfformiad y disgyblion sy'n derbyn Prydau Ysgol Am Ddim pdf eicon PDF 9 KB

Cofnodion:

Gwahoddwyd Helen Morgan Rees i'r panel i roi crynodeb o'r gwaith sy'n cael ei gwblhau i wella deilliannau addysgol plant sy'n derbyn prydau ysgol am ddim. Mae bwlch mewn perfformiad rhwng disgyblion sy'n derbyn prydau ysgol am ddim a'r rheini a nodwyd yn flaenorol fel disgyblion sy'n wynebu heriau addysg yn lleol a ledled Cymru a'r DU ar y cyfan. Nododd Pwyllgor y Rhaglen Graffu fod hyn yn broblem y dylai'r Panel ei hystyried eleni. Nodwyd y problemau canlynol o'r drafodaeth:

 

         Yn y Cyfnod Sylfaen, mae'r darlun cyffredinol o berfformiad yn dangos gostyngiad â gostyngiad sydyn mewn perfformiad disgyblion PYDd. Clywodd y Panel fod hwn yn digwydd o ganlyniad i newid yn y meysydd dysgu dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Maent bellach yn anoddach, a chyflwynwyd cerrig milltir newydd. Mae'r perfformiad yn seiliedig ar asesiadau athrawon ac mae ysgolion yn fwy cywir ac yn fwy sicr yn eu hasesiadau nag erioed. Mae'n bwysig bod hyn yn digwydd ym mhob ysgol ledled Abertawe a hefyd rhanbarth ERW fel bod gennym sail wastad.

         Yng Nghyfnod Allweddol 2, cafwyd llai o newidiadau i ddisgyblion CA2 a chaiff hwn ei gyfleu yn y data. Mae'n dangos bod cynnydd yn cael ei wneud, er bod gostyngiad mewn perfformiad, ond mae hyn o fewn rheswm.

         Yng Nghyfnod Allweddol 3, cafwyd gostyngiad sylweddol ym mherfformiad yr holl ddisgyblion ond caiff hwn ei gyfleu ledled Cymru ac mae o fewn lefelau goddefgarwch. Dylai'r data perfformiad cymharol llawn a chaiff ei gynhyrchu yn hwyrach yn y flwyddyn helpu i nodi rhesymau dros y gostyngiad. Mae'r Panel wedi ychwanegu hyn at ein rhaglen waith fel yn y blynyddoedd blaenorol.

         Yng Nghyfnod Allweddol 4 mae'r bwlch mewn perfformiad rhwng disgyblion PYDd a disgyblion nad ydynt yn ddisgyblion PYDd wedi lleihau ychydig. Ond, mae perfformiad wedi dirywio eleni ac mae hyn o ganlyniad i gyflwyno math newydd o arholiadau sy'n anoddach. Disgwylir i hyn gael ei adlewyrchu ar lefel genedlaethol.

 

Clywodd y Panel fod data yn bwysig ond mae angen i ni edrych ar welliant disgyblion unigol flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan ddangos cynnydd yr unigolion. Cytunodd y Cynghorwyr fod angen i ni sicrhau bod prosesau olrhain disgyblion yn ddiogel. Clywon nhw fod y rhain yn cael eu trafod yn ystod ymweliadau'r ymgynghorydd herio i ysgolion.

 

Clywodd y panel bod rhaid sicrhau bod y dysgu a'r addysgu yn diwallu anghenion yr holl ddisgyblion, gan gynnwys y rhai sydd wedi ymdrin â phroblemau anodd yn eu bywydau er mwyn gwella perfformiad disgyblion PYDd a disgyblion diamddiffyn. Mae dysgu ac addysgu o safon uchel yn hanfodol ac mae'n rhaid trin pob dysgwr fel unigolyn a llunio'r cwricwlwm ar ei gyfer. Mae'r ffordd y mae ysgolion yn gwario eu Grant Datblygu Disgyblion hefyd yn bwysig. Mae'n rhaid targedu mewn modd priodol. Roedd Cynghorwyr yn hapus i glywed bod gwaith yn cael ei wneud gydag Ysgolion ynghylch y ffyrdd mwyaf effeithiol o wario eu GDD.

 

Roedd y Panel yn falch o glywed y bydd y Cwricwlwm Newydd i Gymru yn gwasanaethu'r holl ddisgyblion yn well, gyda mwy o botensial i hyrwyddo dysgu da a chyffrous i bawb. Mae Cynghorwyr yn edrych ymlaen at ddysgu mwy am hyn yn ystod ein cyfarfod ym mis Tachwedd.

 

6.

Cynllun Gwaith 2019 - 2020 pdf eicon PDF 209 KB

Cofnodion:

Adolygwyd y Rhaglen Waith.

 

7.

Er gwybodaeth pdf eicon PDF 20 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd

 

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 288 KB

Llythyr a Aelod y Cabinet