Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Cyhoeddodd y
Cynghorwyr Louise Gibbard, Steven Gallagher a David Helliwell gysylltiad
personol ag Eitem 4 |
|
Nodiadau a llythyrau cynullyddion PDF 146 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Fe'u derbyniwyd |
|
Craffu ar y gyllideb flynyddol: am ei bod yn ymwneud â materion br addysg Roedd y Cynghorydd Jennifer Raynor (Aelod y Cabinet dros
Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes) a Addysg Cabinet Papers (ar gael ar-lein o 7 Chwefror 2019) Cofnodion: Cyfarfu'r panel â'r Cyng. Jennifer Raynor, Mark Sheridan a Brian Roles er
mwyn trafod y Gyllideb Flynyddol fel y mae'n berthnasol i faterion addysg. Amlygwyd y pwyntiau canlynol gan y panel a chânt eu trosglwyddo i'r Panel
Craffu Gwella Gwasanaethau a Chyllid, a fydd yn llunio ymateb ar gyfer cyfarfod
y Cabinet ar 14 Chwefror. · Roedd y panel yn falch o weld bod gan addysg 'flaenoriaeth gymharol' yn y
gyllideb eto eleni. · Roedd gan y panel bryderon ynghylch effaith peidio â thalu cost y cynnydd
mewn pensiynau athrawon (ar hyn o bryd) gan Lywodraeth y DU. Mae'r panel am
sicrhau bod y Cabinet yn gwneud popeth posib i sicrhau nad yw ysgolion dan
anfantais oherwydd y swm sylweddol hwn. · Roedd y panel yn falch o glywed bydd gwasanaeth cerdd ysgolion yn derbyn
cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru eleni ac roedd yn awyddus i bwysleisio
pwysigrwydd disgyblion yn cael mynediad at gerddoriaeth, ac yn dangos diddordeb
ynddi. Roedd y panel yn falch o glywed am y bwriad o wella eglurder a thryloywder cyllid grantiau a ddyrennir gan ERW ond mae'n awyddus i fonitro'r gwelliannau hyn wrth symud ymlaen. |
|
Cynllun Gwaith 2018 - 2019 PDF 96 KB Cofnodion: Fe'i derbyniwyd |
|
Cofnodion: Fe'i nodwyd Daeth y cyfarfod
i ben am 4.15pm |