Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Datganodd y Cyng.
Mo Sykes gysylltiad personol a rhagfarnol ag Eitem 4 a gadawodd yr ystafell am
yr eitem honno. Cadeiriodd y
Cyng. Louise Gibbard Eitem 4. |
|
Craffu cyn penderfynu ar yr Adolygiad o Ysgolion Bach PDF 104 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn dilyn sesiwn holi ac ateb gydag Aelod y Cabinet
a swyddogion ynghylch y cynigion i'r Cabinet, daeth y panel i'r casgliadau
canlynol: Teimla'r panel y cynhaliwyd ymgynghoriad llawn ac
adolygwyd ac ailystyriwyd pob opsiwn yn seiliedig ar hyn. Rhannodd y panel y pryder fod yr ysgol wedi bod i
mewn ac allan o'r categori Ambr am lawer o'r pum mlynedd diwethaf ac na wnaed
gwelliannau sylweddol er mwyn gwella deilliannau yn yr ysgol. Mae'r panel
felly'n cydnabod y bydd Ysgol Gynradd Clydach yn darparu deilliannau a
chyfleoedd addysgol gwell i ddisgyblion yn seiliedig ar ei pherfformiad addysgol
presennol. Mae cynghorwyr hefyd yn deall y cymhlethdodau yn
nalgylch yr ysgol gydag ysgol gynradd ffydd ac ysgol gynradd Gymraeg
gerllaw. Rydym wedi derbyn nad yw
niferoedd y disgyblion yn Ysgol Gynradd Craig-cefn-parc, yn seiliedig ar
ragfynegiadau, yn debygol o gynyddu yn y tymor byr neu ganolig. Roeddem yn gwerthfawrogi'r pryderon a fynegwyd o
ran plant yn defnyddio cludiant ysgol ond rydym yn fodlon y bydd yr un
rhagofalon ar waith â'r hyn a geir mewn ysgolion eraill pan fydd disgyblion ar
eu pennau eu hunain. Mae'r panel hefyd yn deall pwysigrwydd sicrhau bod
Abertawe'n gwneud y defnydd mwyaf effeithlon ac effeithiol o adnoddau er lles
pob disgybl yn ardal yr awdurdod lleol. Mae'r panel felly'n derbyn, er yn gyndyn, y
cynigion i'r Cabinet fel y'u cynhwysir yn yr adroddiad, gan gytuno y dilynwyd
proses briodol, bod yr Asesiad Effaith Cydraddoldeb wedi asesu effaith y
cynigion, y cafwyd lefel uchel o ymgynghori a bod pob opsiwn arall wedi cael ei
archwilio cyn penderfynu cau'r ysgol. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn dilyn sesiwn holi ac ateb gydag Aelod y Cabinet
a swyddogion ynghylch y cynigion i'r Cabinet, daeth y panel i'r casgliadau
canlynol: Cwblhawyd ymgynghoriad llawn ac ymdriniwyd â'r
materion yn llawn. Mae cau Felindre'n rhan o Gynllun Addysg Gymraeg
ehangach a thymor hwy a fydd o fudd i ddisgyblion yn Abertawe yn y tymor hwy. Mae'r holl ysgolion Cymraeg amgen yn cynnig addysg
dda. Mae'r mwyafrif o'r disgyblion yn dod o'r tu hwnt i
ddalgylch Felindre felly ni fydd cau'r ysgol yn cael llawer o effaith ar y
gymuned; mae gan y gymuned neuadd bentref ffyniannus. Mae'r panel felly'n derbyn, er yn gyndyn, y
cynigion i'r Cabinet fel y'u cynhwysir yn yr adroddiad, gan gytuno y dilynwyd
proses briodol, bod yr Asesiad Effaith Cydraddoldeb wedi asesu effaith y
cynigion, y cafwyd lefel uchel o ymgynghori a bod pob opsiwn arall wedi cael ei
archwilio cyn penderfynu cau'r ysgol. |
|