Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim |
|
Nodiadau a llythyrau cynullyddion PDF 159 KB Nodiadau a llythyrau cynullyddion o gyfarfod y panel ar 20/02/2019 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd |
|
4.00pm Sesiwn baratoi gydag ymgynghorydd her Cofnodion: Cyfarfu'r panel
gydag Ymgynghorydd Herio'r ysgol i drafod taith wella'r ysgol i baratoi ar gyfer
ei sesiwn gydag Ysgol Gynradd Burlais. |
|
4.30pm Ysgol Gynradd Bwrlais PDF 151 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyfarfu'r panel â
Phennaeth Ysgol Gynradd Burlais, Alison Bastian, a Chadeirydd y Llywodraethwyr,
Chris Holley, i drafod eu taith wella. Roeddent wedi dewis siarad
â'r ysgol hon gan ei bod yn y categori oren ar y matrics cefnogaeth a
chategoreiddio. Roedd y panel yn falch o glywed ei bod bellach yn rhan o'r
categori melyn. Roedd y cynghorwyr am drafod yr hyn y mae'r ysgol yn ei wneud i
wella'i pherfformiad presennol a'i rhagolygon ar gyfer gwella. Clywodd y panel gan y
Pennaeth am gyd-destun yr ysgol, gan gynnwys y ffaith ei bod yn ysgol newydd
sy'n gyfuniad o ddwy ysgol gynradd. Mae'n ysgol gynradd fawr gyda 553 o
ddisgyblion ar y gofrestr bresennol ac adlewyrchir hyn yn nifer uchel y staff
addysgu a chefnogi. Mae 31.6% o ddisgyblion yn derbyn prydau ysgol am ddim ac
mae 10.7% ohonynt yn dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol (EAL). Yn dilyn y sgwrs gyda'r Pennaeth,
Cadeirydd y Llywodraethwyr a'r Ymgynghorydd Herio, daeth y panel i'r casgliad
bod y gwelliannau a roddwyd ar waith yn yr ysgol yn dwyn ffrwyth a bod yr ysgol
yn perfformio'n llawer gwell nag yn ystod yr arolygiad gwreiddiol Estyn. Mae
tystiolaeth o hyn hefyd wedi cael ei dangos drwy enw'r ysgol yn cael ei dynnu oddi
ar restr gweithgaredd dilynol Estyn ym mis Rhagfyr 2018. Roedd y panel yn teimlo
bod hyn yn bennaf oherwydd y rhesymau canlynol: ·
Mae gan yr ysgol gorff llywodraethu cefnogol, gwybodus a heriol a chanddo'r
sgiliau angenrheidiol i helpu i ysgogi gwelliant. ·
Mae Pennaeth ac Uwch-dîm Rheoli'r ysgol yn hollol ymrwymedig i helpu'r
ysgol i wella. ·
Parodrwydd yr ysgol i weithio gyda'r awdurdod lleol a'r Gwasanaeth Gwella
Addysg a derbyn cefnogaeth ganddynt. ·
Glynwyd wrth y cerrig milltir ar gyfer gwella a roddwyd ar waith yn dilyn
yr arolygiad. ·
Mae'r ysgol yn dysgu trwy weld arfer da gan ysgolion eraill, a thrwy rannu
arfer da ag ysgolion eraill. ·
Mae'r ysgol yn cael cefnogaeth gref gan rieni a'r gymuned
leol, gyda'r ysgol yn cymryd ei rôl yn y gymuned o ddifri. Diolchodd y panel i Bennaeth, Ymgynghorydd Herio a
Chorff Llywodraethu'r ysgol, gan eu llongyfarch am eu gwaith caled a'u
hymroddiad i'r daith wella hon sy'n amlwg yn un llwyddiannus. |
|
Cynllun Gwaith 2018 - 2019. PDF 97 KB Cofnodion: Bydd y cyfarfod
nesaf ar 2 Mai yn gyfarfod ar y cyd gyda Phanel Craffu'r Gwasanaethau Plant ac
Oedolion a bydd yn ystyried deilliannau addysgol Plant sy'n Derbyn Gofal. Daeth y cyfarfod
i ben am 5.45pm |
|