Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim

2.

Sesiwn friffio ar argaeledd ac ansawdd Clybiau Gwaith Cartref yn Abertawe, Cynnydd gyda blaenoriaethau rhanbarthol a lleol Cynllun Busnes ERW, Diweddariad ar wariant y Grant Amddifadedd Disgyblion a chefnogaeth ar gyfer disgyblion diamddiffyn pdf eicon PDF 128 KB

Cofnodion:

Cafodd Helen Morgan Rees, Pennaeth Gwasanaeth Cyflawniad a Phartneriaeth Abertawe, ei gwahodd i ddod i gyfarfod y panel ac i gyflwyno adroddiad yn trafod y materion canlynol:

 

Diweddariad blynyddol ar y Gwasanaeth Gwella Addysg

·         Mae'r Gwasanaeth Gwella Addysg bellach yn rhan o'r Gwasanaeth Cyflawniad a Phartneriaeth er mwyn helpu i ddarparu strategaethau rhanbarthol ar gyfer gwella ysgolion sy'n ystyried blaenoriaethau lleol.

·         Mae gan swyddogion gwella ysgolion flaenoriaethau clir ar gyfer cefnogi a herio ysgolion i wella a cheisio adborth ansoddol gan athrawon ac arweinwyr ysgolion er mwyn diwallu anghenion a gwella'r gwasanaeth.

·         Yn ystod blwyddyn academaidd 2017-2018, bu toriad o ran ymgysylltu â thîm canolog Ein Rhanbarth ar Waith (ERW). Ni chynhaliwyd y broses arfaethedig o adolygu a diwygio gwasanaeth ERW ac o ganlyniad i hyn mae cydweithrediad a chyflwyno gwasanaethau yn dameidiog o'u cymharu â'r blynyddoedd blaenorol. 

·         Mae gallu'r Gwasanaeth Gwella Ysgolion wedi gwella yn ystod diwedd 2017/18.  Mae tair uned o fewn y Gwasanaeth Gwella Addysg: Cyfnod Cynradd, Cyfnod Uwchradd a Chyfnod Cwricwlwm. Mae'r holl unedau'n bwriadu gweithio gydag ERW er mwyn darparu gwasanaeth rhanbarthol ar ran Cyngor Abertawe ac mae gan bob Pennaeth Uned gyfrifoldeb am gydweithio â thîm canolog ERW, lle bo'n bosib. Fodd bynnag, mae cyfathrebu ac eglurder wedi dirywio yn ystod y cyfnod adrodd hwn.

·         Daeth y safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth i rym ym mis Medi 2018.  Mae'r rhain yn uchelgeisiol ac mae cysylltiad agos rhyngddynt a diwygiad y cwricwlwm. Mae rheoli perfformiad o fewn ysgolion yn cyd-fynd â'r safonau arweinyddiaeth newydd. Mae gwaith y Gwasanaeth Gwella Addysg ar hyn o bryd ac yn y dyfodol wedi'i danategu gan y safonau hyn, diwygiad y cwricwlwm a phum prif flaenoriaeth y Gyfarwyddiaeth Addysg ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod

o   Gwella dysgu ac addysgu gan ganolbwyntio'n benodol ar leihau anghydraddoldebau i'r bobl fwyaf diamddiffyn

o   Gwella arweinyddiaeth a llywodraethu ysgolion

o   Gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu system addysg gynaliadwy

o   Gwreiddio’r strategaethau newydd ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, lles ac ymddygiad

o   Sicrhau y cynhelir yr holl gyfleoedd dysgu mewn amgylcheddau diogel

·         Mae cynnydd yn ystod y flwyddyn wedi bod yn gryf gyda graddau RAYG cyffredinol yn seiliedig ar werthusiad tîm. Gwerthuso'r gwaith ar draws yr unedau.

·         Ystyrir perfformiad lleol i fod yn felyn o ran gwerthusiad RAYG er bod y manylion a roddwyd yn drosolwg lefel uchel ac mae amrywiaeth statws o fewn y data manwl.  Byddai gan y panel ddiddordeb mewn gweld a yw hyn yn bosib.

·         Mae'r Gwasanaeth Gwella Ysgolion yn darparu cefnogaeth dda i amrywiaeth o ysgolion lleol

·         Gofynnodd y panel am ddefnydd o'r Gymraeg mewn ysgolion Saesneg.  Dywedwyd bod disgwyliadau uwch i bob disgybl allu cynnal sgwrs yn y Gymraeg bellach, a bod cyfle cyfartal i wneud hynny. Mae'n bwysig bod disgyblion yn cael y cyfle i fwynhau'r iaith.

·         Roedd Cynghorwyr yn hapus i glywed am agwedd iechyd a lles newydd yn y cwricwlwm newydd gan deimlo na fu'n rhan o'r cwricwlwm yn ffurfiol tan nawr.

·         Soniodd y panel am y cyhoeddusrwydd diweddar am Gymhwysedd Digidol yng Nghymru gan glywed bod y sefyllfa'n eithaf cadarnhaol ar draws ysgolion yn Abertawe.  Mae nifer o feysydd i'w gwella gan gynnwys cael cysondeb ar draws yr awdurdod a sicrhau bod gennym y dechnoleg a'r cyfarpar cywir.

·         Gofynnodd Cynghorwyr am hunanwerthuso, gan glywed ei fod yn rhan o gynlluniau gweithredol ac yn cael ei adrodd i'r Uwch-dîm Rheoli'n rheolaidd. Mae cerrig milltir clir wrth gynllunio a chaiff y gwaith ei herio gan swyddogion eraill ac uwch-arweinwyr.

·         Clywodd y panel hefyd am y gefnogaeth ar gyfer llywodraethwyr ac y cafwyd ymateb da.

 

 

 

Cynllun Busnes Ein Rhanbarth ar Waith a blaenoriaethau lleol a rhanbarthol

·         O'r pum blaenoriaeth ranbarthol ar gyfer ERW mae tair yn Ambr gyda dwy yn felyn ar hyn o bryd.

·         Rhennir y swyddogaeth gwella ysgolion rhwng swyddogion lleol a rhanbarthol a gall hyn achosi dyblygu.

·         Clywodd y panel am y rhaglen adolygu a diwygio a sut mae hon wedi creu ansicrwydd a diffyg diddordeb ar lefel leol.

·         Roedd y panel yn hapus i glywed y bydd cynllun i symud ERW ymlaen a datrys problemau yn cael ei drafod yn ystod cyfarfod nesaf Cyd-bwyllgor ERW ym mis Chwefror.

·         Cwestiynodd y panel a yw haen ychwanegol ERW o fiwrocratiaeth yn gwanhau ansawdd yr adnoddau sy'n cyrraedd y rheng flaen. Codwyd y syniad o olwg 360 gradd ar ERW lle gallai rhanddeiliaid roi adborth llawn o bob ongl. Teimlwyd hefyd dylai llais y plentyn gael ei gynnwys mewn unrhyw adolygiad o weithgareddau sy'n ymwneud ag addysg.

 

Gwariant y Grant Datblygu Disgyblion a darpariaeth clybiau gwaith cartref

·         Mae gwariant y Grant Datblygu Disgyblion yn cael ei fonitro gan ymgynghorwyr herio. Cafodd y prif feysydd gwariant ar gyfer blwyddyn ariannol 2016/2017 eu hamlinellu i'r panel.

·         Clywodd y panel fod y defnydd o'r Grant Datblygu Disgyblion yn fwyaf effeithlon lle mae'r ysgolion yn dilyn Arweiniad Llywodraeth Cymru i Ymarferwyr ac yn ymchwilio i gael tystiolaeth i gefnogi darpariaeth ar gyfer disgyblion sy'n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim.

·         Gofynnodd y panel a ydym yn monitro pan na fydd canlyniadau'n llwyddiannus. Dywedwyd bod posibilrwydd nad yw pob ysgol yn dilyn yr arweiniad neu'n defnyddio'r pecyn cymorth.  Mae'r Gwasanaeth Gwella Addysg wedi bod yn gweithio gydag ysgolion ynghylch hyn ac yn eu cyfeirio i gyngor ar y ffordd orau i wario'r grant.

·         Mae gwariant y grant ar draws yr awdurdod hefyd yn cael ei fonitro a'i ddadansoddi er mwyn canfod y pethau mwyaf effeithiol etc. Mae'n rhaid i ni nodi ein cryfderau ac adeiladu arnynt. Nodwyd bod gweithio gyda rhieni'n arbennig o fuddiol.  Mae nifer o ysgolion wedi gwario ar olrhain gan ddefnyddio MyConcern, sy'n becyn cymorth cyffredin sy'n helpu i nodi unrhyw faterion sy'n achosi pryder yn gynnar.

·         Teimlodd y panel fod y Grant Datblygu Disgyblion yn hollbwysig i rai ysgolion a byddai pryderon petai'n cael ei derfynu ar unrhyw adeg yn y dyfodol agos.

·         Caiff clybiau gwaith cartref eu hystyried gan y Tîm Tlodi a'i Atal, adroddodd Helen sylwadau'r tîm:

o   Mae ansawdd clybiau gwaith cartref yn cael ei fonitro a'i archwilio trwy AGGCC (hynny yw, y rhai a gynhelir am fwy na dwy awr y diwrnod).

o   Os ydynt yn cael eu cynnal am lai na dwy awr, nid ydynt yn cael eu monitro'n ffurfiol.

o   Adroddwyd o sesiynau Llais y Plentyn eu bod cael eu gwerthfawrogi gan ddisgyblion, sy'n gwerthfawrogi rhywle diogel a thawel er mwyn astudio sydd hefyd â mynediad at yr offer TGCh y gallai fod eu hangen arnynt.

 

3.

Cynllun Gwaith 2018 - 2019. pdf eicon PDF 95 KB

Cofnodion:

Cytunodd y panel i ychwanegu Adolygiad Gwasanaethau Ieuenctid Swyddfa Archwilio Cymru i'r rhaglen waith.

 

4.

Er gwybodaeth pdf eicon PDF 59 KB

Cofnodion:

Tynnwyd yr eitem yn ôl.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 152 KB

Llythyr i'r ymgynghorydd