Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim

2.

Nodiadau a llythyrau cynullyddion pdf eicon PDF 152 KB

Nodiadau a llythyrau cynullyddion o gyfarfod y panel ar 17/10/18.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd nodiadau a llythyrau'r Cynullydd.

 

3.

Y Diweddaraf am Gynnydd Addysg Heblaw yn yr Ysgol pdf eicon PDF 134 KB

Cofnodion:

Yn bresennol i drafod yr eitem hon oedd y Cyng. Jennifer Raynor, Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, Mark Sheridan, Pennaeth yr Uned Cefnogi Dysgwyr ac Amanda Taylor, Pennaeth yr Uned Atgyfeirio Disgyblion.

Darparwyd adroddiad er mwyn rhoi'r diweddaraf i'r panel am y gwaith a wnaed i ailwampio darpariaeth y Gwasanaeth Addysg Mewn Lleoliad Heblaw'r Ysgol (EOTAS) a chyflwyno gwasanaeth wedi'i ailfodelu mewn adeilad newydd a ddyluniwyd at y diben. 

 

Mae'r pwyntiau allweddol a nodwyd yn cynnwys:

 

·         Un ffactor allweddol o ran llwyddiant ailwampio'r ddarpariaeth bresennol yw'r gefnogaeth a roddir i ysgolion i'w galluogi i nodi anghenion plant ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiad (ACEY) yn gynharach, a mwy o allu a chefnogaeth i reoli anghenion yn yr ysgol.

·         Yn strategol ac yn weithredol, cafwyd cydweithio gwell rhwng y Tîm Cefnogi Ymddygiad (TCY), y Tîm Tŷ Hanner Ffordd dros dro a'r tîm Tiwtora Gartref.  Maent bellach yn cael eu rheoli gan yr un rheolwr llinell.

·         Roedd y panel yn falch o glywed bod y Tŷ Hanner Ffordd wedi cyflwyno'r nifer uchaf o ddisgyblion yn dychwelyd i ddarpariaeth brif ffrwd ers sawl blwyddyn.  Y llynedd, cefnogwyd 19 ohonynt i ddychwelyd i'w hysgol brif ffrwd. Mae hyn wedi arwain at gyflawni'r gostyngiad cynlluniedig yn nifer y plant sy'n derbyn darpariaeth gynradd, a fydd yn unol â lleoedd cynradd cynlluniedig yn yr adeilad newydd. Yn seiliedig ar hyn, mae'r gweithdrefnau derbyn yn cael eu hadolygu i gynnwys derbyniadau rhan-amser i rai disgyblion, lle y bo'n briodol, a bydd hyn yn helpu i leihau'r amser y mae angen ei dreulio yn yr UAD.

·         Erbyn hyn mae prosesau a systemau clir ar waith i sicrhau y caiff cefnogaeth ei throsglwyddo'n llyfn o'r Tŷ Hanner Ffordd a'r TCY i ddisgyblion ac ysgolion, ac i'r gwrthwyneb.  Mae hyn yn galluogi disgyblion i barhau i gael eu cefnogi wrth symud o UAD yn ôl i ddarpariaeth brif ffrwd a, lle y bo'n briodol, atal disgyblion rhag cael eu hatgyfeirio i'r UAD.

·         Adolygwyd a diwygiwyd yr hyfforddiant sydd ar gael i ysgolion ac mae hyn bellach yn ffurfio cynnig mwy cydlynol i ysgolion yn ogystal ag adrannau addysg eraill.

·         Mae Gwasanaeth Cwnsela'r Gyfnewidfa wedi cytuno i roi cefnogaeth a hyfforddiant i ysgolion er mwyn eu helpu i ddatblygu dealltwriaeth o fodel sy'n seiliedig ar wydnwch, a chaiff hwn ei gyflwyno i bob ysgol gynradd ac unrhyw ysgolion uwchradd a dargedir.

·         Datganolwyd £700,000 i ysgolion uwchradd i'w cefnogi i ddatblygu darpariaeth fewnol er mwyn eu galluogi i ddiwallu anghenion disgyblion ACEY yng Nghyfnod Allweddol 4. Mae pob ysgol yn cyflwyno adroddiad monitro sy'n esbonio sut maent yn defnyddio'r arian hwn, ac ymwelwyd â rhai ysgolion i weld sut mae hyn wedi datblygu.  Er y cafwyd effaith fechan ar y niferoedd a atgyfeiriwyd i UAD o ganlyniad i hyn, mae yna dystiolaeth i awgrymu bod y rheiny sydd bellach yn cael eu hatgyfeirio'n bodloni'r meini prawf ar gyfer yr UAD, neu'n rhagori ar hyn.

·         Adolygwyd a diwygiwyd yr arweinyddiaeth yn llawn yn yr UAD. Yn y gorffennol, cafwyd effaith negyddol o ran dibynnu ar secondio swyddi arweinyddiaeth am gyfnodau byr. Ni ddefnyddir secondiadau cyfnod byr bellach ar ôl penodi Pennaeth a Phennaeth ar Ddyletswydd, a phenodwyd Pennaeth Dros Dro yng nghanolfan Step Ahead, Pennaeth yng nghanolfan Arfryn a Phennaeth ar gyfer CA4. Mae hyn hefyd wedi arwain at ailddyrannu staff ar draws y gwasanaeth er mwyn gallu darparu tîm arweinyddiaeth mwy cadarn, cynaliadwy a phrofiadol. Roedd y panel yn falch o glywed bod y sefyllfa wedi cael ei datrys, ac edrychai ymlaen at ymagwedd fwy cyson wrth symud ymlaen.

·         Mae pob canolfan bellach yn cydweithio gan ddilyn polisïau a rennir, a gwnaed cynnydd sylweddol o ran datblygu arferion a rennir. Cynhelir hyfforddiant ar y cyd ar draws canolfannau, ac mae staff wedi gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu gweledigaeth ar y cyd a chynllun gwella a rennir.

·         Cyflwynwyd Bagloriaeth Cymru ym mis Medi 2017 sydd wedi arwain at 70% o ddisgyblion CA4 yn ennill Tystysgrif Her Sgiliau BC. Adroddwyd gan CBAC bod UAD Abertawe'n drydydd UAD orau Cymru dros dro o ran canlyniadau a'r nifer sy'n ennill tystysgrif.

·         Mae cefnogaeth lles yn cael ei chydlynu yn unol â'r Fframwaith Lles sydd ar waith ar draws gwasanaethau eraill, gan gynnwys y Gwasanaethau Cymdeithasol a Thlodi a'i Atal.

·         Mae'r gwasanaeth wedi adolygu ei ymagwedd at hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol a rheoli ymddygiad negyddol er mwyn sicrhau bod yr ymagweddau a ddefnyddir ar draws y gwasanaeth yn gyson.

·         Er mwyn datblygu dysgu mwy effeithiol mewn ysgolion sy'n unol â Donaldson a'r diwygiad newydd i'r cwricwlwm, rydym wedi sefydlu rhwydwaith rhanbarthol lle gellir datblygu sgiliau, profiad a'r cwricwlwm.

·         Mae gwaith i gefnogi cynllunio'r adeilad newydd arfaethedig wedi mynd rhagddo'n dda, a chymeradwywyd yr achos busnes llawn gan y Cabinet ar 28 Medi 2018. Cafwyd cymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru a disgwylir i waith adeiladu'r prosiect ddechrau ym mis Tachwedd 2018, gyda'r bwriad o'i gwblhau a'i agor i ddisgyblion erbyn mis Ionawr/Chwefror 2020.  Bydd yn cynnig 21 o leoedd cynlluniedig i ddisgyblion cynradd, 28 o leoedd i ddisgyblion CA3, 60 o leoedd i ddisgyblion CA4 ag ACEY a 35 o leoedd cynlluniedig i ddisgyblion sy'n dioddef o bryder ac anawsterau iechyd meddwl. Bydd yn cynnig 14 o leoedd cynlluniedig yn y Tŷ Hanner Ffordd, ond disgwylir i'r rhain fod yn lleoedd rhan-amser.

·         Bydd yr adeilad cynlluniedig yn caniatáu ar gyfer datblygu cwricwlwm ehangach i bob disgybl, gyda darpariaeth ddynodedig ar gyfer addysg gorfforol, dylunio a thechnoleg, gwyddoniaeth, technoleg bwyd a chelf. 

·         Bydd yn gartref i'r gwasanaeth 'cynhwysol' a fydd yn darparu cefnogaeth aml-fedrus dros y ffôn, dros skype ac wyneb yn wyneb i ysgolion er mwyn eu cefnogi i nodi anghenion disgyblion yn gynnar, a'u cefnogi i adeiladu ar allu'r ysgol i reoli'r anghenion hynny.

·         Clywodd y panel fod Tŷ Brondeg wedi cael ei gau'n orfodol ar 19 Hydref a bod dim lleoliad ar gyfer y ddarpariaeth i 56 o ddisgyblion CA4 ar hyn o bryd. Mae'r panel wedi ystyried pob adeilad gwag sy'n eiddo i'r cyngor ond nid yw un ohonynt yn addas oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch neu reoliadau cynllunio. Ni chytunwyd ar yr opsiynau tymor hir ar gyfer yr adeilad eto, fodd bynnag y bwriad yw cynnal gwaith er mwyn ei wneud yn ddiogel dros dro, ac er mwyn gallu ei ddefnyddio tan i'r gwaith ar yr adeilad newydd gael ei gwblhau.

·         Achoswyd cyn lleied o darfu â phosib i addysg y disgyblion hyn lle bo'n bosib. I ddisgyblion sy'n cael eu haddysgu mewn lleoliadau darparwyr allanol, rhentwyd ystafelloedd at ddibenion addysgu, ac i'r disgyblion hynny nad ydynt yn mynd at ddarparwyr allanol, rydym ar hyn o bryd yn chwilio am leoliadau i gyflwyno eu haddysg. Yn y cyfamser, maent yn cael eu tiwtora gartref. Adolygir hyn yn gyson.

·         Ystyriwyd y niferoedd rhagamcanol ar gyfer y dyfodol a bydd gennym ddigon o leoedd i ddiwallu'r anghenion hynny yn y dyfodol. Mae'n debygol y bydd y cynnydd mwyaf yng nghanolfan Step Ahead.

·         Roedd y panel yn falch o weld prynu i mewn strategol ar draws yr awdurdod lleol, a'r ymagwedd tîm yn yr UAD, gan gynnwys hyfforddiant a rhannu gwybodaeth.

·         Mae'r panel yn cefnogi'r gwaith sy'n cynnwys rhieni yn ogystal â phlant, ac yn teimlo ei fod yn bwysig i weithio gyda phlant a'u teuluoedd.

·         Mae'r nifer sydd wedi cymryd rhan yn y pecyn hyfforddiant ACEY wedi bod yn dda iawn, ac mae angen cynnal mwy o hyfforddiant er mwyn gallu ateb y galw.

·         Roedd y panel yn falch o glywed nad oes unrhyw arwahanu yn ysgolion Abertawe na'r UAD, ac nid oes unrhyw uned arwahanu ar gael yn Abertawe, gan ddilyn gwrthwynebiad Polisi Abertawe o ran unedau o'r fath.

·         Diolchodd y panel i'r Cyng. Raynor, y Pennaeth a Phennaeth y Gwasanaeth Cefnogi Dysgwyr am yr adroddiad diweddaru cynhwysfawr a chadarnhaol hwn.

 

 

4.

Diweddariad ar Strategaeth Lles ac Ymddygiad pdf eicon PDF 288 KB

Cofnodion:

Yn bresennol i drafod yr eitem hon oedd y Cyng. Jennifer Raynor, Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, Mark Sheridan, Pennaeth yr Uned Cefnogi Dysgwyr ac Amanda Taylor, Pennaeth yr Uned Atgyfeirio Disgyblion.

Darparwyd adroddiad a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r panel am ddatblygiad Strategaeth Lles a Pholisi Ymddygiad.

 

Roedd y pwyntiau allweddol a nodwyd yn cynnwys:

 

·         Mae is-grŵp ymddygiad a lles y Grŵp Llywio Continwwm Cefnogi Teuluoedd wedi drafftio Strategaeth Lles Integredig ar gyfer PPI (Plant a Phobl Ifanc) sy'n cynnwys disgrifiad a diffiniad o les, datganiad gweledigaeth ac egwyddorion, yn ogystal â meysydd blaenoriaeth y cytunwyd arnynt. Cytunodd y panel yr hoffai weld copi o'r strategaeth pan fydd ar gael.

·         Datganiad gweledigaeth y strategaeth yw, 'Bydd Abertawe'n hyrwyddo, yn cefnogi ac yn meithrin lles pob plentyn a pherson ifanc.  Mae hefyd yn hyrwyddo'r disgrifiad lles canlynol, 'Mae ein lles yn cynnwys sawl ffactor gwahanol ar unrhyw adeg, yn ogystal â newidiadau yn ystod ein bywydau.  Caiff ei effeithio gan ein profiadau a'n cefndir, sut rydym yn meddwl ac yn teimlo, ein gallu i gyfathrebu a datrys problemau yn ogystal â'n hiechyd corfforol a meddwl, perthnasoedd ac ymdeimlad o berthyn yn ein cymunedau'

·         Er mwyn rhoi'r gefnogaeth orau i'r PPI rydym yn gweithio gyda nhw, clywodd y panel ei fod yn bwysig asesu'r heriau o ran yr adnodau sydd ar gael i gefnogi, hyrwyddo a meithrin eu lles.

·         Cyflwynodd y strategaeth y Fframwaith Arwyddion Lles a oedd yn dilyn ymagwedd Tîm am y Teulu eang a fabwysiadwyd eisoes gan Dlodi a'i Atal a'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

·         Mae'r strategaeth yn nodi tair thema allweddol: Cynyddu ymwybyddiaeth, mapio darpariaeth/dadansoddi bylchau a gweithredu.

·         Mae angen gwneud mwy o waith i ddatblygu cynllun gweithredu sy'n seiliedig ar y themâu hyn a'r blaenoriaethau cysylltiedig.

·         Yn ystod y drafodaeth i ddatblygu strategaeth lles, clywodd y panel y byddai'n ormod o waith i gynnwys polisi addysg hefyd. Cytunwyd felly i wahanu'r ddwy dasg a drafftio polisi ymddygiad ar wahân.

·         Mae'r polisi ymddygiad drafft yn nodi ymagwedd Abertawe at hyrwyddo a chefnogi ymddygiad cadarnhaol mewn ysgolion ac mewn lleoliadau addysg eraill. Mae'n amlinellu'r ethos a'r egwyddorion sy'n hyrwyddo parch at ei gilydd a diogelwch er mwyn i ddysgwyr gyflawni eu potensial llawn.

·         Disgwylir cwblhau'r gwaith ar y ddwy ddogfen hon erbyn mis Rhagfyr 2018. Hoffai Cynghorwyr weld y dogfennau hyn pan fyddant ar gael.

 

5.

Cynllun Gwaith 2018 - 2019. pdf eicon PDF 94 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd y rhaglen waith a nododd yr aelodau y cynhelir cyfarfod ychwanegol ar 17 Rhagfyr i ystyried yr Adolygiad o Ysgolion Bach a'r Drefniadaeth Ysgolion sy'n gysylltiedig â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg.

 

6.

Adroddiad Blynyddol Archwiliad o Ysgolion (er gwybodaeth) pdf eicon PDF 171 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad gan y panel.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet