Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gyfarfod y Siambr - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim

2.

Nodiadau a llythyrau cynullyddion pdf eicon PDF 154 KB

Nodiadau a llythyrau cynullyddion o gyfarfod y panel ar 12 Gorffennaf and 18 Gorffennaf 2018

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ymateb y Cabinet i lythyr sy'n codi o ymweliad ag Ysgol Gynradd Tregŵyr ar 12 Gorffennaf. Roedd y panel yn falch o glywed y bydd athro ychwanegol yn cael ei gyflogi fel Arweinydd Strategol y Cyfnod Sylfaen yn ystod absenoldeb deiliad y swydd.

 

3.

Cenhadaeth ein Cenedl a'r diweddaraf am y safonau proffesiynol newydd i athrawon ac arweinwyr pdf eicon PDF 99 KB

Cofnodion:

Bu Janet Waldron, Ymgynghorydd Herio, yn bresennol yng nghyfarfod y panel i drafod Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl gan gynnwys y safonau proffesiynol ar gyfer athrawon ac arweinwyr ysgol. Rhoddwyd copi o'r ddogfen genhadaeth i'r panel ynghyd â thaflen 'Rhagoriaeth mewn Addysg a Hyfforddiant' gan Estyn.

 

Roedd y cyflwyniad a'r drafodaeth yn cynnwys:

 

·         Mae'r Genhadaeth Genedlaethol yn canolbwyntio ar godi safonau, lleihau'r bwlch cyflawniad a darparu system addysg sy'n ffynhonnell o falchder a hyder cenedlaethol.

·         Mae'n esbonio bod pob un ohonom yn gyfrifol am sicrhau bod pob person ifanc yng Nghymru'n cael cyfle cyfartal i gyrraedd y safonau uchaf posib.

·         Mae'n ddyletswydd arnom i roi'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i genedlaethau'r dyfodol fel y gallant chwarae rôl weithredol a llawn yn eu cymunedau ac yn y gymdeithas ehangach.

·         Bod ffyniant, cydlyniant a lles ein cenedl yn rhan o system addysg lwyddiannus

·         Mae'r diwygiadau trawsnewidiol hyn yn cael eu cyflawni o fewn amgylchedd heriol. Mae hyn yn cynnwys parhau â chaledi ar draws y DU, ansicrwydd Brexit, trawsnewidiad technolegol bywydau economaidd a gwaith, a'r  gwahaniaethau cynyddol rhwng systemau cymwysterau.

·         Mae gan Gymru uchelgais y bydd pob ysgol yn datblygu fel sefydliad dysgu.

·         Mae rhai o gamau gweithredu allweddol y cynllun yn cynnwys:

·         Ehangu'r Grant Datblygu Disgyblion

·         Hyrwyddo gweithio rhwng ysgolion

·         Sefydlu Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol

·         Ymrwymiad i asesu ffurfiannol, gan gefnogi cynnydd wedi'i bersonoli

·         Cyflwyno cwricwlwm trawsnewidiol newydd

·         Sefydlu ymagwedd genedlaethol at ddysgu proffesiynol a gwella gallu fel y gall pob athro elwa o ddatblygiad drwy gydol gyrfa yn seiliedig ar ymchwil a chydweithio effeithiol

·         Cyflwyno Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth newydd

·         Datblygu fframwaith tâl ac amodau athrawon 'yng Nghymru' newydd

·         I fod yn llwyddiannus wrth gyflwyno'r cwricwlwm trawsnewidiol a'r trefniad asesu newydd, bydd angen diwygiadau sydd wedi'u cydlynu'n dda. Caiff y diwygiadau hyn eu datblygu wrth gydweithio â gweithwyr addysg proffesiynol, ac maent yn elwa o ddysgu am arfer gorau ar draws y byd. Bydd angen ffocws clir ar yr amcanion galluogi allweddol canlynol:

1.    Datblygu proffesiwn addysg o safon

2.    Arweinwyr ysbrydolus sy'n cydweithio i godi safonau

3.    Ysgolion cryf a chynhwysol sy'n ymroddedig i ragoriaeth, ecwiti a lles

4.    Trefniadau hunanasesu, gwerthuso ac atebolrwydd cadarn sy'n cefnogi system hunan-wella

·         Caiff y genhadaeth genedlaethol ei rhoi ar waith yn unol â phum egwyddor gwaith Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015: tymor hir, cydweithio, ataliaeth, integreiddio a chyfranogaeth.

·         Bydd y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yn canolbwyntio ar elfennau hanfodol addysgu o'r fath, a byddant hefyd yn datblygu safonau ar gyfer staff cefnogi er mwyn eu galluogi i wella'u sgiliau ac i ymrwymo i ddysgu proffesiynol.

·         Yr athrawon ddylai fod y myfyrwyr mwyaf ymroddedig yn yr ystafell ddosbarth. Cânt eu cefnogi i fod yn ddysgwyr proffesiynol gydol oes er mwyn helpu i godi safonau i'n holl bobl ifanc.

·         Roedd y panel yn falch o weld ffocws ar y person cyfan yn y genhadaeth, yn academaidd ac yn alwedigaethol. Cytunodd y panel fod gweld y person cyfan, gan gynnwys iechyd meddwl ac effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, yn bwysig.

·         Cytunodd y panel ni all ysgolion wneud hyn heb gymorth a bod angen cynnwys rhieni yn y daith wella.

Cytunodd y panel hefyd fod angen gwell cydbwysedd rhwng y galwedigaethol a'r academaidd, a bod angen i gyrff arholi gydnabod bod hyn yn rhan o'r broses wella.

4.

Cynllun Gwaith 2018 - 2019. pdf eicon PDF 92 KB

Cofnodion:

Cytunodd y panel i symud Canlyniadau Addysgol Plant sy'n Derbyn Gofal i'r cyfarfod ym mis Ionawr.

 

5.

Eitem Er Gwybodaeth pdf eicon PDF 62 KB

Cyhoeddwyd Arolygiad Estyn diweddar ar gyfer ysgolion unigol

 

Cofnodion:

Derbyniodd y panel bedwar canlyniad arolygiad Estyn a nodwyd bod pob un ohonynt yn gadarnhaol.

                             

 

Daeth y cyfarfod i ben am 5.10pm