Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michelle Roberts (Scrutiny)
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Cysylltiad
personol: Y cynghorwyr Susan Jones, David Helliwell, Steven Gallagher a Louise
Gibbard |
|
Nodiadau a Llythyrau Cynullyddion PDF 131 KB Nodiadau a llythyrau cynullyddion o gyfarfod y panel ar 07/06/2018 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniwyd y
llythyrau a'r nodiadau gan y panel |
|
Atodir adroddiad
penderfyniad arfaethedig y Cabinet ar gyfer 19 Gorffennaf 2018 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Diolchodd y panel i'r Cynghorydd Raynor, Nick Williams, Mark Sheridan a Pam
Cole am fod yn bresennol ac ateb eu cwestiynau ar strwythur a chyflwyno'r
Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig (EMAU) yn y dyfodol. Mae'r panel yn cefnogi'r penderfyniad arfaethedig ac yn cytuno y dylai
dewis 2 gael ei ffafrio ar gyfer dyfodol y gwasanaeth. Y gred yw y bydd y model
hwn, gan ystyried yr amodau ariannol cyfredol, yn darparu'r cydbwysedd gorau
drwy gadw tîm canolog bach ac yna ddatganoli gweddill yr arian i ysgolion. O
ystyried hyn, hoffai'r panel bwysleisio'r pwyntiau canlynol: ·
Bydd yn rhaid i'r awdurdod
lleol a'r ysgolion unigol fonitro effaith hyn ar gyflawniad disgyblion yn agos. ·
Bydd yn rhaid i'r awdurdod
lleol a'r ysgolion ddatblygu perthnasoedd gweithio ehangach â chymunedau lleol,
grwpiau cymunedol a'r brifysgol, er enghraifft, yn y dyfodol er mwyn darparu
cefnogaeth a llenwi rhai o'r bylchau iaith sydd wedi'u nodi. ·
Mae angen cwblhau
archwiliad o'r sefydliadau hynny sydd ar hyn o bryd yn darparu cefnogaeth
a/neu'n derbyn grant ar gyfer cefnogi lleiafrifoedd ethnig. Gellir defnyddio hwn wedyn i feithrin a
datblygu gwydnwch a chefnogaeth well ar gyfer y disgyblion y mae eu hangen
arnynt. ·
Mae angen cydnabod bod cefnogaeth
yn cynnwys mwy nag anghenion ieithyddol yn unig. ·
Mae pryderon gan y
pwyllgor ynglŷn â'r diffyg dealltwriaeth canfyddedig
mae cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru wedi'i ddangos. ·
Mae pryderon ynglŷn
â'r effaith negyddol bosib ar brofiadau'n plant a'n pobl ifanc a'u hawliau fel
y'u amlinellir yn y Mesur Plant a CCUHP. Gyda'n dealltwriaeth well o effaith
tymor hir profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, mae'n rhaid mesur/monitro'r
effaith (gadarnhaol neu negyddol) y tu hwnt i baramedrau cul yr hyn rydym yn ei
fesur fel "cyrhaeddiad" ar hyn o bryd. ·
Rydym yn falch
o glywed bod ymagwedd debyg a fabwysiadwyd yng Nghaerdydd wrth roi gwasanaeth
ar ffurf Dewis B ar waith wedi bod yn llwyddiannus. Adroddir am farn y panel yng nghyfarfod y Cabinet ar 19 Gorffennaf 2018 gyda llythyr at Aelod y Cabinet i'w ddilyn |
|
Cynllun Gwaith 2018 - 2019. PDF 77 KB Cofnodion: Derbyniwyd y rhaglen
waith gan y panel Daeth y cyfarfod
i ben am 2.50pm |
|