Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Y Cyng. Susan Jones, cyswllt personol ag eitem 5/6

 

2.

Ethol Cynullydd Panel

Cofnodion:

Cytunwyd y byddai'r Cyng. Mo Sykes yn parhau fel cynullydd ac y byddai'r Cyng. Lyndon Jones yn gweithredu fel is-gynullydd ar gyfer y panel.

 

3.

Nodiadau a Llythyrau Cynullyddion pdf eicon PDF 302 KB

Nodiadau a llythyrau cynullyddion o gyfarfod y panel ar 15 Mawrth 2018

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd llythyr y cynullydd, ymateb y Cabinet a'r nodiadau gan y panel.

 

4.

Materion presennol ym maes addysg - cyflwyniad trosolwg

Nick Williams, Prif Swyddog Addysg

Cofnodion:

Cyfarfu'r panel â Helen Morgan Rees, Pennaeth y Gwasanaeth Cyflawniad a Phartneriaethau, i drafod y materion cyfredol sy'n effeithio ar addysg.

 

Trafodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Y weledigaeth Bydd pob plentyn a pherson ifanc yn gallu datblygu ei botensial

·         Y cysylltiadau â'r cynllun corfforaethol a’r blaenoriaethau allweddol

·         Blaenoriaethau'r Adran Addysg ar gyfer 2017/2018

·         Y materion hynny sydd ar y blaengynllun gan gyfeirio'n benodol at y materion allweddol canlynol:

   Safonau newydd ar gyfer athrawon ac arweinwyr a ddaw i rym ym mis Medi 2018 a'r goblygiadau ar gyfer ysgolion

   Diwygio Anghenion Dysgu Amgen a goblygiadau'r ddeddfwriaeth newydd

   Cwricwlwm newydd drafft

   Datblygu strategaeth lles ac ymddygiad

   Datblygiadau Addysg Mewn Lleoliad Heblaw'r Ysgol (EOTAS)

·         Bu'r panel hefyd yn trafod:

   Addysgu gartref a chofrestru plant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref

   Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif

   Y gwasanaeth Saesneg fel iaith ychwanegol (SIY). Clywodd y panel y bydd gostyngiad yn y grant gan Lywodraeth Cymru'n cael effaith fawr ar y gwasanaeth hwn. Ar hyn o bryd, mae'r Adran Addysg yn ymgynghori ar y goblygiadau a'r ffordd ymlaen. Gofynnodd y panel am fwy o wybodaeth am linell amser y penderfyniad hwn a hoffai ei gynnwys yn ei rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, fel eitem craffu cyn penderfynu o bosib?

   Hyfforddiant athrawon/datblygu proffesiynol ar gyfer athrawon presennol

   Rhaglen sefydlu penaethiaid a datblygu uwch-arweinwyr a darpar arweinwyr

   Diwygio Llywodraeth Leol a goblygiadau ar gyfer sut rydym yn gwneud pethau

   Deddf Diogelu Data ac ysgolion

   Clybiau ar ôl ysgol a chlybiau gwaith cartref. Hoffai'r panel drefnu i gynnwys hyn yn ei raglen waith.

·         Y targedau ariannol a chynilion ar gyfer addysg dros y 3 blynedd nesaf.

·         Abertawe 2025, yr hyn rydym am ei weld ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc, y disgwyliadau, y nodau, yr amcanion, yr hawliau a'r blaenoriaethau.

·         Yr hyn mae ei angen ar blant a phobl ifanc i gael y canlyniadau gorau:

   Y cwricwlwm cywir

   Y gefnogaeth gywir i ddysgwyr

   Yr arweinwyr cywir

   Y gweithlu cywir

   Yr amgylchedd cywir

 

5.

Adolygiad o'r flwyddyn ddiwethaf a chynllun ar gyfer y 12 mis i ddod ym maes craffu ar addysg pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y panel y cwestiynau canlynol am eu craffu dros y flwyddyn ddiwethaf

1.    Beth aeth yn dda?

2.    Beth nad oedd wedi gweithio cystal?

3.    A yw rhaglen waith y panel wedi canolbwyntio ar y pethau cywir?

4.    Beth rydym wedi'i ddysgu a fydd yn ein helpu gyda chraffu ar addysg yn y dyfodol?

 

O hyn, meddai aelodau'r panel:

·         Da cael siarad ag ysgolion gwahanol

·         Hoffem fynd allan i ysgolion yn fwy eleni

·         Da gweld ysgolion coch/ambr ond byddai hefyd yn ddefnyddiol siarad ag ysgolion gwyrdd a sut maent yn cynnal y lefel honno

·         Hoffem gynnwys ERW, sut rydym yn ymestyn y disgyblion mwyaf abl, clybiau ar ôl ysgol a'r Gymraeg yn y rhaglen waith

 

Yna bu'r panel yn trafod ei raglen waith ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, gan gytuno i gynnwys y materion canlynol:

 

·         Cwestiynau gan y cyhoedd ar ddetholiad o baneli

·         Gwyddoniaeth mewn ysgolion yn Abertawe

·         Sesiynau gydag ysgolion i gynnwys

   Ymweliad safle ag ysgol gynradd werdd sy'n gwneud yn dda yn y Cyfnod Sylfaen

   2 ysgol ambr

   Ymweld ag Ysgol Gynradd Treforys i weld gwelliant yn cael ei ymgorffori yn dilyn sesiwn gyda hi ar 17 Chwefror

·         Cynnydd gyda gwelliannau i addysg mewn lleoliad heblaw'r ysgol

·         Strategaeth lles ac ymddygiad newydd

·         Canlyniadau addysg ar gyfer plant sy’n derbyn gofal

·         Gwario'r Grant Amddifadedd Disgyblion i gefnogi disgyblion diamddiffyn

·         Cynllun busnes ERW a chynnydd gyda blaenoriaethau rhanbarthol a lleol

·         Y diweddaraf am berfformiad blynyddol y Gwasanaeth Gwella Ysgolion

·         Data Perfformiad Addysg Blynyddol (gan gynnwys data wedi'i ddilysu) a'r categoreiddio ysgolion diweddaraf

·         Argymhellion yr ymchwiliad craffu pa mor barod yw plant i ddechrau'r ysgol sydd heb eu rhoi ar waith - y diweddaraf

·         Craffu ar y gyllideb flynyddol gan ei bod yn ymwneud ag addysg

·         Safonau newydd ar gyfer athrawon ac arweinwyr ysgolion - goblygiadau a chynnydd

·         Cwricwlwm newydd drafft (panel wedi cytuno i gael sesiwn ddatblygu ar y mater)

·         Goblygiadau a pharatoi ar gyfer Diwygio ADY

·         Craffu cyn penderfynu ar ganlyniadau adolygiad y Comisiwn ADY

·         Newidiadau i'r gwasanaeth SIY (craffu cyn penderfynu posib)

·         Argaeledd clybiau ar ôl ysgol/gwaith cartref

 

Bydd y swyddog craffu'n llunio rhaglen waith gyda'r materion hyn ar gyfer cyfarfod nesaf y panel ar 7 Mehefin.

6.

Eitem Er Gwybodaeth pdf eicon PDF 61 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y panel wybodaeth am Arolygiadau Ysgolion Estyn a gyhoeddwyd ers ei gyfarfod diwethaf ym mis Mawrth.