Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim

2.

Craffu ar y gyllideb flynyddol: am ei bod yn ymwneud â materion addysg pdf eicon PDF 105 KB

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Jennifer Raynor (Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes), Nick Williams (Prif Swyddog Addysg) a Brian Roles (Pennaeth Cynllunio ac Adnoddau) yn bresennol yn y cyfarfod er mwyn cyflwyno cynigion y gyllideb gan eu bod yn berthnasol i faterion addysg.

 

Roedd y materion a drafodwyd yn cynnwys (gyda chyfeiriad penodol at faterion addysg):

·         Cynllunio ariannol tymor canolig 2019-20 i 2021-22

·         Cyllideb Refeniw 2018/19

·         Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2018/2019 - 2021/22

·         Llythyr gan y Fforwm Cyllideb Ysgolion

 

3.

Crynhoi barnau a gwneud argymhellion

Cofnodion:

·         Mae'r panel yn cefnogi'r cynigion mewn perthynas ag addysg a sut y dyrannwyd arian, gan ystyried y sefyllfa gyllidebol bresennol.

·         Codwyd y mater o dderbyn cyllideb flwyddyn ar ôl flwyddyn gan Lywodraeth Cymru, yn enwedig wrth ystyried yr angen i gynllunio gwasanaethau dros y tymor hwy (fel y cyfeiriwyd ato yn Neddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol). Mae'r panel yn cydnabod bod yr awdurdod yn datblygu cynllun tymor canolig 3 blynedd dangosol ond bydd hwn yn newid o flwyddyn i flwyddyn gan ddibynnu ar ddyraniad yr awdurdod lleol gan Lywodraeth Cymru. Byddai'r panel yn annog cynghorau i weithio gyda'i gilydd i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru o ran datblygu cynllun cyllideb tymor hwy. Roedd y panel hefyd yn awyddus i weld newidiadau'n cael eu gweithredu a fyddai'n lleihau oedi rhwng dyrannu grantiau gan Lywodraeth Cymru a derbyn yr arian hwnnw.

·         Roedd gan y panel bryderon am yr effaith y bydd y gostyngiad gwerth 11% yn y grant gwella addysg yn ei chael ar wasanaethau cefnogi, yn enwedig y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig, ond roedd yn falch o glywed bod yr awdurdod yn bwriadu llenwi'r bwlch ar gyfer rhai gwasanaethau gan ddefnyddio arian wrth gefn am flwyddyn.

·         Clywodd y panel fod rhai ysgolion yn rheoli'r sefyllfa gyllidebol anodd yn well nag eraill: teimlodd y panel y byddai rhannu arfer da ar draws ysgolion mewn perthynas â'r agwedd hon yn fuddiol iawn.