Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Scrutiny - 01792 637256
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniwyd nodiadau a llythyrau gan y panel |
|
Cofnodion: Daeth Rob Davies,
yr Ymgynghorydd Herio ar gyfer Ysgol Gyfun Gatholig yr Esgob Vaughan, i'r
cyfarfod a thrafododd gynnydd yn yr ysgol ag aelodau'r panel. Nodwyd y prif
bwyntiau canlynol: ·
Yn 2016, nodwyd nifer o faterion yn yr ysgol a oedd wedi
peri pryder ac yr oedd angen mynd i'r afael â hwy, yn enwedig: yr angen am
arweinyddiaeth sefydlog a chref, cyfarpar dadansoddi data academaidd a diffyg
ariannol mawr. ·
Derbyniodd yr ysgol becyn cefnogaeth 'ambr' y llynedd ac
mae bellach yn y categori 'melyn'. Mae'r Pennaeth a'r Uwch-dîm Arweinyddiaeth
wedi croesawu'r gefnogaeth a roddir. ·
Penodwyd Pennaeth gweithredol ac Uwch-dîm Arweinyddiaeth
newydd ym mis Medi 2016 ac ers hynny mae nifer o fesurau wedi'u rhoi ar waith i
greu gwelliannau yn yr ysgol. Mae hyn wedi creu arweinyddiaeth gryfach a mwy
sefydlog yn yr ysgol, cynnydd mewn perfformiad academaidd a lleihau'r diffyg ariannol. ·
Ym
mis Ionawr, cynhaliwyd arolygiad gan Estyn yn yr ysgol sydd wedi rhoi
tystiolaeth o ddarlun mwy cadarnhaol, yn unol â sut roedd yr Ymgynghorydd Herio
wedi asesu cynnydd yr ysgol. Dywedwyd na chyhoeddir canlyniad yr arolygiad tan
4 Ebrill. |
|
Sesiwn gydag Ysgol Gyfun Gatholig yr Esgob Vaughan PDF 107 KB Gydag Emma Pole, Pennaeth
a Chadeirydd y Llywodraethwyr Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Daeth Pennaeth a
Dirprwy Bennaeth Ysgol Gyfun Gatholig yr Esgob Vaughan i gyfarfod y panel i
drafod cynnydd yr ysgol a'r rhagolygon am welliant â'r panel. Nodwyd y prif
bwyntiau canlynol: ·
Y gefnogaeth yr
oedd yr ysgol wedi'i derbyn gan yr awdurdod lleol, ERW ac ysgolion eraill. ·
Y gefnogaeth ar
gyfer hyfforddi arweinwyr ysgolion newydd a darpar arweinwyr ysgolion, a'r
angen i gynnwys rheoli cyllid ac adnoddau dynol yn y pecyn dysgu. ·
Y gwaith i wella
perfformiad disgyblion a chanlyniadau yn yr ysgol, y gwelliannau a wnaed a'r
meysydd y mae angen gwelliant arnynt o hyd. ·
Y modd dyfeisgar y
defnyddir y Grant Amddifadedd Disgyblion i wella perfformiad disgyblion PYDd. ·
Y gwaith parhaus i
reoli a lleihau'r diffyg ariannol a goblygiadau unrhyw ostyngiadau grant. Clywsom y bydd hyn yn effeithio'n anghymesur
ar yr ysgol oherwydd y gostyngiadau o ran niferoedd disgyblion, y newidiadau
sydd ar ddod i'r gefnogaeth a geir gan y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd
Ethnig a'r gostyngiadau i'r gyllideb ôl-16. ·
Presenoldeb a gwaharddiadau ·
Cyflwr rhai o
adeiladau'r ysgol a'r angen i wneud gwaith cynnal a chadw sylweddol neu
ddisodli rhai agweddau. O'r drafodaeth hon â'r
Pennaeth, y Dirprwy Bennaeth a'r Ymgynghorydd Herio, daethom i'r casgliad bod
darlun llawer gwell yn yr ysgol o'i gymharu â'r sefyllfa yn 2016. Roeddem yn
teimlo bod hyn yn bennaf oherwydd y rhesymau canlynol: ·
Mae gan yr ysgol bennaeth newydd a hyderus bellach ac mae'r uwch-dîm
arweinyddiaeth yn dangos eu bod yn greadigol ac yn arloesol wrth gyflwyno
gwelliannau yn yr ysgol. ·
Mae arweinwyr ar bob lefel yn yr ysgol, a staff yr ysgol, yn cydweithio ac
yn ymateb yn dda i'r ymgyrch i wella canlyniadau disgyblion. ·
Mae'r ysgol wedi croesawu cefnogaeth a her gan yr awdurdod lleol, yr Ymgynghorydd
Herio, ac asesu cefnogaeth ysgol i ysgol. ·
Mae'r ysgol yn gweithio gyda'r Ymgynghorydd Herio i ddatblygu proses
hunanwerthuso. ·
Ceir sefyllfa ariannol well o lawer yn yr ysgol a chynllun clir i gael
gwared ar y diffyg. ·
Mae gan yr ysgol gynlluniau ystyriol i gefnogi disgyblion o gefndiroedd
diamddiffyn. Drwy ddefnyddio'i Grant
Amddifadedd Disgyblion, mae'r ysgol yn canolbwyntio ar wella canlyniadau
disgyblion mewn llythrennedd a rhifedd a thorri'r cyswllt rhwng anfantais a
chyrhaeddiad addysgol. Mae hyn wedi cael
effaith gadarnhaol ar berfformiad disgyblion ar gyfer disgyblion PYDd. Nodwyd gan Estyn bod hyn yn arfer da ac yn
haeddu cael ei rannu ag ysgolion eraill. Fodd bynnag, cydnabu'r panel fod rhai meysydd penodol y mae
angen eu gwella ac mae'r ysgol yn mynd i'r afael â'r rhain drwy barhau i geisio
cefnogaeth 'ysgol i ysgol' a chymorth gan yr Ymgynghorydd Herio ac arbenigwyr
pynciau yn ei phrosesau hunanwerthuso, mathemateg a gwyddoniaeth a deilliannau
yn y 6ed Dosbarth. Roedd y panel yn teimlo y dylid penodi Pennaeth
parhaol yn fuan i sicrhau sefydlogrwydd wrth symud ymlaen. Llongyfarchwyd y Pennaeth, staff yr ysgol, yr
Ymgynghorydd Herio a'r corff llywodraethu yn yr ysgol gan y cynghorwyr am y
gwelliannau a wnaed yn yr ysgol ers 2016 ac maent yn edrych ymlaen at weld hyn
yn parhau o sylfaen gref bellach. Yn gyffredinol, roedd y cynghorwyr yn falch o
weld y tîm arweinyddiaeth newydd a chryf yn symud yr ysgol yn ei blaen ac yn
enwedig byddent yn dathlu'r modd y mae'r ysgol yn defnyddio dulliau meddwl
blaengar i ddatrys yr heriau y mae'n eu hwynebu. Bydd y panel yn gofyn i Aelod y Cabinet ymateb i'r
pwyntiau canlynol.
|
|
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. PDF 67 KB Cofnodion: Mae dau gyfarfod nesaf y panel wedi'u trefnu
fel a ganlyn: 17 Mai 2018 – trosolwg o faterion allweddol
sy'n wynebu addysg a chynllunio gwaith y flwyddyn ddinesig sydd i ddod 7 Mehefin
2018 – Gwyddoniaeth mewn ysgolion yn Abertawe |
|
Cofnodion: Nodwyd yr
wybodaeth hon gan y panel. Daeth y cyfarfod
i ben am 6.00pm |
|