Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny - 01792 637256 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Cllrs Mike Day and Louise Gibbard.

2.

Cofnodion 18/10/17 a 16/11/17 pdf eicon PDF 47 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y panel lythyr a nodiadau'r cynullydd.

 

3.

Plant sy'n Derbyn Gofal - Canlyniadau Addysgol pdf eicon PDF 15 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y panel y Dirprwy Gydlynydd Plant sy'n Derbyn Gofal i'r cyfarfod, gan ddiolch iddo am yr atebion manwl i'r cwestiynau a anfonwyd iddo cyn y cyfarfod.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys:

 

·         Perfformiad addysgol Plant sy'n Derbyn Gofal, gan gynnwys:

   Cymariaethau â phlant eraill mewn ysgolion lleol a phlant PDG mewn ALl eraill.

   Disgyblion yn cyflawni dangosyddion pwnc craidd gwahanol ar gyfnodau allweddol gwahanol.

   Pontio'r bwlch yn neilliannau addysg PDG.

   Plant a leolir y tu allan i'r sir

·         Cynlluniau i wella cyrhaeddiad addysgol PDG

·         Sut caiff disgyblion unigol eu cefnogi i gyflawni yn yr ysgol a'r tu allan iddi.

·         Sut caiff plant eu cefnogi i barhau i addysg uwch a phellach

·         Cynlluniau Datblygu Personol a sut cânt eu harchwilio

·         Barn pobl ifanc am eu haddysg a'u dyheadau a'r gwasanaethau maent yn eu derbyn

·         Cymryd rhan mewn gweithgareddau ar ôl ysgol a rhwystrau i gyfranogiad

·         PDG a gwahardd o'r ysgol a phlant sy'n derbyn addysg mewn lleoliad heblaw'r ysgol

·         Gweithio gydag eraill i wella deilliannau

 

Yna trafododd y panel y materion canlynol:

·         Darpari hyfforddiant i ysgolion ar ymwybyddiaeth o ymlyniad yn cael ei ddatblygu yn dilyn cydnabyddiaeth o effaith materion ymlyniad ar ddysgu a'r ymennydd datblygol.  Roedd y panel yn falch o weld y rôl sy'n deillio o'r hyfforddiant hwn a fydd yn cynyddu dealltwriaeth staff ym mhob ysgol yn Abertawe o'r materion a wynebir, a helpu i ddatblygu strategaethau i gefnogi dysgwyr PDG i wella cyrhaeddiad ymhellach.

·         Clywodd y panel fod yr Uned Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ceisio cyflwyno hyfforddiant Cynorthwy-ydd Cefnogi Llythrennedd Emosiynol i ysgolion, wedi'i ariannu gan grant PDG/GAD.  Maent yn cydnabod y bydd hyn yn ehangu ymhellach y gefnogaeth unigol sydd ar gael i ddysgwyr mewn ysgolion ledled Abertawe.

·         Clywodd Cynghorwyr am waith cyfranogiad PDG i gynyddu proffil llais y dysgwr yn Abertawe sy'n cael ei gynnwys fel astudiaeth achos arfer da yn Adroddiad Estyn 'Gwella cyrhaeddiad, cyflawniad a dyhead plant sy'n derbyn gofal'.

·         Sefydlwyd cysylltiadau da â Choleg Gŵyr Abertawe ac addysg bellach.  Cefnogir disgyblion PDG drwy'r trawsnewid i addysg uwch.

·         Datblygiad gwefan ysgol rithiol, a fydd yr un gyntaf yng Nghymru. Bydd yn helpu i ddarparu gwybodaeth ac yn cysylltu'n agosach ag eraill, gan gynnwys er mwyn rhannu gwybodaeth.

·         Nid oes unrhyw blant sy'n derbyn gofal wedi cael eu gwahardd yn barhaol am nifer o flynyddoedd.  Cedwir y rhan fwyaf o'r disgyblion mwyaf diamddiffyn yn yr ysgol heb gefnogaeth.  Gwaith i leihau'r risg o wahardd.

 

 

 

 

 

 

 

4.

Cefnogaeth i Ddisgyblion Diamddiffyn a Gwariant y Grant Amddifadedd Disgyblion ar draws Ysgolion pdf eicon PDF 12 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r panel yn edrych ar sut gwariwyd y Grant Amddifadedd Disgyblion (GAD) ar draws Abertawe i gefnogi cyflawniad disgyblion diamddiffyn. Darparwyd adroddiad a daeth y Prif Swyddog Addysg i'r cyfarfod i ateb cwestiynau.

 

Nodwyd y canlynol:

 

·         Mae'r Grant Amddifadedd Disgyblion (GAD) ar gyfer disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim (cPYD) ac fe'i dyrennir i ysgolion gan yr awdurdod lleol bob blwyddyn ariannol.  Y swm yw £1050 fesul disgybl cPYD ac mae'n seiliedig ar y cyfrifiad blynyddol o ddisgyblion.

·         Darparwyd adroddiad i'r panel a oedd yn manylu'r holl wariant GAD ar gyfer 2016/17 a manylion y gwariant fesul ysgol.  Gofynnir i bob ysgol gyhoeddi ei gwariant GAD ar-lein. 

·         Mae ysgolion wedi defnyddio'r GAD mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gyfeirio at ymchwil ddiweddar i helpu i gyfeirio'r penderfyniadau.  Dyma rai o'r patrymau gwario cyffredin yn Abertawe:

   Ymyriad ar gyfer llafaredd

   Grwpiau targed ar gyfer ymyriad ac oriau ychwanegol

   Ymyriadau llythrennedd a sgiliau sylfaenol

   Dal i fyny ar lythrennedd

   Cyfrifiaduron a dyfeisiau digidol

   Cynlluniau unigol

   Mynediad a chyfle cyfartal i bawb h.y. tripiau, ymweliadau a phrofiadau

   Adborth a mentora

·         Cynhwyswyd dadansoddiad o ddyraniadau yn yr adroddiad

·         Amlinellwyd bod yn rhaid i ysgolion ddangos bod y grant yn cyrraedd y disgyblion iawn.  Dylai effaith ymyriadau i fesur gael ei gwerthuso gan ysgolion, yn enwedig lle caiff staff eu cyflogi drwy arian grant.  Mae'r panel yn cydnabod nad yw'r holl arian grant yn cael effaith ar hyn o bryd, a bod galw cynyddol i ddangos bod y GAD yn gwneud gwahaniaeth.

·         Clywodd y panel fod swyddog ariannol yn gweithio gydag ymgynghorydd herio dynodedig i sicrhau bod gwariant y GAD yn briodol a bod ymgynghorwyr herio'n cael eu monitro'n flynyddol.

·         Pwysleisiodd aelodau bwysigrwydd ysgolion yn defnyddio'r sylfaen dystiolaeth wrth gynllunio gwariant y dyfodol, ac mae gallu dysgu o'r hyn sy'n cael effaith wirioneddol yn bwysig.  Cyfeiriwyd y panel at ddogfennaeth ddefnyddiol, yn enwedig tlodi ERW

·         Tynnwyd sylw at y ffaith nad yw'r UCD yn cydymffurfio ar hyn o bryd o ran ei defnydd o'r GAD.  Clywodd y panel mai'r rheswm dros hyn yw'r ffaith mai yn ddiweddar iawn y maent wedi derbyn y GAD i'r disgyblion hynny sy'n mynychu'r UCD.Tan yn ddiweddar, yr ysgol wreiddiol yr oedd y disgybl yn ei mynychu oedd yn ei dderbyn.  Bydd yr UCD bellach yn gallu cynllunio a defnyddio'r arian yn uniongyrchol ar gyfer ei disgyblion cPYD.

 

5.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. pdf eicon PDF 63 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynllun gwaith.

 

6.

Eitem Er Gwybodaeth pdf eicon PDF 254 KB

Nododd y panel yr wybodaeth gefndir am ysgolion.

a)    Grwp Cynghorwyr Craffu ERW 29 Medi 2017

b)    Adroddiad Blynyddol Archwiliadau Ysgolion 2016/2017

c)    Gwybodaeth ddefnyddiol arall (caiff gwybodaeth gefndir ddefnyddiol berthnasol i'w darllen ei chynnwys ar agendâu neu ei e-bostio i'r panel)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd yr eitemau er gwybodaeth gan y panel fel a ganlyn:

·         Llythyr oddi wrth Grŵp Cynghorwyr ERW at Gyd-bwyllgor ERW (29 Medi 2017)

·         Archwiliad ysgolion blynyddol

·         Arweiniad ar leihau llwyth gwaith athrawon a phenaethiaid