Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Scrutiny - 01792 637256
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim |
|
Nodiadau a llythyr y Cynullydd o gyfarfod y panel 21 09 17 PDF 40 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cytunwyd ar y
nodiadau a chafwyd dau eglurhad am nodiadau a llythyr y cynullydd o 21 Medi, yn
bennaf; ·
Cawsom
ein hannog i glywed am y memorandwm o ddealltwriaeth y cytunwyd arno gydag ysgolion,
sy'n manylu ar y gefnogaeth a ddarperir er mwyn galluogi plant i ddychwelyd i'r
ysgol. Eglurhad: Nid oes
memorandwm o ddealltwriaeth fel y cyfryw mewn lle ond mae memorandwm o
ddealltwriaeth ynghylch symudiadau wedi'u rheoli yn Abertawe. ·
Roedd
y panel yn falch o glywed am y pecyn cymorth hunanwerthuso ymddygiad i ysgolion
sydd wedi'i lunio a byddai hwn yn ffurfio rhan o ymweliad yr Ymgynghorwyr
Herio. Eglurhad: Mae'r
pecyn cymorth hunanwerthuso yn y broses o gael ei ddatblygu ond nid yw wedi'i
gwblhau ar hyn o bryd. Gobeithir y bydd wedi'i gwblhau erbyn diwedd tymor yr
Hydref 2017. |
|
Y Diweddaraf ar Berfformiad y Gwasanaeth Gwella Ysgolion PDF 140 KB Gyda Helen Morgan
Rees, Pennaeth Hwb Gwella Ysgolion Cofnodion: Roedd Pennaeth
Gwasanaeth Gwella Addysg yr Hwb (EIS) Castell-nedd ac Abertawe, Helen
Morgan-Rees yn bresennol yn y cyfarfod a chyflwynodd ddiweddariad ar
berfformiad, blaenoriaethau a chynhwysiad y Gwasanaeth Gwella Ysgolion yn
Abertawe. Codwyd a thrafodwyd
y materion canlynol gan y panel: ·
Consortia
yng Nghymru sy'n cyflwyno gwasanaethau gwella ysgolion ar hyn o bryd, ac mae
Abertawe'n rhan o Gonsortia ERW, sy'n gynghrair o chwe awdurdod lleol gan
gynnwys Castell-nedd Port Talbot, Powys, Sir Gâr, Sir Benfro, Ceredigon ac
Abertawe. Mae gan ERW gynllun busnes ac mae hyn yn cyd-fynd â blaenoriaethau
lleol. ·
Mae'r
Cynllun Busnes yn cynnwys camau gweithredu ar gyfer gwella ysgolion, trefniadau
llywodraethu a chamau gweithredu gwelliannau corfforaethol. Mae'r holl
flaenoriaethau'n gysylltiedig â deilliannau mesuradwy ysgolion. ·
Mae
deg amcan ar draws tri chynllun gweithredu Consortia ar gyfer 2016/17. Nodir llwyddiant mewn perthynas â gwella
canlyniadau (effaith) ac adborth ansoddol (rheoli ansawdd). O'r deg amcan,
canolbwyntiodd y panel ar y canlynol yn benodol: ―
Gwella
canlyniadau yn y Cyfnod Sylfaen, lle cafwyd gwelliant bach yn nangosydd y Cyfnod Sylfaen. Mae angen gwneud
rhagor o waith er mwyn lleihau'r bwlch mewn perfformiad ar gyfer disgyblion
sy'n derbyn prydau ysgol am ddim. ―
Gwella
canlyniadau mathemateg, rhifedd, Saesneg a llythrennedd: gwelwyd gwelliannau ar draws pob cyfnod
heblaw am gyfnod allweddol 4. Mae
newidiadau yn y cymwysterau cenedlaethol wedi cael effaith ar ganlyniadau yn
gyffredinol ar gyfer cyfnod allweddol 4, a dangosir patrwm tebyg ar draws
Cymru. Mae gwaith pellach yn cynnwys cefnogi Saesneg a Mathemateg ar lefel
uwchradd. ―
Gwella
darpariaeth ar gyfer cymhwysedd digidol: adeiladu ar ofyniad y Fframwaith Cymhwysedd
Digidol newydd. Mae gwaith pellach yn cynnwys sicrhau bod staffio digonol ar
gael. Roedd y panel am bwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod gan ysgolion staff
wedi'u hyfforddi a'r cyfleusterau sydd eu hangen fel bod plant yn gymwys yn
ddigidol. Yn enwedig o ystyried y Fargen
Ddinesig ar hyn y bydd yn ei gynnig.
Teimlodd y panel ei bod hi'n bwysig ein bod ni ar flaen y gad, drwy
ddefnyddio pobl sydd â'r gallu, fel busnesau lleol a'r brifysgol er mwyn symud
yr agenda hon yn ei blaen yn gyflym ac yn effeithiol. Bydd y panel yn gofyn i
Aelod y Cabinet am fwy o wybodaeth am sut y mae ysgolion a'r awdurdod lleol yn
cael eu cynnwys ac eraill megis y sector preifat a'r brifysgol, er mwyn arwain
yr agwedd benodol hon yn ei blaen cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau bod
disgyblion y dyfodol yn barod ar gyfer y cyfleoedd y gall y Fargen Ddinesig eu
cynnig. ―
Monitro
a gwerthuso ysgolion yn effeithiol: rhoddwyd gwybod i'r panel y gall fod yn anodd cael sgwrs onest â rhai
ysgolion. Bydd angen mwy o waith er mwyn sefydlogi staff a sicrhau cysondeb ac
archwilio syniadau newydd. ―
Adeiladu
ar allu arwain mewn ysgolion: mae amrywiaeth da o ddarpariaeth ar gyfer datblygu staff mewn ysgolion ar
hyn o bryd. Mae angen sicrhau bod y ddarpariaeth yn unol ag Academi
Genedlaethol nwydd ar Arweinyddiaeth. ·
Mae'r
EIS wedi gwella a datblygu drwy gynnwys partneriaid rhanbarthol yn llawn er
mwyn darparu prosbectws dysgu proffesiynol clir a dewis o gefnogaeth i
ysgolion. Mae ehangder cefnogaeth arwain mewn ysgolion wedi gwella. Mae
cyfleoedd strategol er mwyn i ysgolion weithio gydag eraill wedi cynyddu. ·
Cynnydd
mewn dysgu ac addysgu. Mae'r EIS yn cefnogi gwelliant mewn Cymraeg, Saesneg,
Mathemateg, anghenion dysgu ychwanegol a chymhwysedd digidol. Mae hefyd
gefnogaeth wedi'i chydlynu'n dda ar gyfer athrawon newydd. Gall cefnogaeth
ychwanegol gael ei threfnu drwy dîm canolog ERW. Cefnogaeth dda ar gyfer
arweinwyr ysgolion er mwyn gwella prif feysydd dysgu. Mae'r defnydd o HWB yn
gwella cydweithio rhwng ysgolion. O ganlyniad, mae gan athrawon fynediad gwell
i adnoddau gwerthfawr, rhwydweithiau a deunyddiau hyfforddi. ·
Mae
cysondeb mewn asesiad athrawon wedi cael ei hwyluso gan bresenoldeb ac
arweiniad gan swyddogion mewn digwyddiadau cymedroli clystyrau. Anogir ysgolion
i ddatblygu proffiliau dysgwyr electronig a chafwyd parhad wrth gymedroli'r
Cyfnod Sylfaen. Mae mwy o gysondeb a chywirdeb yn gyffredinol mewn asesiad
athrawon. Mae mwy o bwyslais ar gynnydd disgyblion unigol erbyn hyn, ac mae'n
debygol y bydd mesurau perfformiad y dyfodol yn rhoi mwy o bwyslais ar blant yn
hytrach na data. ·
Nodir
rhwystrau i welliant pellach fel: ―
Ansicrwydd
a diffyg eglurder o ran rôl ERW wrth gyflwyno gwasanaethau gwella ysgolion.
Gall hyn achosi tensiynau a chamsyniadau di-fudd ar gyfer gweithwyr a
defnyddwyr gwasanaethau. ―
Gall
lefelau staffio ansefydlog rwystro dilyniant a pharhad y gwasanaeth a ddarperir
i ysgolion. ―
Mae
cyhoeddi canlyniadau Categoreiddio Cenedlaethol yn gweithio'n erbyn y
cyfrifoldeb a'r berthynas sydd eu hangen ar gyfer ysgolion a'r ymgynghorwyr
herio er mwyn iddynt weithio mewn ffordd gydweithredol. ―
Nid
yw cyflymder newid mewn ysgolion yn darparu amser a lle ar gyfer hunan welliant
bob tro. Mae effaith ar les penaethiaid yn parhau i fod yn achos o bryder. ―
Gall
gorddefnyddio data fod yn rhwystr i ysgol a'r ymgynghorwyr herio am nad ydynt
yn gwybod yr hyn y gall disgyblion ei wneud neu beidio. ―
Canfyddir
bod ymweliadau craidd y cytunir arnynt yn rhanbarthol yn creu mater llwyth
gwaith i benaethiaid ac mae hyn yn groes i leihau llwyth gwaith. ―
Mae'r
weithred syml o fonitro ysgol yn dod yn llai dilys o ganlyniad i systemau
electronig nad ydynt yn gallu cystadlu ag amser go iawn. ―
Cefnogaeth
o ysgol i ysgol a chydweithio. Hynod effeithiol i gefnogi ysgolion ond gall
gael ei effeithio gan ffactorau allanol megis Profiadau Andwyol yn ystod
Plentyndod (ACEs). ·
Mae
nifer y Swyddogion Gwella Ysgolion, gan gynnwys ymgynghorwyr herio, yng
Nghyngor Abertawe ar hyn o bryd ar lefel optimwm o 12 gweithiwr amser llawn a
ariennir yn ganolog. Fodd bynnag nid yw pob math o gefnogaeth yn cael ei
chyflwyno gan ymgynghorwyr herio ac yn cael ei threfnu ar gyfer arbenigwyr
perfformiad. ·
Datblygiad
proffesiynol - mae'r panel yn gofyn am y dysgu proffesiynol sydd ar gael i athrawon
a pha mor gyson y mae hyn yn digwydd. Mae llawer o weithgareddau rhyng-ysgolion
ymghylch dysgu proffesiynol ac mae ffyrdd mwy cost effeithiol o ddatblygu staff
na'u hanfon ar gyrsiau megis monitro, herio gwersi etc. Mae proses rheoli
perfformiad ar waith ar draws ysgolion lle mae anghenion hyfforddi'n cael eu
monitro a'u nodi. ·
Cefnogaeth
a her i'r uned atgyfeirio disgyblion ac mae'r ddwy ysgol arbennig yn Abertawe'n
datblygu'n dda gydag ymgynghorydd herio dynodedig ac arbenigwr perfformiad. ·
Dyma'r
pedwar prif amcan ar gyfer y flwyddyn nesaf: ―
Gwella
ansawdd arweinyddiaeth a'i effaith ar ganlyniadau ―
Gwella
ansawdd dysgu a phrofiadau dysgu ―
Lleihau
effaith tlodi ar gyrhaeddiad ―
Cyflwyno
gwasanaeth o safon a chefnogaeth, her ac ymyriad penodol i ysgolion ·
Mae
cydberthynas rhwng gallu llawn ymgynghorwyr herio a chofrestr risgiau gwella
ysgolion ERW ar gyfer Abertawe. Os bydd nifer yr ymgynghorwyr herio'n is na'r
lefel optimwm, mae risg gynyddol y bydd ysgolion yn disgyn i gategorïau dilynol
Estyn oherwydd monitro a gwerthuso ysgolion gwannach. |
|
Addysg o Safon (AoS) a Rhaglen Ysgolion y 21ain Ganrif PDF 104 KB Gyda Brian Roles (Pennaeth Cynllunio Addysg a'r Gwasanaeth Adnoddau) Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd Pennaeth
Cynllunio ac Adnoddau Addysg, Brian Roles, yn bresennol yn y cyfarfod er mwyn
trafod cynnydd Addysg o Safon a Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Trafodwyd y
materion canlynol: ·
Mae
Band A yn datblygu'n dda ac wedi cwblhau prosiectau yn ysgolion cynradd Newton,
Glyncollen, Burlais, Tregŵyr a Phentre'r Graig ac YGG Lôn-Las, gyda gwaith
yn cael ei wneud yn Ysgol Gyfun Gŵyr a Phentrehafod. Yr hyn sy'n weddill
yw cyflwyno adeilad newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Gorseinon oherwydd cais maes
pentref. Cyfanswm buddsoddiad rhaglen Band A yw £51,310,000 gyda 50% yn cael ei
ariannu gan Lywodraeth Cymru. ·
Y
grant ar gyfer prosiectau cyfalaf Band B yw 50% o hyd. Gradd y grant ar gyfer y
Model Buddsoddi Cydfuddiannol yw 75%. Mae ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol
yn derbyn 85% gan Lywodraeth Cymru ac mae angen 15% arnynt gan gorff
gwirfoddol. ·
Nodir
y cynlluniau buddsoddi blaenoriaeth drwy'r meini prawf canlynol: safonau, risg,
cyflwr, problemau addasrwydd penodol, tirwedd, angen sylfaenol (lle mae diffyg
clir mewn lleoedd), digonolrwydd (lleoedd dros ben), dichonoldeb, cynaladwyedd
a chyflwyno. ·
Nodir
y prif opsiynau blaenoriaeth drwy gynnwys rhanddeiliaid yn helaeth. ·
Mae
cadernid rhaglen Abertawe wedi'i graffu gan Lywodraeth Cymru dro ar ôl tro ac
mae'n amodol ar ei chymeradwyaeth yn y pen draw. ·
Mae'r
cais arfaethedig i Lywodraeth Cymru yn adlewyrchu datblygiad naturiol y
strategaeth tymor hir a gymeradwywyd eisoes ond mae hefyd yn adlewyrchu ystyriaeth
ychwanegol newidiadau mewn galwadau a blaenoriaethau. ·
Mae'r
prif feysydd cyflwyno ar gyfer Band B yn cynnwys: ―
Gwariant
trosiannol o Fand A ar Ysgol Gynradd Gorseinon ―
Cyfleuster
Addysg Mewn Lleoliad Heblaw'r Ysgol (EOTAS) ―
Cyflwyno
ymrwymiadau yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg ―
Darpariaeth
uwchradd cyfrwng Saesneg ―
Darpariaeth
gynradd cyfrwng Saesneg ―
Anghenion
drwy gymorth y sector ―
Adolygiad
Ysgolion Arbennig ―
Trawsnewid
ardal ehangach ·
Arian
Llywodraeth Cymru ar gyfer Band B fydd £600m cyfalaf a £500m refeniw ar gyfer
Cymru gyfan. Nid yw'r cyllid sydd ar gael yn debygol o gefnogi graddfa'r
ceisiadau a ragwelir gan awdurdodau lleol. Darperir y refeniw gan Fodel
Buddsoddi Cydfuddiannol sef math o bartneriaeth gyhoeddus breifat. Mae'r Model
Buddsoddi Cydfuddiannol, yn wahanol i ffurfiau traddodiadol o PPP yn cynnwys
ymrwymiadau tymor hir er mwyn sicrhau buddion i'r gymuned, creu prentisiaethau
a lleoedd hyfforddi ar gyfer gweithiwr Cymru ac ar gyfer datblygu'n gynaliadwy,
y bydd yn rhaid i'r partner preifat gefnogi cyflwyno Deddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol. ·
Dylai
Abertawe glywed am ganlyniad y cais am Fand B tua diwedd 2017. ·
Bwriadu
nodi pedwar cynllun o bosib ar gyfer y Model Buddsoddi Cydfuddiannol ond bydd hyn
yn cael ei wneud yn y tymor hir. ·
Mae'r
risgiau a'r rhwystrau posib i'r rhaglen wrth fynd ymlaen yn cynnwys: ―
Cael
grant llawn ar gyfer Band B ―
Cymhlethdod
Model Buddsoddi Cydfuddiannol ―
Mae
cwrdd â chyfraniadau lleol bob amser yn her ―
Gallu'r
swyddogion i gyflwyno cynlluniau ―
Gallu
diwydiant adeiladu i gyflwyno cynlluniau Cyfraniad corff a gynorthwyir yn wirfoddol |
|
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. PDF 66 KB Cofnodion: Cynhelir cyfarfod
nesaf y panel ar 16 Tachwedd am 2pm a chynhelir yn Ysgol yr Olchfa. |
|