Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny - 01792 637256 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Heb ei ddatgan

 

2.

Nodiadau o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 08 17 pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd y nodiadau gan y panel.

 

Atebwyd dau gwestiwn a ofynnwyd yn y cyfarfod panel diwethaf gan y Prif Swyddog Addysg drwy e-bost:

·         Oes gan bob llywodraethwr fynediad i HWB ac os felly, a yw pob ysgol yn galluogi eu llywodraethwyr i'w defnyddio? Oes, mae gan bob ysgol fynediad i HWB ond na, dim ond rhai ysgolion sydd wedi cyflwyno gwefan HWB i'w llywodraethwyr.  Argymhellir ei chyflwyno ledled ysgolion Abertawe fel arfer da.

Cytunodd y panel i gadw llygad ar yr agwedd hon, a mynd ar drywydd y mater yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

·         Mynegwyd pryder am gyllid ar gyfer yr Uned Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig (EMAU), gan y cytunir yn aml ar y cyllid ar gyfer y flwyddyn ganlynol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, gan achosi ansefydlogrwydd posib o ran sicrhau parhad wrth ddarparu'r gwasanaeth ac anhawster wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol.  A ellir gwneud unrhyw beth i liniaru hyn?  Nid oes gennym unrhyw ddylanwad ar amseriad penderfyniadau (a gymerir mewn mannau eraill) dros lefelau cyllid y dyfodol, ac fel llawer o gynghorau, cafwyd toriadau i'w harian grant ar gyfer y gwasanaethau hyn.  Rydym wedi ymateb drwy ddatblygu ffyrdd newydd o weithio i wneud yn fawr o'r adnoddau sydd ar gael, ac mae llawer o'r rhain wedi cael eu rhoi ar waith.  Mae'n dda nodi bod dysgwyr SIY yn Abertawe'n perfformio'n dda ar draws dangosyddion allweddol gyda thuedd ar i fyny.  Mae hyn yn arwydd bod y ddarpariaeth ddiwygiedig yn cefnogi dysgwyr lleiafrifoedd ethnig yn gadarnhaol.

 

3.

Y Diweddaraf am Gynnydd Addysg Heblaw yn yr Ysgol pdf eicon PDF 209 KB

Gan gynnwys

·         y diweddaraf am gynnydd gyda newidiadau i’r gwasanaeth a llety

·         y diweddaraf am sut mae ysgolion yn meithrin gallu yn fewnol i reoli ymddygiad

Cynghorwyr Jennifer Raynor, Mark Sheridan (Uwch-seicolegydd Addysg, Ymddygiad a Dysgu) ac Amanda Taylor (Pennaeth Uned Atgyfeirio Disgyblion Abertawe)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Mark Sheridan ac Amanda Taylor y diweddaraf ar y cynnydd i'r panel, gan roi manylion y gwelliannau i'r Gwasanaethau Addysg Mewn Lleoliad Heblaw'r Ysgol (EOTAS).  Roedd yr adroddiad yn cynnwys:

 

·         Cynigion/amserlen ar gyfer newidiadau i leoliadau ar gyfer EOTAS

·         Y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran y modelau arfaethedig ar gyfer cyflwyno'r gwasanaethau

·         Sut mae gwelliannau'n effeithio ar ddarparu gwasanaethau i ddisgyblion yn uniongyrchol

·         Sut mae disgyblion wedi bod yn rhan o'r newidiadau arfaethedig a'u cyfranogaeth wrth ddatblygu'r gwasanaeth

·         Pa mor effeithiol yw'r 'drws tro' i ddisgyblion rhwng EOTAS ac ysgolion

·         Sut mae cwricwlwm yr Uned Atgyfeirio Disgyblion (UAD) yn diwallu anghenion disgyblion

·         Cynnydd ysgolion wrth ddatblygu darpariaeth fewnol i ddisgyblion â phroblemau ymddygiad

·         Pa welliannau a wnaed i'r system atgyfeirio

·         Y strwythur staffio presennol, a oes unrhyw swyddi gwag a sut mae'r rhain yn cael eu llenwi/rheoli

 

Gofynnodd y panel gwestiynau, gan drafod y pwyntiau canlynol:

 

·         Mae cynnydd cyflym bellach o ran newidiadau i leoliadau. Mae cynllun a dyluniad pwrpasol ar gyfer adeilad newydd a fydd yn adlewyrchu anghenion plant a phobl ifanc a'u hanghenion gwahanol, gan gynnwys anghenion cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiad, bellach ar waith.

·         Cytunodd y panel fod yn rhaid iddi fod yn ysgol liwgar a chroesawgar gydag amgylchedd cefnogol, ac roedd yn falch o glywed ei bod yn cael ei dylunio i fod yn addas i anghenion y plant a'r bobl ifanc fydd yn ei defnyddio.  Clywodd y panel y byddai gan yr ysgol ardaloedd cwricwlwm ond bydd man therapiwtig ac ardaloedd natur hefyd.

·         Clywodd cynghorwyr y cyflwynwyd cais Band B i Lywodraeth Cymru i helpu i ariannu'r prosiect ac y dylai'r cyngor glywed yn ffurfiol ynghylch y cais hwn ym mis Hydref 2017, ond mae'r arwyddion yn gadarnhaol.  Os caiff ei dderbyn, bwriedir agor y cyfleuster i dderbyn disgyblion ym mis Medi 2019.  Caiff adroddiad pellach ei roi gerbron y Cabinet ar ôl mis Hydref 2017. Roedd gan y panel ddiddordeb mewn gweld y cynigion ar gyfer y dyluniad os yw hynny'n bosib.

·         Caiff y cyfleusterau presennol eu cynnal nes bod yr adeilad newydd yn barod.

·         Gwneir cynnydd da o ran y model cyflwyno newydd. Mae cynnydd gwych yn cael ei wneud i ddatblygu amrywiaeth haenog o hyfforddiant ar-lein, mewn ysgolion ac allanol i ysgolion a gwasanaethau mewn perthynas â materion sy'n ymwneud ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiad, anghenion dysgu ychwanegol a lles.

·         Mae'r cysyniad 'tŷ hanner ffordd' yn agwedd tymor hwy o'r model newydd o gyflwyno gwasanaethau.  Yn y cyfamser, mae staff yn cael eu recriwtio i ddechrau datblygu'r broses ac i weithio gydag ysgolion a disgyblion lle ceir risg o EOTAS.

·         Mae'r panel yn cydnabod bod y model hwn yn ei ddyddiau cynnar, a phrin yw'r cynnydd a wnaed o ran effaith uniongyrchol. Roedd y panel yn falch o glywed y bu gwelliant enfawr wrth ddatblygu a gwella'r diwylliant yn y gwasanaethau.  Cael staff i ymrwymo i weithio tuag at weledigaeth ar y cyd, gyda'r holl staff ar draws y gwasanaeth yn gweithio fel un tîm  Gall y panel weld sut mae'r cynigion a'r systemau newydd sydd wedi'u rhoi ar waith, ynghyd â brwdfrydedd y Pennaeth newydd, swyddogion a staff sy'n rhan o hyn, wedi dechrau datblygu sylfaen dda a chadarn, y gobeithir y daw effaith gadarnhaol uniongyrchol i'r amlwg ohoni yn y dyfodol.

·         Drws tro gydag ysgolion - mae gwaith ar y gweill i sicrhau ei fod yn gliriach ar ddechrau symud i UAD gyda'r ysgol gychwynnol; sicrhau y rhennir disgwyliadau am ddychweliad y disgybl yn ôl i'r ysgol (bydd yr UAD yn darparu cefnogaeth ar gyfer hyn). Bwriedir cyfnewid staff a rhannu sgiliau rhwng yr UAD ac ysgolion. Cytunwyd ar femorandwm o ddealltwriaeth, gyda'r ysgol yn manylu ar y gefnogaeth a ddarperir i alluogi plant i ddychwelyd i'r ysgol.

·         Mae angen haenau o ymgynghoriad ar gyfer y prosiect hwn (mae hyn yn ofynnol yn ôl Llywodraeth Cymru), gan gynnwys cynnwys rhieni, rhanddeiliaid a phlant a phobl ifanc.  Dechreuodd hyn ar y cam dylunio a bydd  yn parhau nes ei gwblhau.

·         Roedd y panel yn falch o glywed bod cynnydd da yn cael ei wneud o ran arweinyddiaeth a chodi safonau, a datblygu'r cwricwlwm yn yr UAD.  Mae'r UAD bellach yn darparu amrywiaeth da o gyfleoedd academaidd a galwedigaethol, ac yn hanfodol, mae'n cynnwys y Fframwaith Cymhwysedd Digidol a'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol.

·         Clywsant hefyd fod grŵp strategaeth wedi'i ddatblygu a fydd yn dod â rhanddeiliaid ynghyd i helpu i ddatblygu'r Strategaeth Ymddygiad a Lles.  Cydnabu'r panel yr angen i sicrhau bod y strategaeth hon yn gweithio ar y cyd â strategaethau eraill sydd eisoes yn bod, fel y Strategaeth Atal ac Ymyrryd yn Gynnar.  Ni ddylai'r strategaeth edrych ar addysg yn unig, ond ar anghenion cyffredinol plant a'u teuluoedd.

·         Roedd y panel yn falch o glywed am y pecyn cymorth hunanwerthuso ymddygiad i ysgolion sydd wedi'i lunio.  Daw'n rhan o ymweliad yr Ymgynghorydd Herio a fydd yn edrych ar hyn gydag ysgolion. Bydd hefyd yn cynnwys trafodaeth ynghylch gallu'r ysgol o ran ymddygiad a'u hatgyfeiriadau i EOTAS.

·         Clywodd y panel fod gwir awydd am newid a chydweithio ar draws yr holl asiantaethau sy'n gysylltiedig â'r model newydd hwn.

 

Cytunodd y panel ar y camau gweithredu canlynol a gododd o'r trafodaethau:

rhaid ysgrifennu llythyr at Aelod y Cabinet yn amlinellu casgliadau o'r  drafodaeth heddiw

4.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. pdf eicon PDF 66 KB

Cofnodion:

Nododd y panel y rhaglen waith.

 

5.

Eitem Er Gwybodaeth pdf eicon PDF 101 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y panel yr wybodaeth fel y'i hatodwyd.

 

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 40 KB