Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny - 01792 637256 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnodion:

S J Gallagher, D W Helliwell.

2.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Heb ei ddatgan

3.

Llythyrau'r Cynullydd ac ymatebion cysylltiedig gan y Cabinet pdf eicon PDF 47 KB

a) Llythyr y Cynullydd 6 Ebrill 2017

b) Llythyr y Cynullydd ac Ymateb Aelod y Cabinet, 16 Mawrth 2017

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Codwyd mater cyllid ar gyfer y Gwasanaeth Iaith a Chyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig gan y Cyng. Lyndon Jones a oedd yn pryderu bod cyllid i'r gwasanaeth yn cael ei gytuno o flwyddyn i flwyddyn ac yn aml roedd penderfyniadau cyllidol yn cael eu gwneud yn hwyr yn y flwyddyn ariannol sy'n gallu achosi problemau o ran parhad darpariaeth y gwasanaeth.  Caiff cwestiwn e-bost ei anfon at y Prif Swyddog Addysg a chaiff yr ymateb ei ledaenu.

 

4.

Cyflwyniad ar Lais y Disgybl yn Abertawe pdf eicon PDF 100 KB

Beth Thomas (Gweithiwr Cyfranogiad a Hawliau Plant mewn Ysgolion)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd cyflwyniad i'r panel ar Lais y Disgybl yn Abertawe gan y Cydlynwyr Hawliau Plant. Roedd yn cynnwys y pwyntiau canlynol:

 

·         Nodau llais y disgybl

·         Amlder cyfarfodydd, presenoldeb, cyswllt a chyrhaeddiad

·         Disgwyliadau ysgolion

·         Partneriaid

·         Gweithgareddau/pynciau yr ymdrinnir â hwy a fformat y sesiynau

·         Dadansoddi sesiynau, canlyniadau a chamau gweithredu

·         Unedau Cyfeirio Disgyblion ac Ysgolion Arbennig

·         Cynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf

 

Gofynnodd cynghorwyr gwestiynau a thrafodwyd y prif faterion, gan godi'r pwyntiau canlynol:

 

·         Pam nad oedd disgyblion oedran cynradd o dan 10 oed wedi'u cynnwys.  Clywodd y panel y byddai hyn yn ddymunol ond nad oedd digon o le ar hyn o bryd ar gyfer mwy na'r nifer presennol o fforymau, ond hoffai ei estyn ymhellach.  Mae cynrychiolwyr Blwyddyn 6 o ysgolion cynradd yno i gynrychioli'r ysgol gyfan.

·         Roedd yn ddiddorol i'r panel glywed y cynhelir 6 fforwm llais y disgybl yn ystod y flwyddyn.  Caiff y rhain eu cynnal mewn ysgolion uwchradd y tu allan i oriau ysgol.  Gofynnodd y panel iddynt gael eu hysbysu am ddyddiadau'r gweithgareddau a byddant yn ystyried anfon cynrychiolwyr o'r Tîm Craffu. Cytunodd KS i ledaenu dyddiadau a gweithgareddau perthnasol.

·         Defnyddio cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo fforymau i ysgolion a disgyblion.  Caiff Twitter a Facebook eu defnyddio ond y dull mwyaf effeithiol yw defnyddio'r bwrdd gwyn rhyngweithiol a chysylltiadau sefydledig mewn ysgolion, ymhlith disgyblion a staff addysgu.

·         Daw'r contract gydag UNICEF i ben ar ddiwedd mis Hydref.  Mae pob ysgol ond pedair yn cyfranogi, sef 95% o ysgolion.

·         Cytunwyd ei bod yn bwysig iawn i roi adborth i ddisgyblon ac ysgolion sy'n cyfranogi, yn benodol i roi gwybod iddynt am y gwahaniaeth sydd wedi cael ei wneud.  Mae HWB yn ddull da ar gyfer hyn.

·         Gofynnwyd i'r panel a oedd gan bob llywodraethwr ysgol fynediad i HWB ac a oedd pob ysgol yn galluogi hyn i'w llywodraethwyr.  Caiff y cwestiwn hwn ei anfon at y Prif Swyddog Addysg a hysbyswyd yr aelodau am yr ymateb trwy e-bost.

·         Gofynnwyd i'r panel sut rydym yn sicrhau bod ysgolion yn annog amrywiaeth eang o ddisgyblion i gymryd rhan yn y broses ac mae'r cyfle i gymryd rhan trwy fod yn gynrychiolydd yn agored i bob disgybl, beth bynnag y bo ei amgylchiadau. Cyfrifoldeb pob ysgol yw cyflwyno dau ddisgybl.  Roedd y panel am gael gwybod am sut cânt eu dewis ac maent yn bwriadu ymchwilio ychydig ymhellach i hyn. 

·         Gofynnodd y Cynullydd sut gallai craffu helpu?  Rôl llywodraethwyr ysgolion yw gofyn cwestiynau ac annog cyfranogiad mewn gweithgareddau hawliau plant  a fforwm llais y disgybl, ystyried sut mae ysgolion yn cyfranogi mewn gweithgareddau a sut maent yn dewis cynrychiolwyr ar gyfer y fforwm.

 

Camau gweithredu a ddeilliodd o'r sesiwn hon:

·         Sut gallen ni sicrhau mwy o gyfranogiad gan bobl ifanc yng ngwaith y panel ac, yn ehangach, yn y broses graffu? (Panel i ystyried)

·         Darganfod mwy am allu'r Tîm Hawliau Plant a'r cyllid ar ei gyfer nawr bydd y contract gyda UNICEF yn dod i ben ym mis Hydref.  A fydd hyn yn effeithio ar adnoddau a beth yw'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol? (Cwestiwn i'w anfon at y Prif Swyddog Addysg)

·         Ystyried sut mae ysgolion yn cyfranogi mewn gweithgareddau hawliau plant a Fforwm Llais y Disgybl, gan gynnwys sut mae cynrychiolwyr yn cael eu dewis.

·         Gofynnwyd i'r panel a oedd gan bob llywodraethwr ysgol fynediad i HWB ac a oedd pob ysgol yn galluogi hyn i'w llywodraethwyr.  Caiff y cwestiwn hwn ei anfon at y Prif Swyddog Addysg a hysbyswyd yr aelodau am yr ymateb trwy e-bost.

 

5.

Rôl y Panel Craffu Perfformiad Ysgolion pdf eicon PDF 149 KB

a) Cylch Gorchwyl a Ffyrdd o Weithio

b) Rhaglen Waith 2017/18

c) Datblygu cwestiynau allweddol ar gyfer sesiynau ysgolion

 

Cofnodion:

Adolygodd y panel yr adroddiad am rôl y Panel Perfformiad Craffu Ysgolion a chytunodd ar y canlynol:

 

·         Y rhaglen waith ar gyfer gweddill y flwyddyn ddinesig

·         Datblygu strategaethau holi cyn sesiynau craffu allweddol

·         Y gyfres o gwestiynau allweddol ar gyfer sesiynau craffu ysgolion

·         Datblygu ffyrdd effeithiol o weithio trwy rag-gyfarfodydd, yn ôl yr angen.  Rhoi crynodeb byr ar ddiwedd pob cyfarfod i gytuno ar gamau gweithredu a'r hyn yr hoffent ei ddweud wrth yr aelod cabinet am y sesiwn.

 

Nododd y panel y cylch gorchwyl a rôl y cynullydd craffu a geir yn yr atodiadau.

 

6.

Eitem Er Gwybodaeth pdf eicon PDF 6 MB

a) Arolygiadau diweddar gan Estyn sydd wedi’u cyhoeddi ar gyfer ysgolion unigol

b) Deunydd darllen/Gwybodaeth gefndir ddefnyddiol sy’n ymwneud â materion addysgol

      i.        Yn ôl i’r ysgol: Ffyrdd i’r broses graffu ddylanwadu ar addysg leol a chefnogi arweinwyr ysgol i wella canlyniadau (Canolfan ar gyfer Craffu Cyhoeddus)

     ii.        Y Ffordd Gywir: Ymagwedd Hawliau Plant at Addysg yng Nghymru (Comisiynydd Plant Cymru)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y panel yr wybodaeth gefndir am ysgolion.

 

·         Crynodeb wedi'i gyhoeddi'n ddiweddar o arolygiadau Estyn (bydd hwn ar bob agenda)

·         Gwybodaeth ddefnyddiol arall (caiff gwybodaeth gefndir ddefnyddiol berthnasol i'w darllen ei chynnwys ar agendâu neu ei e-bostio i'r panel)