Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 119 KB Derbyn nodiadau’r cyfarfod blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Cofnodion: Cytunodd y panel fod nodiadau'r cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2019 yn gofnod cywir o'r cyfarfod. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnirâ nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod. |
|
Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Cofnodion: Roedd Julie Thomas, Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn bresennol er mwyn briffio'r Panel ar yr adroddiad ar gyfer Mehefin 2019. Pwyntiau i'w trafod:
Camau Gweithredu:
|
|
Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Cofnodion: Rhoddodd Julie Thomas y diweddaraf i'r panel am y cynnydd a wnaed ar y pum prif
faes i'w gwella fel y nodwyd
yn Adroddiad Arolygu AGC ym mis Awst 2018. Mae rhai o'r
amserlenni amser wedi llithro'n sylweddol. Dyma ddarn mawr o waith
sy'n gofyn am newid diwylliannol wrth barhau i
gynnal gwasanaeth diogel. Camau Gweithredu: • Bydd Pennaeth y Gwasanaeth yn dosbarthu'r cylchlythyr i'r Panel. |
|
Adolygiad o Berfformiad yr Awdurdod Lleol gan Arolygiaeth Gofal Cymru PDF 267 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd Simon Jones, Swyddog Gwella Strategaeth a Pherfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi briffio'r panel ar yr eitem hon gan gynnwys rhoi trosolwg o'r adolygiad perfformiad blynyddol a gynhaliwyd gan AGC a'r llythyr at Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n crynhoi gwerthusiad perfformiad y gwasanaethau cymdeithasol yn ystod 2018/19. Mae trefniadau newydd yng nghynllun adolygiad perfformiad blynyddol AGC ar gyfer 2019/20. Yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, bydd AGC yn treialu cyd-arolygiad o'r trefniadau amddiffyn plant ac yn canolbwyntio ar fynd ar drywydd meysydd i'w gwella yn dilyn arolygiad, deilliannau dysgu i blant gan ganolbwyntio ar weithio mewn partneriaeth a'r gwasanaeth pwynt cyswllt cyntaf. Pwyntiau i'w trafod:
|
|
Amserlen y Rhaglen Waith ar gyfer 2019/20 PDF 309 KB Cofnodion: Bu'r panel yn ystyried y rhaglen waith. Ychwanegwyd sesiwn friffio ar Asesiadau Gofalwyr Ifanc at y Rhaglen Waith ar 24 Chwefror 2020. |
|
a) Llythyr At Aelod y Cabinet (cyfarfod 26 Mehefin 2019) Cofnodion: Cafodd llythyr ei dderbyn a'i ystyried gan y panel. |
|
Llythyr At Aelod y Cabinet (cyfarfod 28 Awst 2019) PDF 172 KB |
|