Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o gysylltiadau.

 

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

 

3.

Nodiadau Cyfarfod 25 Chwefror 2019 pdf eicon PDF 370 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod blaenorol a chytuno eu bod yngofnod cywir.

Cofnodion:

 

Cytunodd y panel ar y nodiadau fel cofnod cywir o'r cyfarfod.

 

4.

Cwestiynau'r Cyhoedd

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

5.

Monitro Perfformiad pdf eicon PDF 56 KB

Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Chris Francis, Prif Arweinydd Datblygu a Chomisiynu Busnes, yn bresennol i egluro'r adroddiad perfformiad ar gyfer mis Mawrth 2019 i'r panel, gan nodi meysydd sy'n perfformio'n well a meysydd lle mae angen gwella, ac ateb cwestiynau'r panel.  

 

Pwyntiau i'w trafod:

·         Tudalen 10 - Lles - Mae nifer yr ail-atgyfeiriadau yn y mis wedi cynyddu.  Nodwyd bod teulu o 7 wedi cael ei ail-atgyfeirio i'r adran a oedd yn gyfrifol am y cynnydd hwn. 

·         Tudalen 11 - Cynllunio Gofal â Chymorth - Asesiadau - Mae cynnydd yn cael ei wneud o ran cynyddu canran yr asesiadau 42 ddiwrnod a gynhelir o fewn yr amserlenni.  Mae hyn yn gadarnhaol.

·         Tudalen 16 - Diogelu - Adolygiadau a Dyraniadau - Roedd y panel yn pryderu bod canran y plant ar y gofrestr Amddiffyn Plant sydd wedi'u cofrestru o'r blaen yn cynyddu.  Mae’r nifer yn y categori cam-drin emosiynol yn cynyddu ac mae angen i ni ddeall pam.  Mae gan y panel ddiddordeb mewn gweld sut mae cam-drin emosiynol yn cael ei gategoreiddio.  Mae'n oddrychol iawn.

·         Tudalen 17 - Diogelu - Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant (CSE), Plant sydd ar Goll a Chamdriniaeth Broffesiynol - Bu cynnydd mawr yn nifer y plant a reolir dan y Protocol Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant a nifer y plant sy'n mynd ar goll/yn absennol heb awdurdod.  Mae swyddog newydd wedi'i benodi i ymchwilio i'r materion hyn, efallai fod y cynnydd hwn yn deillio o nodi a chofnodi gwell.  Mae hyn yn bryder i'r panel, a fydd am fonitro hyn yn agos yn y dyfodol.

·         Bydd cynnydd yn nifer y cartrefi plant annibynnol yn yr ardal.  Roedd y panel yn pryderu y gallai fod yn fygythiad i amddiffyn plant os na all yr awdurdod a'r heddlu ddelio â nifer y plant sy'n derbyn gofal o ganlyniad.  Nid oes unrhyw reoliad ar nifer y cartrefi plant.  Mae'r mater wedi'i nodi gyda Llywodraeth Cymru. 

·         Tudalen 23 - Sefydlogrwydd - Gadael Gofal - Byddai rhestr o ddosbarthiadau yn ddefnyddiol i'r panel.

 

Camau gweithredu:

·         Ychwanegu eitem at y rhaglen waith ar ‘Pam mae plant yn derbyn gofal?'.

·         Darparu rhestr o ddosbarthiadau gyda'r adroddiad Monitro Perfformiad nesaf.

 

6.

Diweddariad ar Ddisgwyliad Llywodraeth Cymru o ran Lleihau Nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal yn yr Awdurdod Lleol pdf eicon PDF 524 KB

Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, yn bresennol i gyflwyno'r eitem hon ac ateb cwestiynau'r panel.

 

Pwyntiau i'w trafod:

 

·         Mae cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru wedi ymweld â'r awdurdod ac wedi cael eu cyfarwyddo ar gynlluniau i leihau mewn modd diogel nifer y plant sy'n derbyn gofal.

·         Pwysleisiodd y panel pa mor bwysig yw ysgolion wrth ysgogi hyn. Mae pryder bod mwy a mwy o blant yn cael eu haddysgu gartref.  Codwyd y mater hwn gyda LlC.

·         Roedd yr enghreifftiau a ddarparwyd o ddatblygu'r gwasanaeth wedi creu argraff dda iawn ar LlC.

·         Hoffai'r panel weld rhai enghreifftiau o gyfarpar a thechnegau a ddefnyddir gan staff rheng flaen wrth ymgysylltu â theuluoedd i annog rhieni a phlant i drafod problemau, teimladau, perthnasoedd a chynllunio ffordd ymlaen i wella eu sefyllfaoedd. 

·         Gwnaeth y panel longyfarch Julie Thomas a'i thîm am eu holl waith caled wrth reoli'r busnes.  Cydnabu LlC pa mor dda yw hyn.

 

Camau gweithredu:

 

·         Ychwanegu eitem i'r rhaglen waith ‘Enghreifftiau o gyfarpar a thechnegau a ddefnyddir gan staff rheng flaen wrth ymgysylltu â theuluoedd’.

 

7.

Amserlen Rhaglen Waith 2018/19 pdf eicon PDF 81 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y panel y rhaglen waith.

 

Camau gweithredu:

·         Ychwanegu at raglen waith 2019-20, 'Briffio ar y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid'.

·         Aelodau'r panel i roi gwybod i'r Swyddog Craffu am unrhyw eitemau i'w hystyried ar gyfer rhaglen waith 2019-20.

 

8.

Llythyrau pdf eicon PDF 262 KB

a)     Llythyr y cynullydd at Aelod y Cabinet (cyfarfod 25 Chwefror 2019)

Cofnodion:

 

Cafodd llythyr ei dderbyn a'i ystyried gan y panel.

 

Llythyr At Aelod y Cabinet (cyfarfod 29 Ebrill 2019) pdf eicon PDF 175 KB