Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 324 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y Panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2023 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

 

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau.

 

5.

Cyflwyniad - Diweddariad ar gynnydd gyda'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) pdf eicon PDF 242 KB

Michelle Davies, Pennaeth Cynllunio Strategol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Cofnodion:

Roedd Claire Norman, Nyrs Arweiniol CAMHS, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe yn bresennol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Panel am gynnydd dros y flwyddyn ddiwethaf, gan nodi y bu ymgais fwy penodol i weithio mwy o fewn y gymuned, a drwy ad-drefnu'r Gwasanaeth mae un llwybr ar gyfer ymyriadau.

 

Pwyntiau Trafod:

 

  • Gofynnodd y Panel a oes cysylltiad rhwng y cynnydd mewn atgyfeiriadau ymhlith grwpiau oedran penodol ac absenoldeb o'r ysgol yn ystod y pandemig.  Clywsant ei bod hi'n anodd gwybod ond byddent yn synnu pe na bai cysylltiad. 
  • O ran y graff ar dudalen 11, teimlai'r Panel fod atgyfeiriadau’n dechrau gostwng o'r brig a gofynnodd a yw hyn yn debygol o barhau.  Dywedwyd nad ydyn nhw'n disgwyl y bydd yn cyrraedd y brig eto.
  • Holodd y Panel am y llwybrau ar gyfer atgyfeirio, pwy all atgyfeirio ac os yw'n aros yn weddol gyson. Clywodd ei fod wedi aros yn weddol gyson oherwydd ni fu unrhyw newidiadau sylweddol o ran llwybrau mynediad atgyfeirio dros y blynyddoedd.  Fodd bynnag, ym mis Tachwedd 2023 gwnaethant eu hymestyn fel y gall cwnselwyr mewn ysgolion atgyfeirio hefyd. 
  • O ran y graffiau ar dudalen 13 a 14, roedd y Panel yn teimlo eu bod yn dangos y gwelliant yr hoffent ei weld ond nid ydynt yn deall sut mae'r llwybrau'n cael eu datblygu, gan nad yw'n ymddangos eu bod yn gwneud synnwyr o'u cymharu â'r ffigurau gwirioneddol.  Esboniwyd pan symudodd CAMHS draw i'r Bwrdd Iechyd, cytunwyd y dylid cymryd agwedd geidwadol o ran y trywydd
  • Gwnaeth y Panel sylw am yr ail graff ar dudalen 13. Roedd yn cydnabod y gwelliannau yn nhuedd gyffredinol y gromlin ond roedd yn teimlo y byddai'n ddefnyddiol pe bai'r ddwy echel yn dechrau ar sero fel y gellir gweld y gwir drywydd Nodwyd y bydd hyn yn cael ei ystyried yn y dyfodol er mwyn sicrhau cywirdeb wrth symud ymlaen.
  • Llongyfarchodd y Cynghorydd Mary Jones, a gadeiriodd yr ymchwiliad craffu gwreiddiol ar CAMHS, y BI ar eu holl waith. Mae hi'n teimlo ei fod yn wasanaeth gwahanol nawr i'r hyn ydoedd pan ddechreuodd, roedd yn falch o glywed bod atgyfeiriadau bellach yn cael eu gwneud drwy weithwyr Addysg proffesiynol ond teimlai mai'r un mater negyddol yw mynediad at y gwasanaeth go iawn, sy'n anodd oherwydd ble y mae wedi'i leoli yng nghanol Abertawe.    Cytunodd y Panel ei fod wedi gweld gwelliant enfawr o ran CAMHS a'i fod yn obeithiol y bydd yn parhau.  
  • Hysbyswyd y Panel ar 9 Chwefror 2024 y bydd digwyddiad iechyd meddwl i blant.  Maent yn gobeithio y bydd rhai o'r Panel eisiau mynychu a byddant yn darparu rhagor o wybodaeth.

 

Camau Gweithredu:

  • Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad iechyd meddwl plant yn cael ei dosbarthu i'r Panel.  

 

6.

Y Diweddaraf am y Bwrdd Magu Plant Corfforaethol pdf eicon PDF 143 KB

David Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol

Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mynychodd Louise Gibbard, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal a Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd i roi diweddariad ac ateb cwestiynau.  

 

Pwyntiau Trafod:

  • Clywodd y Panel fod Llywodraeth Cymru wedi lansio Siarter Rhianta Corfforaethol ym mis Medi 2023.  Abertawe oedd un o'r cyntaf i gofrestru ar ei chyfer. 
  • Clywodd y Panel fod pobl ifanc wedi rhannu eu meddyliau mewn cyfres o bodlediadau a fydd ar gael ar wefan y Cyngor.  Bydd y dolenni i'r rhain yn cael eu rhannu ag Aelodau'r Panel. 
  • Ar dudalen 22 paragraff 1.4, nododd y Panel fod 479 o blant sy'n derbyn gofal ond na allent gael y rhifau i adio i 479.  Hysbyswyd y Panel nad yw'r niferoedd yn adio i 479 oherwydd dim ond rhai o'r prif gategorïau lle mae plant yn byw sydd wedi'u cynnwys.
  • Holodd y Panel faint o leoliadau y tu allan i'r sir sydd yno ac roeddent yn falch o glywed bod llai na llond llaw yn byw yn Lloegr.
  • Nododd y Panel mai 479 oedd nifer y plant a oedd yn derbyn gofal ym mis Tachwedd 2023 a gofynnodd a oedd hyn yn mynd i fyny neu i lawr.  Dywedwyd ei fod wedi aros yr un fath yn fras.
  • O ran y Cyrchfan Profiad o Ofal, gofynnodd y Panel a yw'r Adran yn hapus eu bod yn mynd ymlaen i rywbeth sy'n cael ei gefnogi.  Clywodd y Panel fod gan bob plentyn a pherson ifanc hyd at 21 oed gynghorydd person ifanc dynodedig ac mae gan bob person ifanc hyd at 18 oed weithiwr cymdeithasol hefyd, felly bydd ganddynt gynllun llwybr ar waith.  Adroddiad llawn i'w gyflwyno i'r Panel.
  • Dywedodd y Panel fod ganddo bryderon yn flaenorol am y canlyniadau y mae plant sy'n derbyn gofal yn eu cyflawni a gofynnwyd pryd y gallai weld rhagor o wybodaeth am hyn.  Cytunodd swyddogion i wirio gydag Addysg pryd y gellir rhoi cyflwyniad am 'ysgolion rhithwir' i'r Panel yn y flwyddyn ddinesig newydd. 

 

Camau Gweithredu:

  • Caiff dolen i bodlediadau ei dosbarthu i Aelodau'r Panel
  • Eitem ar 'Gyrchfan Profiad o Ofal' i'w hychwanegu at gynllun gwaith yn y dyfodol.
  • Cyflwyniad ar 'Ysgolion Rhithwir' i'w ychwanegu at gynllun gwaith ar gyfer y flwyddyn ddinesig nesaf.

 

7.

Cynllun Waith 2023-24 pdf eicon PDF 40 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Panel y rhaglen waith a nodwyd yr eitemau ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 23 Ionawr 2024) pdf eicon PDF 133 KB