Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 326 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2023 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

 

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau.

 

5.

Monitro Perfformiad (gan gynnwys sesiwn ar archwilio ansoddol) pdf eicon PDF 121 KB

Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, drosolwg o berfformiad ar gyfer mis Medi 2023.  Rhoddodd Kathryn Sillman, Rheolwr Peripatetig, wybodaeth i'r Panel am sut mae archwilio ansoddol yn gweithio a'r meysydd y canolbwyntir arnynt ar hyn o bryd yn y Gyfarwyddiaeth. 

 

Pwyntiau Trafod:

  • Trafododd y Panel sut mae archwilio ansoddol yn y bôn yn edrych ar y prosesau a'r technegau a ddefnyddir i sicrhau eu bod yn gweithio yn y ffordd orau bosib. Esboniodd fod y Gyfarwyddiaeth yn edrych ar waith yn gyffredinol ac mae'r Academi yn rhan o hyn.
  • Mae'r Panel yn teimlo'n fodlon wrth edrych ar yr adroddiad perfformiad fod pethau'n edrych yn weddol sefydlog.
  • Mae'r Panel yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu symud i ffwrdd o'r system gyfrifiadurol bresennol.

 

Camau Gweithredu:

  • Y Panel i dderbyn rhagor o wybodaeth am y system gyfrifiadurol newydd.

 

6.

Y diweddaraf am Raglen Wella'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd pdf eicon PDF 149 KB

Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Linzi Margetson, Prif Swyddog Diogelu ansawdd a Pherfformiad

 

Cofnodion:

 Roedd Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a Linzi Margetson, Prif Swyddog Diogelu, Ansawdd a Pherfformiad, yn bresennol ar gyfer yr eitem hon ac atebon nhw gwestiynau'r Panel.

 

Pwyntiau Trafod:

  • O ran gofal preswyl, mae'r Panel o'r farn bod y gwasanaeth yn dal i gael trafferth wrth ddod o hyd i eiddo priodol i'w brynu a'i addasu, a holodd a oedd y cyngor yn dal i orfod anfon plant allan o'r sir er mwyn iddynt gael llety priodol. Hysbyswyd bod y gwasanaeth yn gweld cynnydd yn nifer y plant mewn gofal preswyl, sy'n rhannol gysylltiedig â'r lleoliadau gofal maeth annigonol sydd ar gael. Ar hyn o bryd mae ganddynt bedwar gwely mewnol, ac mae disgwyl i hyn gynyddu i 15 dros y tair blynedd nesaf. 
  • Gofynnodd y Panel i Aelodau'r Cabinet/swyddogion fynegi eu meddyliau a'u diolch i'r staff am y gwaith y maent wedi'i wneud - maent yn falch iawn o safon y perfformiad o fewn yr Adran ac yn edrych ymlaen at ei weld yn parhau am y 12 mis nesaf ac wedi hynny.
  • Gofynnodd y Panel am yr wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol o ran recriwtio a staffio asiantaethau.  Clywyd bod recriwtio gweithwyr cymdeithasol yn parhau i fod yn her. Mae'r gwasanaeth wedi parhau i ehangu'r gweithlu sydd wedi'i gymhwyso mewn ffyrdd eraill. Ar hyn o bryd mae pum gweithiwr cymdeithasol asiantaeth ar draws y gwasanaeth, sy'n isel o'i gymharu ag awdurdodau lleol eraill.  Mae'r adran yn recriwtio'n llwyddiannus i academi gwaith cymdeithasol y cyngor, gydag 11 o weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso ar hyn o bryd.

 

7.

Y diweddaraf am 'Coll, Camfanteisio a Masnachu Cyd-destunol (CMET)' pdf eicon PDF 147 KB

Kelli Richards, Cymorth Cynnar a Phwynt Cyswllt Unigol 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Kelli Richards, Prif Swyddog, yn bresennol i friffio'r Panel, gan gynnwys darparu trosolwg o Dîm CMET, crynodeb o ddatblygiadau a chynnydd diweddar ac enghreifftiau o weithgarwch a wnaed.

 

Pwyntiau Trafod:

  • Roedd ymrwymiad a gwaith caled y tîm wedi gwneud argraff fawr ar y Panel. 
  • Clywodd y Panel gan Aelodau’r Cabinet pa mor falch ydyn nhw fod y tîm wedi cael canmoliaeth uchel yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel Cymru 2023 am ei waith blaengar ac arloesol. 
  • Holodd y Panel pa mor aml mae'r clwb ieuenctid 'dros dro' yn Mayhill yn cael ei gynnal a beth sy'n digwydd am weddill yr amser.  Clywodd y Panel fod clwb Mayhill yn cael ei gynnal unwaith yr wythnos ond mae pum clwb ieuenctid awdurdod lleol ar y cyfan, y mae pob un ohonynt yn cael eu cynnal ar nosweithiau gwahanol mewn gwahanol ardaloedd.  Mae yna hefyd ychydig o glybiau ieuenctid annibynnol yn cael eu cynnal yn yr ardal. 

 

8.

Cynllun Waith 2023-24 pdf eicon PDF 39 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Panel y rhaglen waith a nodwyd yr eitemau ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 5 Rhagfyr 2023) pdf eicon PDF 129 KB

Ymateb at Aelod y Cabinet (cyfarfod 5 Rhagfyr 2023) pdf eicon PDF 162 KB