Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o gysylltiadau.

 

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 322 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Medi yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

 

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

 

5.

Diweddariad gan y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol pdf eicon PDF 207 KB

David Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol

Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Roedd David Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn bresennol i friffio'r Panel ar adroddiad blynyddol Bwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg 2022-23 ac i ateb cwestiynau.

 

Pwyntiau i'w trafod:

 

  • Mae gan y Bwrdd bedwar is-grŵp.  Mae'r Cyfarwyddwr yn teimlo bod tri allan o bedwar wedi dangos tystiolaeth dda o gynnydd yn erbyn amcanion. Mae'r pedwerydd grŵp yn waith ar y gweill o ran sut i gyfuno adrodd am berfformiad ar draws y bartneriaeth. Mae'r Panel yn pryderu nad yw'r Bwrdd Rhanbarthol mor effeithiol ag y dylai fod. Nododd y Cyfarwyddwr ei fod yn tynnu sylw at gyfle i wella mewn un maes.
  • Yr amcan wrth symud ymlaen yw gwella cyfraniad plant a theuluoedd yn y rhanbarth a datblygu'r agenda mewn perthynas â diogelu.  Rydym yn dechrau gweld ychydig o gynnydd o ran hyn gyda rhai mentrau.
  • Trafododd y Panel erthygl yn y cyfryngau am y cynnydd mewn materion diogelu sy'n cael eu cyflwyno i gynghorau a gofynnodd a oes problem fawr gyda nifer y materion diogelu yn Abertawe.  Fe'i hysbyswyd nad yw'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn gweld cynnydd sylweddol mewn atgyfeiriadau a chysylltiadau, fel sy'n digwydd mewn ardaloedd eraill yn ôl y cyfryngau.
  • Teimlai'r Panel y dylai fod y Bwrdd Diogelu yn ymdrechu mewn rhai ardaloedd mewn perthynas â diogelu, yn enwedig o ran cyffuriau, gan ymdrechu i sicrhau bod cydlynu rhwng asiantaethau yn gweithio. Clywodd y Panel fod byrddau eraill yn rhan fawr o'r gwaith go iawn sy'n cael ei wneud, a'r hyn y mae'r Bwrdd Diogelu yn ei wneud yw ceisio sicrwydd bod yr holl drefniadau hyn ar waith a'u bod yn gwneud gwahaniaeth o ran diogelu dros amser.

 

6.

Adroddiad Blynyddol yr Uned Ansawdd Gwasanaeth pdf eicon PDF 219 KB

Linzi Margetson, Prif Swyddog Diogelu a Pherfformiad

Alison Mathias, Rheolwr Tîm yr Uned Ansawdd Gwasanaeth

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Amlygodd Alison Mathias, Rheolwr Tîm yr Uned Ansawdd Gwasanaeth y prif bwyntiau o Adroddiad Blynyddol 2022-23 ac atebodd gwestiynau'r Panel.

 

Pwyntiau i'w trafod:

  • Nododd y Panel ba mor anodd yw i blant sy'n mynd i ofal am y tro cyntaf ac awgrymodd, yn ogystal ag ysgrifennu llythyrau, y dylid gwneud mwy ar lafar gyda'r plant hyn megis creu recordiad. Roedd swyddogion yn teimlo bod yr awgrym yn un da iawn a byddant yn archwilio'r opsiwn ymhellach.
  • Gofynnodd y Panel pam roedd y gyfradd eiriolaeth mor isel. Fe'i hysbyswyd bod sawl rheswm dros hyn. Mae'r gwasanaeth yn gweithio gyda'i ddarparwr comisiynu, NIAS i helpu i ddeall sut y gellir cyfathrebu hyn yn well i'w blant sy'n derbyn gofal.

 

7.

Adolygiadau Comisiynu - Y diweddaraf am y cynnydd pdf eicon PDF 195 KB

Jane Whitmore - Comisiynydd Arweiniol Strategol

Claire Edwards, Prif Swyddog y Gwasanaethau Comisiynu a Gofal

 

Cofnodion:

Roedd Jane Whitmore, Comisiynydd Strategol Arweiniol a swyddogion perthnasol eraill yn bresennol i friffio'r Panel, gan bwysleisio ei fod yn wahanol i gaffael, nid contract ar gyfer rheoli grantiau yn unig yw hyn ac mae'n ymwneud â nodi'r bylchau, a phwy yw'r person gorau i gyflawni'r canlyniadau gorau i blant a theuluoedd ar draws Abertawe. 

 

Pwyntiau trafod:

 

  • Gofynnodd y Panel pa mor effeithiol yw'r gwasanaeth o ran cadw costau gwasanaethau dan reolaeth wrth sicrhau ei fod yn cyflwyno'r gwasanaeth y mae pobl yn ei eisiau. Clywyd bod rhai gwasanaethau y mae'n rhaid eu darparu ac mae'r gwariant y tu hwnt i reolaeth yr awdurdod. Os oes dewis o ran y gwerth gorau am arian, mae'r timau'n gweithio'n galed i drafod prisiau gyda chyflenwyr/darparwyr i sicrhau eu bod yn cael y gwerth gorau. 
  • O ran darparu gwasanaethau drwy gomisiynu, holodd y Panel a fanteisir ar bob cyfle i siarad â chleientiaid am eu gofynion. Clywyd bod adborth yn cael ei dderbyn gan fuddiolwyr a'u bod yn rhan o'r gwaith blaengynllunio.
  • Mae'r Panel yn ymwybodol bod yr elfen nid er elw'n achosi problemau yn y farchnad a gofynnodd a oes unrhyw adborth am hyn gan Lywodraeth Cymru. Cadarnhaodd Aelod y Cabinet ei bod yn mynychu cyfarfod rhwydwaith gyda'r Gweinidog a bod y mater hwn ar yr agenda.  Ar hyn o bryd mae gweithgor yn edrych ar y diffiniad o nid er elw, gobeithio y bydd mwy o eglurder cyn bo hir.

 

8.

Cynllun Waith 2023-24 pdf eicon PDF 38 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y panel y cynllun gwaith a nodwyd yr eitemau ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 24 Hydref 2023) pdf eicon PDF 121 KB