Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

 Ni wnaed unrhyw ddatganiadau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 324 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod

cywir.

Cofnodion:

Cytunodd y Panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mai 2023 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

 

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrno

d gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eite

mau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

 

5.

Monitro Perfformiad pdf eicon PDF 208 KB

Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Julie Davies, Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wybodaeth i'r Panel am yr Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer mis Ebrill 2023, ac atebodd gwestiynau'r Panel.

 

Pwyntiau i'w trafod:

  • Ym mis Ebrill, cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Cymru adolygiad cyflym o amddiffyn plant yn Abertawe.  Roedd yr adborth yn gadarnhaol.
  • Nododd y Panel fod y niferoedd mewn gofal preswyl wedi cynyddu ychydig. Clywodd y Panel fod hwn yn gysylltiedig â diffyg gofalwyr maeth.  Roedd ymgyrch recriwtio ym mis Mai gyda Gofal Maeth Cymru. 
  • Gofynnodd y Panel am y cynnydd a ddangosir ar y graff ar gyfer pobl a oedd yn mynd i Ganolfannau Cymorth Cynnar ym mis Ebrill 2022.  Fe'i hysbyswyd fod hyn o ganlyniad i newid mewn cofnodi rhwng mis Mawrth a mis Ebrill 2022. 
  • Gofynnodd y Panel a yw'r Tîm Asesu Gofalwyr Annibynnol yn fewnol, ac os felly, sut mae'n annibynnol? Clywodd y Panel fod y tîm yn ystyried y gofalwyr eu hunain yn eu rhinwedd eu hunain, yn lle cynnal asesiad rhiant/plentyn.
  • Nododd y Panel y byddai'n pryderu petai rhywun yn mynd yn ôl ar y gofrestr amddiffyn plant lai na flwyddyn ar ôl cael ei dynnu oddi ar y gofrestr. Cytunodd swyddogion i gynnwys hyn ar gyfer dadansoddiad o'r adroddiad perfformiad yn y dyfodol.
  • Gofynnodd y Panel a oedd unrhyw broblemau o ran cyflwyno'r ffurflen newydd ac a oedd yr adran yn fodlon arni. Clywodd fod y ffurflen wedi datblygu yn ôl y disgwyl a'i bod yn parhau i wneud hynny.
  • Nododd y Panel nad oedd unrhyw sôn am lefelau staffio yn yr adroddiad, yn enwedig y nifer o staff asiantaeth. Hysbyswyd y Panel, yn ystod y cyfrif diwethaf roedd pedwar gweithiwr cymdeithasol asiantaeth ond byddent yn croesawu mwy ar hyn o bryd ac roeddent yn ceisio recriwtio dau arall.

 

Camau Gweithredu:

  • Data i'w gynnwys wrth ddadansoddi'r adroddiad perfformiad yn y dyfodol - 'nifer y plant a ychwanegwyd at y Gofrestr Amddiffyn Plant, o fewn 12 mis o datgofrestru, sydd wedi cael eu hailgofrestru dan yr un categori.'

 

6.

Diweddaraf am y Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol pdf eicon PDF 205 KB

Nichola Rogers, Rheolwr Mabwysiadu RhanbartholGwasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Nichola Rogers, Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol, yn bresennol i friffio'r Panel ac ateb cwestiynau.

 

Pwyntiau i'w trafod:

  • Gofynnodd y Panel sut mae'r Gwasanaeth yn cynhyrchu incwm. Clywodd y Panel, yn ystod y pandemig roedd mwy o fabwysiadwyr ar y rhestr na phlant oedd ar gael. Roedd nifer o'r mabwysiadwyr wedi symud draw i gofrestr fabwysiadu ar gyfer Cymru ac yn chwilio am blant a oedd ar gael i'w mabwysiadu ar draws y DU.  Roedd y gwasanaeth mabwysiadu rhanbarthol wedi derbyn ffi leoliad ar gyfer y lleoliadau hynny.
  • Gofynnodd y Panel beth yw ystyr atgyfeiriadau 'olrhain gefeilliaid' Hysbyswyd y Panel, pan mae awdurdod lleol yn penderfynu bod angen rhoi gweithdrefnau gofal ar waith a chwilio am y cynllun gorau ar gyfer y plentyn, os yw mabwysiadu'n opsiwn tebygol byddant yn atyfeirio hyn i'r gwasanaeth mabwysiadu rhanbarthol ar y pwynt hwnnw.  Nid yw pob rhanbarth yn gwneud hyn.
  • Gofynnodd y Panel a oes digon o fabwysiadwyr ar hyn o bryd ar gyfer nifer y plant y mae angen eu mabwysiadu. Fe'i hysbyswyd bod gan y gwasanaeth gronfa o fabwysiadwyr sy'n aros, a thrwy'r prosiect cyfran y farchnad mae lleoliadau ychwanegol y gall eu defnyddio, felly eleni mae'n debygol o fod yn gyfartal.
  • Nododd y Panel y gostyngiad yn nifer y cymeradwyaethau a gofynnodd a oedd hyn yn bryder. Clywodd ei fod yn bryder a'i fod wedi dod yn broblem genedlaethol. Bydd angen i'r Panel fonitro hwn.
  • Gofynnodd y Panel am y sefyllfa bresennol o ran straeon bywyd. Clywodd fod Cymru'n gwneud gwelliannau yn y maes hwn. Yn rhanbarthol, datblygwyd tîm bach o fewn y gwasanaeth sy'n edrych ar y gwaith taith fywyd a gynigir i fabwysiadwyr.

 

7.

Rhaglen Waith Drafft 2023-24 pdf eicon PDF 34 KB

Cofnodion:

Trafododd a chytunodd y Panel ar ei gynllun gwaith ar gyfer 2023-24.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 20 Mehefin 2023) pdf eicon PDF 119 KB