Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol
Cofnodion:
Ni dderbyniwyd unrhyw ddatgeliadau.
|
2. |
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau
Cofnodion:
Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau.
|
3. |
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 312 KB
Derbyn nodiadau’r
cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod
cywir.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cytunodd y panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2022 yn
gofnod cywir o'r cyfarfod.
|
4. |
Cwestiynau gan y cyhoedd
Rhaid cyflwyno
cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd
ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod
fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud
ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir
â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.
Cofnodion:
Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.
|
5. |
Cyflwyniad - Cyfarwyddyd ynghylch yr Ymchwiliad Annibynnol i'r Adroddiad am Gam-drin Plant yn Rhywiol (IICSA): Rhwydweithiau Trefnedig sy'n Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant
Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Damian Rees, Prif Swyddog Diogelu, Perfformiad ac
Ansawdd
Cofnodion:
Roedd Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, yn
bresennol i gyflwyno'r eitem hon ac ateb cwestiynau'r panel. Roedd Eve Davies, Uwch-arolygydd Heddlu De Cymru
a Kate Phillips, Pennaeth Gwasanaeth ar gyfer Dysgwyr Diamddiffyn yn yr adran
Addysg yn bresennol hefyd ar gyfer yr eitem hon.
Pwyntiau Trafod:
- Mae'r adran yn llwyr gefnogi argymhellion yr
adroddiad.
- Dywedodd yr Uwch-arolygydd, o safbwynt plismona,
eu bod yn cydnabod yr adroddiad a'i ganfyddiadau a'u bod yn gwneud
rhywfaint o gynnydd o ran y dysgu a nodwyd a'r cynllunio ar gyfer
gweithredu i ymateb iddo.
- Mae adroddiad blynyddol yn cael ei
lunio ar gyfer camfanteisio a diogelu. Awgrymodd swyddogion fod hyn yn cael
ei ychwanegu at raglen waith y flwyddyn nesaf.
- Roedd y Panel yn pryderu am ganlyniadau a
gofynnon nhw a oedd yr Adran yn hyderus bod cymaint â phosib ar waith i
nodi'r achosion hyn ac ymdrin â nhw, ac os yw achosion yn dod i'r amlwg na
fyddent o bosib wedi bod yn ddisgwyliedig yn y gorffennol. Fe'u hysbyswyd
bod yr Adran yn hyderus eu bod yn canolbwyntio ar ganlyniadau unwaith eu
bod wedi mynd i'r afael â'r risgiau.
Hefyd, fe'u hysbyswyd bod pethau'n cael
eu cyfeirio i mewn a bod yr Adran yn brysur iawn.
- Holodd y panel a yw COVID wedi achosi rhagor
o broblemau h.y. gyda'r cyfyngiadau symud, nid yw plant wedi bod yn yr
ysgol ac a yw hyn wedi gwaethygu'r broblem yn y maes hwn. Fe'u hysbyswyd
y cafwyd gwared ar rai o'r risgiau ynghylch camfanteisio
troseddol gan nad oedd pobl yn cael mynd allan ond roedd mwy o gamfanteisio ar-lein.
Ychwanegodd y Pennaeth Dysgwyr Diamddiffyn fod y pandemig yn amser
anodd iawn. Roedd hi fwyaf anodd
pan oedd ysgolion ar agor yn rhannol a phan gafwyd cyfnod o amser pan nad
oedd rhai grwpiau blwyddyn yn yr ysgol.
- Dywedodd y Panel, ar gyfer camfanteisio teuluol, na fyddai rhai teuluoedd eisiau
adrodd am hyn ac y bydd y plentyn yn gwneud yr hyn y mae ei deulu'n
dymuno. Teimlai'r Panel fod angen
ystyried yr hyn y mae'r plentyn yn ei feddwl, ond yn y pen draw, rhaid
gwneud yr hyn sydd orau i'r plentyn.
Ymatebodd swyddogion nad yw cam-drin o fewn y cartref yn nodwedd
o'r adroddiad hwn ond mewn perthynas â hyn, efallai fod plant yn ofni
cyflwyno'u hunain. Mae plant yn
dechrau dweud wrth bobl am gam-drin pan fônt yn teimlo'n ddiogel, ac mae
hyn yn aml yn digwydd pan fyddant yn yr ysgol.
- Dywedodd y Panel fod gan yr awdurdod
bartneriaeth waith ag EYST (Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid
Cymru) ond dim ond un sefydliad yw hwn felly nid yw'n wir
gynrychioliad. Holodd y Panel pwy
fydd yn eistedd ar y grŵp BAME newydd a grybwyllwyd yn y cyflwyniad.
Cytunodd swyddogion, o ran y grŵp BAME, ei bod hi'n bwysig edrych ar
bwy sy'n rhan ohono ac mae angen bod amryfal leisiau, ac ni all un
sefydliad gynrychioli pawb.
- Ychwanegodd y Panel fod angen ymdrin â'r
person o'ch blaen, ni waeth beth yw ei hil etc. Cytunodd swyddogion y
dylem edrych ar y person ac nid ei liw, ei rywedd
etc., ond roeddent hefyd yn teimlo bod gweithwyr 'drws ffrynt' yr Adran yn
eu helpu i ddeall diwylliannau gwahanol, sy'n wirioneddol bwysig.
- Teimlai'r Panel hefyd o ran datrysiadau, fod
rhai o'r ymyriadau mwyaf llwyddiannus yn ymwneud â gweithio amlasiantaeth a phan fo cymunedau'n deall meddwl y camdriniwr, a dywedwyd bod y Gwasanaethau
Cymdeithasol, ers blynyddoedd, wedi hyrwyddo hyfforddiant a oedd yn
ymwneud â deall meddwl y troseddwr a'r hyn y gallant
ei wneud amdano. Holodd y Panel a
yw'r Adran yn ystyried parhau â'r math hwn o hyfforddiant a'i
raeadru. Cytunodd swyddogion i
ddarparu manylion hyfforddiant i staff yn benodol a hyfforddiant amlasiantaeth yn dilyn y cyfarfod.
- Holodd y Panel am ffigur yn y cyflwyniad o 6
achos o gamfanteisio yn y 18 mis diwethaf a
gofynnwyd a oedd hyn yn gywir. Dywedwyd wrthynt fod y rhain yn 6 achos o
fath arbennig ac roedd yn ymgais i ddarparu rhywfaint o dawelwch meddwl
i'r Panel. Awgrymodd swyddogion y dylid dod ag adroddiad ehangach am ddata
perfformiad i gyfarfod Panel yn y dyfodol fel bod gan y Panel
ddealltwriaeth o'r darlun ar draws Abertawe a beth mae hyn yn ei ddweud am
y risgiau ar draws Abertawe.
- Sicrhawyd y Panel gan y mesurau sydd wedi'u
rhoi ar waith ac sy'n cael eu rhoi ar waith yn awr.
Camau Gweithredu:
- Bydd y Panel yn ystyried ychwanegu Adroddiad
Blynyddol am Gamfanteisio a Diogelu at raglen
waith y flwyddyn nesaf.
- Bydd manylion unrhyw hyfforddiant amlasiantaeth ac ar gyfer staff ar ddeall meddwl y camdriniwr a'r hyn i wneud amdano, a gwybodaeth
amdano, yn cael eu rhaeadru a'u darparu i'r Panel.
|
6. |
Cyflwyniad - Adroddiad Arolygu Cyfiawnder Ieuenctid
Jay McCabe, Prif Swyddog Gwasanaethau‘r
Glasoed a Phobl Ifanc
Cofnodion:
Roedd Jay McCabe, Prif Swyddog Gwasanaethau'r Glasoed a Phobl Ifanc yn bresennol
i gyflwyno'r eitem hon ac i ateb cwestiynau'r Panel. Roedd Helen Williams, Rheolwr Arfer
Cyfiawnder Ieuenctid, hefyd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon Clywodd y Panel fod y trefniad rhanbarthol
wedi cael ei arolygu ym mis Hydref 2018 gan Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi ac
wedi cael ei raddio'n 'annigonol'.
Gwnaed gwelliant sylweddol dros y tair blynedd ers hynny ac mae trefniad
Abertawe wedi symud i'r raddfa 'angen gwelliant pellach'.
Pwyntiau Trafod:
- Cymeradwywyd y cynllun gwella'n llawn gan
Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi.
Gofynnodd swyddogion iddo ddod yn ôl i'r tîm Craffu ymhen chwe mis
er mwyn i'r Panel gael diweddariad.
Teimlai'r Panel fod y gwasanaeth wedi gwella tipyn dros dair
blynedd a bydd yn parhau i fonitro'r gwelliant.
- Cynhelir adolygiad o systemau'r gwasanaeth
cyfan o fis Mawrth 2022. Bydd plant
a phobl ifanc yn rhan o'r gwaith i helpu i lunio ac aildrefnu'r
gwasanaeth.
- Pwysleisiodd swyddogion bwynt pwysig am
sylwadau Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi ar y Biwro. Nid oedd ganddynt bryderon ynghylch
canlyniadau'r achosion yr edrychon nhw arnynt.
- Caiff aelodau'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid eu
gwahodd i ymweld â'r gwasanaeth a siarad â staff a phobl ifanc. Mae'r cynnig i ymweld â'r gwasanaeth
wedi'i estyn i Aelodau'r Panel Craffu.
- Mae'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn
buddsoddi mewn prynu adeilad newydd yn Abertawe i helpu i ddarparu
gwasanaethau wedi'u cydleoli a chynyddu gallu.
- Rhyddhawyd datganiad i'r wasg pan gyhoeddodd
Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi ei hadroddiad arolygu. Bydd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau
Cymdeithasol yn rhannu'r datganiad i'r wasg hwn â'r Panel.
Camau Gweithredu:
- Bydd y Panel yn ystyried ychwanegu Cynllun
Gwella'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid at y rhaglen waith ar gyfer y
flwyddyn ddinesig nesaf.
- Bydd Aelodau'r Panel yn hysbysu'r Swyddog
Craffu os oes diddordeb mewn ymweld â'r gwasanaeth.
- Caiff y datganiad i'r wasg ei gylchredeg i'r
Panel er gwybodaeth.
|
7. |
Diweddariad Llafar ar Staffio mewn Argyfwng
Elliott King, Aelod y Cabinet –Gwasanaethau Plant
Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Cofnodion:
Rhoddwyd diweddariad i'r Panel ar y sefyllfa gyfredol gan Julie Davies,
Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.
Ychydig iawn o newid a fu i'r sefyllfa o ran cyflogi gweithwyr cymdeithasol
ac eithrio rhywfaint o duedd gadarnhaol. Gwnaed penderfyniad i recriwtio rhagor
o weithwyr cefnogi sydd wedi cael effaith
gadarnhaol sef llai o bwysau ar weithwyr cymdeithasol. Yn y tymor hwy,
os yw'r broblem gyda gweithwyr cymdeithasol yn parhau, bydd angen penderfynu ar
yr hyn i'w wneud yn strategol yn Abertawe ac ar lefel Llywodraeth Cymru.
Hysbyswyd y Panel y bydd y broses adrodd yn llawn am berfformiad wrth yr adran
Graffu'n ailgychwyn yn y flwyddyn ddinesig newydd.
|
8. |
Adolygiad Panel y Flwyddyn 2021-22 PDF 220 KB
Cofnodion:
Adolygodd Aelodau'r Panel y flwyddyn 2021-22 a thrafodwyd y cwestiynau
canlynol.
Beth aeth yn dda?
- Yr agwedd bwysicaf
ar wasanaeth cyhoeddus yw cefnogi gwaith y Gwasanaethau Plant a
Theuluoedd. Nid yw'r Panel erioed wedi bod yn hunanfodlon. Mae holl
aelodau'r Panel yn rhagweithiol iawn ac yn canolbwyntio'n drylwyr ac fe'u cefnogir gan swyddogion. Mae'n anodd meddwl sut y
gellir gwella hyn.
- Nid yw'r Panel wedi
osgoi delio â materion anodd a bod yn heriol.
- Roedd ymgysylltu'n
uniongyrchol â grwpiau cleientiaid wedi gweithio'n dda - fideos gyda mamau
ifanc a siarad â phlant a phobl ifanc yn uniongyrchol. Roedd yn bwerus iawn a helpodd y Panel i
weld yr hyn y mae'r Adran yn ei wneud mewn gwirionedd yn yr amgylchiadau
mwyaf heriol. Hoffent weld hyn yn parhau yn y dyfodol.
- Mae'r Adran yn
gweithio'n well nawr nag y byddai fel arall oherwydd y Panel Craffu. Mae'r
ffaith bod y Panel wedi bod yn trafod agweddau gwahanol ar y Gwasanaethau
Plant a Theuluoedd a'u bod yn flaenoriaeth iddynt wedi gwneud gwahaniaeth
i effeithlonrwydd yr Adran. Os yw
hyn wedi gwneud gwahaniaeth i blentyn, yna mae'r Panel wedi bod yn
llwyddiannus.
- Mae wedi bod yn
Banel Craffu cryf iawn. Rhaid
canmol y Cadeirydd nad yw'n beirniadu ac sy'n ceisio gofyn cwestiynau
da. Cryfder y Panel fu edrych ar
bethau anodd a gweld y realiti oherwydd ei fod am wneud gwahaniaeth i
blant a theuluoedd.
- Mae'r hyn y mae'r
Panel yn ei wneud yn ddefnyddiol.
Mae wedi gweld sefyllfa lle mae'r Adran wedi mynd o fod mewn
cyfyngder mawr i'r sefyllfa y mae ynddi heddiw. Rheolwyr a staff sydd, ac sydd wedi bod
wrth wraidd hyn. Rôl y Panel oedd
bod yn gyfaill beirniadol.
- Rhaid diolch a
dangos gwerthfawrogiad i bawb sydd wedi cyfrannu at y Panel a diolch i'r
Swyddog Craffu a'r holl dîm craffu am y gwaith caled maen nhw'n ei wneud.
Beth nad oedd wedi gweithio cystal?
- Nid oedd unrhyw
beth nad oedd wedi mynd yn dda.
A yw'r panel wedi
canolbwyntio ar y pethau cywir?
Ni nodwyd
sylwadau.
Beth rydym wedi'i ddysgu a fydd yn ein helpu i Graffu ar
y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn y dyfodol?
- Credir y dylai fod mwy o gyfarfodydd Panel y
Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn y dyfodol, gan ei fod mor bwysig a bod
cynifer o bethau i'w trafod.
- Canlyniadau yw'r pwysicaf - pa effaith y mae
hyn oll yn ei chael ar fywydau'r plant a'r bobl ifanc rydym yn gyfrifol
amdanynt.
- Gwelir cysylltiadau rhwng y Gwasanaethau
Plant a Theuluoedd ac Addysg. Hynod
ddefnyddiol a chadarnhaol.
- Ni ddethlir yn ddigonol yr holl achosion sy'n
cael eu cau bob mis oherwydd ymyriad rhagorol gan y Gwasanaethau Plant a
Theuluoedd. Byddai'n ddefnyddiol
iawn pe bai mwy o'r gwersi hyn yn dod i'r amlwg.
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 9 Mawrth 2022) PDF 212 KB
|
|
Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 9 Mawrth 2022) PDF 418 KB
|