Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Media
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol
Cofnodion:
Datgeliadau o fuddiannau – Mike Durke.
|
2. |
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau
Cofnodion:
Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.
|
3. |
Cofnodion Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 313 KB
Derbyn nodiadau’r
cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod
cywir.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cytunodd y panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Medi yn gofnod
cywir o'r cyfarfod.
Dan yr adran materion sy'n codi cododd y Cynullydd ymholiad ynghylch data
ar gynnydd plant sy'n derbyn gofal mewn addysg o'u cymharu ag eraill. Ymatebodd swyddogion fod y system y byddai
Llywodraeth Cymru fel arfer yn ei defnyddio i ddarparu'r data wedi'i hoedi
oherwydd y pandemig ac nad oedd gan yr Adran Addysg yr adnoddau i wneud hyn â
llaw ar hyn o bryd mewn ffordd y gellid ei rhannu er mwyn gweld y gymhariaeth. Fodd bynnag, ar gyfer plant unigol, byddai
hyn yn cael ei wneud fel rhan o'r adolygiadau statudol plant sy'n derbyn
gofal. Mae'r adran yn gobeithio gallu
darparu rhywfaint o ddadansoddiad yn y flwyddyn newydd a bydd hyn yn cael ei
rannu gyda'r Panel.
|
4. |
Cwestiynau Gan y Cyhoedd
Rhaid cyflwyno
cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd
ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod
fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud
ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.
Cofnodion:
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.
|
5. |
Adroddiad uchafbwyntiau Perfformiad a'r Cynllun Staffio Brys PDF 565 KB
Elliott King, Aelod y Cabinet –Gwasanaethau Plant
Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Roedd Julie Davies, Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn bresennol i
friffio'r Panel ar yr eitem hon.
Pwyntiau i'w trafod:
- Mae'r Panel yn derbyn adroddiad monitro
perfformiad byrrach ar hyn o bryd. Rydym yn gobeithio ailddechrau adrodd
yn llawn am berfformiad o fis Chwefror 2022 ymlaen.
- Canlyniad yr arolygiad o'r Gwasanaeth
Troseddau Ieuenctid i gael ei gyflwyno gerbron y Gwasanaethau Plant a
Theuluoedd mewn cyfarfod yn y dyfodol.
- Cododd y Panel yr achos trasig diweddar yn Solihull a gofynnodd i swyddogion roi syniad o'r hyn a
aeth o'i le. Gwnaethant hefyd
geisio sicrwydd na fyddai hyn yn
digwydd i blant yn ardal yr awdurdod lleol hwn.
- Roedd gan y Gyfarwyddiaeth bryderon am allu
recriwtio gweithwyr cymdeithasol am ddau i dri mis. Yn y cyfnod hwn, maent wedi tynnu staff
o rannau eraill o'r gwasanaeth i gynorthwyo a chefnogi. Cynhaliwyd cyfarfodydd diogelu wythnosol
gydag Addysg, Iechyd a'r Heddlu i sicrhau eu bod yn cadw mewn cysylltiad â
phlant y maent yn poeni fwyaf amdanynt.
Dyma un o'r heriau a godwyd yn yr achos yn Solihull
– cadw mewn cysylltiad â phlant y maent yn poeni fwyaf amdanynt. Mae swyddogion yn Abertawe yn credu eu
bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu.
- Gofynnodd y Panel am yr anhawster wrth
recriwtio i'r Gwasanaeth. Mae
awdurdodau lleol ledled Cymru wedi siarad â Llywodraeth Cymru am
strategaethau tymor canolig a hirdymor.
Cadarnhaodd swyddogion eu bod yn mynd ar drywydd 'datblygu eu
hunain'. Mae'r Awdurdod yn cryfhau
cysylltiadau â phrifysgolion a staff ategol i ddilyn cymwysterau. Yn ddiweddar, efallai bod rhai o'r
uwch-weithwyr cymdeithasol yn ymdrin â llwythi achosion uwch nag arfer.
Fodd bynnag, oherwydd bod swyddi cefnogi teuluoedd ychwanegol wedi'u
penodi, dylai hyn wneud gwahaniaeth yn y flwyddyn newydd gan y gallant gynnal rhai o'r achosion anstatudol.
- Gofynnodd y Panel am ddadansoddiad o gyfanswm
tîm staff y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd.
Mae'r Panel yn teimlo bod angen pobl â sgiliau, gwybodaeth a doniau
ar y gwasanaeth a dylent fod yn annog y bobl hyn i fod mewn rolau
allweddol ac nid yn chwilio am bobl â graddau yn unig. Mae swyddogion yn
edrych ar sut y gallant gefnogi'r unigolion hyn
ar draws y gwasanaeth i ddatblygu eu gyrfaoedd.
- Dywedodd y Cyfarwyddwr ei fod yn
gwerthfawrogi’r holl a’u cyfraniadau.
Mae gan y Gwasanaethau Cymdeithasol gannoedd o staff â chymwysterau
gwahanol a nhw yw mwyafrif y gweithlu ond mae rhai gofynion statudol
ynghylch cael gweithwyr cymdeithasol cymwysedig mewn rolau penodol ac ar
gyfer y rolau hyn mae prinder gweithwyr cymdeithasol.
- Gofynnodd y panel am ychwanegiadau'r farchnad
ac a ydynt i'w cynnig i weithwyr cymdeithasol ac uwch-weithwyr
cymdeithasol yn y tri thîm ardal yn unig.
Cadarnhaodd swyddogion nad oes unrhyw gymhellion ariannol eraill
wedi'u cynllunio ar gyfer y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd ar hyn o bryd
ond mae ffocws mawr ar les.
- Dywedodd y Cynullydd fod y cynnydd gyda'r
adran dros y 10 mlynedd diwethaf wedi bod yn rhyfeddol ac mae'n rhoi hyder
iddo fod y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn dod o gefndir
diogelu.
Camau Gweithredu:
- Darparu gwybodaeth am ddadansoddiad o
weithlu'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd i'r Panel.
|
6. |
Er gwybodaeth PDF 126 KB
·
Ameren y Rhaglen Waith ar gyfer
2021-22
Cofnodion:
Nododd y Panel eitemau ar y rhaglen waith ar gyfer gweddill y flwyddyn
ddinesig hon.
|
7. |
Gwahardd y Cyhoedd PDF 313 KB
Cofnodion:
Pleidleisiodd y Panel a chytunodd i wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod
eitem 9, am ei bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig.
Paragraff 13 yw'r paragraff
perthnasol ym mhrawf budd y cyhoedd.
|
8. |
Ty Nant - Diweddariad ar y cynnydd gyda'r cynllun gweithredu PDF 256 KB
Chris Francis, Prif Swyddog Gwasanaethau Comisiynu a Gofal
Cofnodion:
Trafododd y Panel yr eitem mewn sesiwn gaeedig.
Daeth Chris Francis, Prif Swyddog y Gwasanaethau Comisiynu a Gofal, i roi'r
wybodaeth ddiweddaraf i'r Panel am yr eitem hon.
Pwyntiau i'w trafod:
- Cadarnhaodd swyddogion eu bod am fynd yn
llawer pellach yn y dyfodol na'r hyn oedd yn y cynllun gweithredu ac y
bydd nifer o wiriadau ac adolygiadau bach yn cael eu cynnal i wirio
effaith.
- Amlygodd yr arolygiad nifer o feysydd lle'r
oedd y broses yn gadarnhaol gan gynnwys rheolaeth.
- Roedd y staff o'r farn bod yr arolygiad yn
rhoi adlewyrchiad annheg o'u harferion mewn rhai meysydd gan fod cyfnodau
o reoli argyfwng drwy gydol y cyfnod hwnnw oherwydd y pandemig.
- Roedd y staff yn teimlo, o ran sicrhau
ansawdd, fod enghreifftiau gwych o arfer da, ond nid oedd y rhain wedi'u
cofnodi yn unman. Felly, pan gynhaliwyd yr arolygiad, ni allai'r arolygwyr
weld beth oedd wedi digwydd i gyflawni'r canlyniadau.
- Soniwyd am ddiffygion hyfforddi yn yr
adroddiad arolygu. Roedd y staff yn
teimlo bod hyn yn annheg gan fod eu harfer yn cael ei ategu gan
hyfforddiant da iawn ond gan nad oedd wedi'i gynnwys yn y matrics
hyfforddi, nid oedd yn bosib i arolygwyr nodi hyn yn hawdd.
- Holodd y panel a oedd y dirprwy reolwr yn dal
i ymgymryd â rôl waith yn ogystal â rheoli. Cadarnhaodd swyddogion fod yr aelod hwn
o staff yn y strwythur newydd 'oddi ar rota'
wrth ymgymryd â'r swyddogaeth reoli.
- Dywedodd y panel, os oes unrhyw beth y gallant ei wneud fel panel craffu, o ran yr elfen perfformiad,
i helpu swyddogion gyda'u gwaith y dylent roi gwybod iddynt.
- Cadarnhaodd swyddogion y bydd adroddiad
blynyddol yn cael ei lunio ym mis Ebrill 2022 a gallai fynd gerbron y
Panel pe baent yn dymuno edrych ar y canfyddiadau.
- Roedd gan y Panel ddiddordeb mewn clywed
unrhyw syniadau i weld sut yn union mae'r gwasanaeth hwn yn gweithio.
Ymatebodd swyddogion y gallent feddwl am gynhyrchu fideo 'Diwrnod ym
mywyd...' o blant yn Nhŷ Nant, am ryw adeg yn y dyfodol.
- Dywedodd swyddogion eu bod wedi bod yn siarad
â'r adran addysg am waharddiadau ysgol o ran plant sy'n derbyn gofal a
gwahanol ffyrdd o fynd i'r afael â hyn.
Hoffent gyflwyno adroddiad ar hyn i'r Panel yn y dyfodol.
- Roedd y panel yn falch o weld llawer o
ymdrech yn cael ei roi wrth lunio'r adroddiad a dderbyniwyd gan
Arolygiaeth Gofal Cymru a'u bod yn mynd i'r afael â'r materion.
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 13 Rhagfyr 2021) PDF 200 KB
|
|
Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 13 Rhagfyr 2021) PDF 596 KB
|