Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol
Cofnodion:
Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.
|
2. |
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau
Cofnodion:
Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.
|
3. |
Cofnodion Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 317 KB
Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod
yn gofnod cywir.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cytunodd y panel fod nodiadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mai 2021 yn
gofnod cywir o'r cyfarfod.
|
4. |
Cwestiynau Gan y Cyhoedd
Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar
y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag
eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.
Cofnodion:
Ni gyflwynwyd unrhyw gwestiynau.
|
5. |
Diweddaraf am y Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol PDF 193 KB
Nichola Rogers, Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol, Gwasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Daeth Nichola Rogers, Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol Gwasanaeth Mabwysiadu
Bae'r Gorllewin, i'r cyfarfod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Panel am waith
y gwasanaeth ac adolygiad o'i berfformiad yn 2020-21.
Pwyntiau i'w trafod:
- Roedd 2020 yn flwyddyn
anodd i'r gwasanaeth. Mabwysiadodd
y gwasanaeth ddull busnes fel arfer drwy ddulliau rhithwir a llwyddodd i
gynnal perfformiad er gwaethaf y pandemig.
- Bu gostyngiad yn
nifer y plant a gafodd eu hatgyfeirio i'w lleoli yn Abertawe yn 2020-21.
- Mae gan y
gwasanaeth bedair blaenoriaeth allweddol yn 2021-22.
- Holodd y Panel
faint o blant sydd ar gael i'w mabwysiadu yn Abertawe ar hyn o bryd. Faint o rieni mabwysiadol sydd ar gael
ac os yw plant sy'n aros i gael eu mabwysiadu mewn gofal maeth. Nodwyd bod y gwasanaeth yn paru pedwar
plentyn ar hyn o bryd. Ar ddiwedd
mis Ebrill 2021 roedd 15 set o rieni mabwysiadol ar gael ac ar hyn o bryd
mae rhai mabwysiadwyr yn aros ond mae hyn yn newid o fis i fis. Os nad oes mabwysiadwyr ar gael, bydd y
gwasanaeth yn ystyried ai maethu tymor hir yw'r cynllun cywir. Mae'n sefyllfa sy'n gwella.
- Teimlai'r panel
fod y ffigurau yn yr adroddiad yn dangos llawer o sefydlogrwydd. Cadarnhaodd swyddogion fod Bae'r
Gorllewin mewn sefyllfa dda ar gyfer lleoliadau ar hyn o bryd. Nid yw'r gwasanaeth yn dibynnu ar
fabwysiadwyr lleol yn unig; mae ganddynt gronfa ehangach.
- Nid yw effaith y
pandemig ar niferoedd yn hysbys ar hyn o bryd gan y gall gymryd amser i
niferoedd ddod drwy'r system. Mae'r
gwasanaeth yn monitro hyn.
- Soniodd y Panel am
erthygl a nododd ein bod yn rhy gyflym i roi plant i'w mabwysiadu (nid o
reidrwydd yn Abertawe). Cadarnhaodd
swyddogion fod y tri awdurdod wedi edrych ar leihau PDG yn ddiogel. Yn
Abertawe, bu gostyngiad yn nifer y plant sy'n cael gorchymyn lleoli yn
ystod y flwyddyn ddiwethaf.
- Holodd y Panel pam
fod rhai plant o Abertawe wedi'u lleoli yn Lloegr. Esboniwyd nad oedd unrhyw fabwysiadwyr
ar gael yn lleol i gymryd rhai plant a oedd mewn grwpiau mwy o frodyr a
chwiorydd na rhai ag anghenion ychwanegol.
Nid yw cymhlethdod y plant sy'n dod drwy'r system yn cyfateb i
nifer y mabwysiadwyr sydd ar gael a fydd yn derbyn y plant hyn.
- Nododd y panel na
chofnodwyd unrhyw amhariadau y llynedd a gofynnwyd a yw'r gwasanaeth yn
fodlon nad oes unrhyw broblemau'n codi lle mae angen ymyrryd. Cadarnhaodd swyddogion fod rhai achosion
paru mabwysiadwr â phlentyn nad oeddent wedi mynd eu blaen, ond ni chafwyd
unrhyw darfu ar ôl i blentyn gael ei leoli.
- Roedd y panel am
wybod a yw'r gwaith Taith Bywyd wedi gwella. Nodwyd bod Gweithiwr Taith Bywyd wedi'i
benodi i helpu i wella gwaith Taith Bywyd, ac y bu gwelliant.
- Mae'r panel yn
teimlo ei fod yn adroddiad cadarnhaol iawn, y gorau y maent wedi'i weld
ers peth amser a diolchodd y Panel i Nichola a'r staff am eu holl waith
caled.
|
6. |
Adborth cychwynnol o Ymweliad Sicrhau Ansawdd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Cofnodion:
Rhoddodd Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, adborth
cychwynnol ar ymweliad Sicrwydd AGC mewn perthynas â'r Gwasanaethau Plant a
Theuluoedd.
Cynhaliwyd yr ymweliad yn rhithwir yn ystod yr wythnos yn dechrau 7 Mehefin
2021.
Pwyntiau i'w trafod:
- Roedd yr ymweliad
yn canolbwyntio ar ddau beth:
- Pa mor dda y
mae'r ALl yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol
- Pa mor dda y
mae'r ALl yn atal yr angen i blant ddod i ofal
- Roedd pedwar maes
blaenoriaeth – Llais y bobl a rheolaeth; Ataliaeth; Lles; Partneriaethau.
- Dewisodd AGC bum
achos, a ddewiswyd ar hap, i'w harchwilio.
- Mae Pennaeth y
Gwasanaeth yn credu bod AGC yn teimlo'n sicr bod yr ALl yn adnabod ei
wasanaeth yn dda ac nid oedd angen 'datblygu' unrhyw beth ymhellach.
- Teimlai'r panel
mai un o'r pethau cadarnhaol yn yr adborth cychwynnol yw proffil uchel y
rheolwyr. Nid dyma oedd yr achos yn
y gorffennol.
- Teimlai'r panel
fod ychydig iawn o feirniadaeth am yr hyn y mae'r awdurdod lleol wedi bod
yn ei wneud a bod yr adborth cychwynnol yn dda iawn. Mae'r panel yn edrych
ymlaen at weld adroddiad manwl yng nghyfarfod nesaf y Panel ym mis
Awst.
|
7. |
Adolygiad Panel y Flwyddyn 2020-21 a Rhaglen Waith Ddrafft 2021-22 PDF 222 KB
Cofnodion:
Dywedodd y Cynullydd ei bod wedi bod yn flwyddyn anodd i'r tîm craffu ac yn
flwyddyn anodd i reolwyr a staff y Gwasanaethau Cymdeithasol. Ni gynhaliwyd
cynifer o gyfarfodydd y panel y llynedd ac roedd tri o'r cyfarfodydd yn gyfarfodydd
ar y cyd rhwng paneli'r Gwasanaethau i Oedolion a'r Gwasanaethau Plant a
Theuluoedd, i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am sut i ymdrin â'r pandemig.
Pwyntiau i'w trafod:
- Teimlai'r Panel
fod y flwyddyn ddiwethaf wedi dangos i ni mai ffordd dda ymlaen yw
cyflwyno pynciau sy'n berthnasol i'r ddau Banel i un Panel yn lle, gydag
aelodau'r Panel arall yn cael eu gwahodd i fod yn bresennol, yn hytrach na
thrafod yr eitem gyda'r ddau banel.
Mae hyn yn lleihau'r straen ar amser swyddogion.
- Cododd y Panel y
mater o gartrefi plant yn Abertawe'n mynd drwy broses gynllunio. Cadarnhaodd Aelod o'r Cabinet fod
aelodau'r Pwyllgor Cynllunio mewn sefyllfa anodd gan ei fod yn fater
cynllunio ac ni allant ystyried barn y gyfarwyddiaeth Gwasanaethau
Cymdeithasol.
- O ran y rhaglen
waith ddrafft ar gyfer 2021-22, soniodd y Panel am bwysigrwydd edrych ar
pryd y caiff achosion eu cau yn yr adroddiad perfformiad, a gofynnodd am
gael gweld rhai enghreifftiau ymarferol.
Awgrymodd y Pennaeth Gwasanaeth y dylai'r Panel wylio fideos ar
'Ymchwiliad Gwerthfawrogol' o bryd i'w gilydd yng nghyfarfodydd y
panel. Cytunodd y panel y dylai'r
PG geisio caniatâd i ddangos fideo i'r Panel a chytuno ar ddyddiad panel
priodol yn y dyfodol agos.
Camau Gweithredu:
- Ychwanegu fideo ar
'Ymchwiliad Gwerthfawrogol' at y rhaglen waith.
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 22 Mehefin 2021) PDF 175 KB
|